Ganwyd yn 20 Castle Square, Caernarfon, 26 Hydref 1856, yn fab i Humphrey ac Ann Williams. Arweiniai 'r tad y canu yng nghapel Wesleaid y dref, ac hefyd gôr y capel. Yn 8 oed gosododd y tad y plentyn i ddysgu canu'r piano gyda Robert Roberts organydd eglwys gadeiriol Bangor, ac yn ddiweddarach i gael gwersi mewn cynghanedd a chanu'r organ gyda Dr. Rolant Rogers. Yn 1880 penodwyd ef yn organydd a chôrfeistr eglwys Crist, Caernarfon. Ystyrid ef yn un o gyfeilyddion gorau ei gyfnod, yn feirniad cymeradwy ac yn arweinydd gwyliau cerddorol yr eglwys. Enwogodd ei hunan fel arweinydd corawl yn ieuanc. Enillodd ei wobr gyntaf gyda chôr capel y Wesleaid yn 1875. Ac yn yr eisteddfodau cenedlaethol a ganlyn - 1876, 1888 gyda chôr meibion yn Wrecsam, a Rhyl 1892; gyda chôr cymysg yn Abertawe, 1891 (yr ail wobr); ym Mlaenau Ffestiniog 1898 (hanner y wobr); Llundain 1909; Wrecsam 1912. Efe oedd arweinydd côr eisteddfodau cenedlaethol Caernarfon 1886, 1894 a 1906, a Bae Colwyn 1910. Perfformiodd 'Y Meseia', 'Elijah' ac amryw o gyfanweithiau'r meistri, ac operâu Gilbert a Sullivan gyda'r Caernarfon Operatic Society. Bu côr meibion Brenhinol Eryri o dan ei arweiniad yn rhoddi cyngerdd yng nghastell Windsor yn 1899, ac anrhegwyd yr arweinydd â batwn hardd. Canodd y côr yng nghastell Caernarfon ar arwisgiad Tywysog Cymru yn 1911. Torrodd ei iechyd i lawr yn 1914, a gwnaed tysteb gyhoeddus iddo yn gydnabyddiaeth am ei lafur (a chafodd ei briod y pensiwn sifil). Bu farw 25 Tachwedd 1917, a chladdwyd ym mynwent Llanbeblig.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.