a welir ymhob llyfr tonau cynulleidfaol Cymraeg, ac yn Songs of Praise a llyfrau tonau Saesneg eraill. Cyfansoddodd y Dr. R. Vaughan Williams amrywiadau ohoni.
Ganed Robert Williams yn ffermdy Mynydd Ithel, Llanfechell, sir Fôn, yn fab i Owen Williams a Mary (ganwyd Davies). Bedyddiwyd ef ar 27 Hydref 1782 yn Llanfechell. Yr oedd yn ddall o'i enedigaeth, ac enillai ei fywoliaeth drwy wneud basgedi, ond yr oedd hefyd yn gerddor o gryn fri.
' Bethel ' oedd yr enw a roddwyd gyntaf i'r dôn a elwir heddiw yn ' Llanfair ', a'r enw hwnnw a roddir iddi yn llawysgrif Robert Williams ei hun, lle y dyddir hi 14 Gorffennaf 1817. Argraffwyd hi gyntaf (eto tan yr enw ' Bethel'), fel y'i cynganeddwyd gan John Roberts (1807 - 1876) o Henllan, yn Peroriaeth Hyfryd (1837) gan John Parry (1775 - 1846).
Cofnodir ei gladdu dan yr enw Robert Owen, yn dilyn yr arferiad o gyplysu enwau priod mab â'i dad, yng nghofrestr plwyf Llanfechell, 15 Gorffennaf 1818, ond dywedir mai ym mynwent Llanrhwydrys y'i claddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.