BRAZELL, DAVID (1875 - 1959), datganwr

Enw: David Brazell
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1959
Priod: Catherine Brazell (née Hughes)
Rhiant: Mary Brazell
Rhiant: John Brazell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: datganwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yn Cesail Graig, y Pwll, ger Llanelli, Sir Gaerfyrddin, 23 Chwefror 1875, yn fab i John a Mary Brazell. Fe'i magwyd ar aelwyd gerddorol; yr oedd ei dad (glöwr wrth ei alwedigaeth) yn bur hoff o gerddoriaeth, a dau o'i frodyr, John a Thomas, yn gerddorion pur amlwg, gyda'r naill yn rhagori fel unawdydd tenor, a'r llall fel arweinydd corawl ac fel arweinydd y gân yn eglwys Annibynnol y Pwll. Aethai David a John ar daith saith mis i T.U.A. gyda chôr Llanelli yn 1909-10; bu John farw ar y llong ' Mauretania ' wrth ddychwelyd i Brydain o Efrog Newydd.

Ar ôl gadael ysgol elfennol y Pwll aeth i weithio i'r diwydiant alcam, gan ymroi i astudio cerddoriaeth yn Llanelli yn ei oriau hamdden, yn gyntaf gyda Maggie Aubrey, ac yn ddiweddarach gyda R.C. Jenkins, arweinydd Cymdeithas Gorawl Llanelli, a gŵr a fu'n astudio wrth draed Joseph Parry. Bwriodd ei brentisiaeth fel datganwr yn yr eisteddfod, ac ar gymhelliad R.C. Jenkins aeth i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ym mis Mai 1901, lle y bu'n astudio am bum mlynedd gyda Frederic King (canu), Frederic Corder (cynghanedd a gwrthbwynt), ac Edgardo Levi (opera). Cafodd yrfa ddisglair fel myfyriwr; enillodd chwech o fedalau'r academi, a chymerodd ran amlwg mewn perfformiadau o rai o'r prif operâu yno. Ar derfyn ei gwrs yn 1906 cynigiwyd iddo ymrwymiadau gyda rhai o'r prif gwmnîau opera, ond er iddo ymaelodi dros gyfnod byr â Chwmni Opera Carl Rosa, dewisodd ddilyn gyrfa fel datganwr proffesiynol ar ei liwt ei hun.

Bu'n cyngherdda yn y mwyafrif o'r prif ddinasoedd yng Nghymru ac yn Lloegr, yn ogystal ag ar y cyfandir. Canodd hefyd yng nghyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol ac yng Ngŵyl Harlech, a daeth yn ffefryn mawr gyda rhai o brif gyfansoddwyr ei ddydd. Ar gais Edward German cymerodd ran ' The Earl of Essex ' yn ei opera Merrie England yn Bournemouth, ac fe'i gwahoddwyd gan Edward Elgar i ganu mewn perfformiadau cynnar o'i oratorio The Dream of Gerontius. Cyfansoddwr arall a'i hedmygai oedd D. Vaughan Thomas, a ysgrifennodd a chyflwyno iddo ei gân adnabyddus ' Angladd y Marchog ', yn ogystal â'i drefniant o ' Y bwthyn bach to gwellt ' (' Crych Elen ', Thomas Lloyd.

Yr oedd yn berchen llais bariton swynol a chyfoethog, a bob amser o dan lywodraeth gadarn, a chan fod ei arddull ac ansawdd ei lais yn ddelfrydol i bwrpas recordio y mae'n un o'r rhai cyntaf y gwelir ei enw yng nghatalogau'r cwmnïau gramoffôn. Dechreuodd recordio ar roliau cŵyr cyn troad y ganrif, a pharhaodd i recordio (baledi, detholion o opera ac oratorio, a chaneuon Cymraeg) ar ddisciau 78 i tua hanner dwsin o wahanol gwmnïau hyd at y tri degau.

Yr oedd yn gyfeillgar â llu o gerddorion amlwg a dylanwadol. Ef a ysbrydolodd Katie Moss (yn 1910) i ysgrifennu ' The Floral Dance ' wedi ei seilio ar alaw o Gernyw, cân a ddaeth yn un o brif ffefrynnau'r datganwr Peter Dawson. Priododd yn 1938 â Catherine Hughes, prifathrawes ysgol Coleshill, Llanelli. Bu farw yn ysbyty Bryntirion, Llanelli, 28 Rhagfyr 1959, ac amlosgwyd ei gorff yn Nhreforus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.