DAVIES, DAVID THOMAS (1876 - 1962), dramodydd

Enw: David Thomas Davies
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1962
Priod: Jane Davies (née Davies)
Rhiant: Martha Davies (née Thomas)
Rhiant: Thomas Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dramodydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Huw Walters

Ganwyd 24 Awst 1876 yn Nant-y-moel, Llandyfodwg, Morg., yn fab i Thomas Davies a'i wraig Martha (ganwyd Thomas). Cafodd ei addysg yn y Gelli, Ystrad, Cwm Rhondda, ac yn ysgol Thomas James, Llandysul, Cer. Bwriadai ei dad iddo fynd i'r weinidogaeth, ond ar ôl graddio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1903, aeth yn athro i'r Central Foundation School, Llundain. Gwasanaethodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc yn ystod Rhyfel Byd I, ac yn 1919 penodwyd ef yn arolygydd ysgolion dan y Weinyddiaeth Addysg gan symud i fyw i Bontypridd. Ymddeolodd yn 1936 a symudodd i fyw i Borthcawl. Symudodd drachefn i Abertawe yn 1954 lle y bu farw 7 Gorffennaf 1962. Claddwyd ef ym mynwent Glyn-taf, Pontypridd. Priododd â Jane Davies, yn Nhrealaw, 29 Gorffennaf 1909 a bu iddo un ferch.

Y mae D.T. Davies yn haeddu lle teilwng ymhlith dramodwyr cymdeithasol Cymraeg hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Daeth i gyswllt â John Oswald Francis tra oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth, a chafodd gyfle i ymgydnabod â dramâu Saesneg y cyfnod pan fu'n athro ysgol yn Llundain. Yr oedd dramâu Ibsen yn ffasiynol yn theatrau Llundain a bu'r rhain yn batrymau i D.T. Davies a'r to newydd o ddramodwyr Cymraeg fel Robert Griffith Berry, J.O. Francis a William John Gruffydd. Lluniodd nifer o ddramâu hir a mwy fyth o ddramâu byrion ac ymhlith ei weithiau pwysicaf y mae Ble ma fe? (1913), Ephraim Harris (1914), Y pwyllgor (1920), Castell Martin (1920) a Pelenni Pitar (1925). Torrodd dir newydd gyda'r dramâu hyn drwy roi portread ffyddlon o fywyd a'i feirniadu'n onest. Bu bri arbennig ar ei weithiau yn ystod y dauddegau pan ddaeth y mudiad drama Cymraeg i'w lawn dwf yng nghymoedd y de, a phan sefydlwyd cwmnïau a gwyliau drama yn y capeli ac yn neuaddau'r gweithwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/