Ganwyd 24 Mehefin 1891 yn ffermdy Plas Capten, Trawsfynydd, Meirionnydd, yn fab i William Davies a'i wraig Ruth (ganwyd Humphreys). Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Trawsfynydd (yr oedd Hedd Wyn yn gyfaill iddo yno), ond fel llawer o'i gyfoedion bu'n rhaid iddo ymadael â'r ysgol yn gynnar i weithio gartref ar y fferm. Gwasanaethodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mhalesteina a Ffrainc yn Rhyfel Byd I. Ar ôl hynny, hyd nes iddo ymddeol yn 1956, gweithiodd yn olynol yn chwareli Maenofferen, yr Oakleys a'r Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Y peth cyntaf a wnaeth ar ôl ymddeol oedd sefydlu cymdeithas leol i gael gwaith a gwell amodau byw i'r anafus.
John Dyfnallt Owen, pan oedd yn weinidog yn Nhrawsfynydd rhwng 1898 ac 1901, a'i symbylodd i ddechrau cymryd diddordeb yn hanes ei fro enedigol a bu wrthi'n ddyfal ar hyd ei oes yn casglu deunydd ac yn chwilota i'r pwnc. Ysgrifennodd yn achlysurol i bapurau fel Y Cymro, Y Dydd, Y Rhedegydd, Y Seren, Yr Herald Cymraeg a'r Genedl etc. Ystyrid ef yn awdurdod ar hanes Trawsfynydd a'r cylch. Diogelir ei holl lawysgrifau, yn unol â'i ddymuniad, yn y Llyfrgell Genedlaethol, rhifau NLW MS 17843-17932 (ceir detholiad ohonynt ar feicroffilm yn swyddfa cofysgrifau Meirionnydd). Yr oedd Morris Davies (neu 'Moi Plas' fel y gelwid ef yn lleol), yn berson diwylliedig, hoffus a llawn hiwmor.
Priododd ddwywaith: (1) yn 1919 â Kate Lewis, Cwm Cynfal, Ffestiniog (bu farw 1929), a ganed pedair merch iddynt; (2) yn 1931 â Lisi Jones, Tanygrisiau (bu farw 1968). Bu farw ym Mlaenau Ffestiniog 16 Ebrill 1961 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Salem, Trawsfynydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.