Ganwyd 20 Ebrill 1899 yn Norman Road, Llundain, yn fab hynaf William a Margaret Davies, dau Gymro o wehelyth amaethyddol gogledd Ceredigion. Cafodd ei addysg yn ysgol Sloane, Llundain, ac ar ôl gwasanaethu gyda'r fyddin yn 1917-18 aeth yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ennill gradd B.Sc. yn 1923 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn botaneg. Fe'i penodwyd ar staff Bridfa Blanhigion Cymru y flwyddyn honno, a dyna ddechrau'r gyfathrach hir a chynhyrchiol rhyngddo ef ac R.G. Stapledon. Bu'n enetegydd planhigion yn Palmerston North, Seland Newydd, 1929-31, a bu ei waith yno yn sylfaen i'r dewis o drasau a ddatblygwyd ar gyfer tir glas yn y wlad honno. Ymwelodd ag Awstralia bryd hynny, a chafodd gyfle i dreulio blwyddyn yno yn 1932-33. Rhwng 1933 ac 1940 ef ydoedd pennaeth adran astudiaethau tir glas y Fridfa, ond ni chyfyngodd ei waith i arbrofion yn unig, eithr gwnaeth arolwg o dir glas a thir diffaith Cymru a'i gyhoeddi yn A survey of the agricultural and waste lands of Wales yn 1937, dan olygyddiaeth R.G. Stapledon a gyda chynhorthwy ariannol gan David Lloyd George. Rhwng Tachwedd 1936 a Mawrth 1938 gwnaeth arolwg manwl o dir glas ynysoedd y Falklands a chyhoeddwyd ei adroddiad, The grasslands of the Falkland Islands, yn 1939. Yn ystod 1938 ac 1939 gwnaeth ef a'i gynorthwywyr arolwg o dir glas Lloegr a'i fapio'n ofalus. Defnyddiwyd yr arolwg hwn yn ganllaw yn y gwaith o aredig tir glas yn ystod Rhyfel Byd II ar gyfer codi mwy o ŷd a chnydau âr eraill. Bu'r arolwg hwn yn foddion i ddwysáu ei gred mewn aredig tir glas parhaol a'i ail hadu'n dir glas dros dro a fyddai'n fwy cynhyrchiol lawer. Dyma'r adeg y cyhoeddwyd Ley farming ar y cyd gydag R.G. Stapledon. Canlyniad arall i'r arolwg tir glas fu sefydlu Gorsaf Gwella Tir Glas yn 1940 yn ymyl Stratford-on-Avon, gydag R.G. Stapledon yn gyfarwyddwr a William Davies yn is-gyfarwyddwr. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr ar ymddeoliad Stapledon yn 1945, a pharhaodd yn y swydd honno ar ôl i'r gwaith gael ei symud yn 1949 i ganolfan newydd gerllaw Hurley yn nyffryn Tafwys, sef Sefydliad Ymchwil Tir Glas, a bu yno tan iddo ymddeol yn 1964. Cyhoeddodd lawer iawn o ysgrifau ac erthyglau yn ei briod faes, ond ei gampwaith yw The grass crop (1952)-cyfrol sy'n crynhoi ei astudiaeth, ei fyfyrdod a'i ymgynghoriad ynglŷn â thir glas ymhob rhan o'r byd yn ystod y chwarter canrif blaenorol. Teithiodd ymhell ac agos i gynghori llywodraethau a chymdeithasau rhyngwladol ar faterion ymchwil a datblygiad mewn tir glas, a bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Tir Glas Prydain (British Grassland Society) yn 1945, a bu'n llywydd arni ar ddau achlysur ac yn aelod wrth anrhydedd ohoni am oes. Enillodd raddau M.Sc. a D.Sc. Prifysgol Cymru a chafodd radd D.Sc. er anrhydedd gan Brifysgol Seland Newydd yn 1956. Fe'i hanrhydeddwyd â'r C.B.E. yn 1964, ac yr oedd yn gymrawd er anrhydedd o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr, ac yn llywydd er anrhydedd am oes o Ffederasiwn Tir Glas Ewrob.
Priododd, 1928, Alice Muriel Lewis a ganwyd iddynt un mab. Bu farw 28 Gorffennaf 1968, a chladdwyd ei lwch ym mynwent Llanfihangel Genau'r-glyn, Ceredigion.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.