EDWARDS, JOHN (1882 - 1960), gwleidydd a bargyfreithiwr;

Enw: John Edwards
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1960
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd a bargyfreithiwr;
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion, 28 Chwefror 1882, mab James Edwards, gweinidog (A) Soar, Llanbadarn, a Rachel (ganwyd Jones) ei wraig. Symudodd y teulu i Gastell-nedd erbyn 7 Ionawr 1883 pan ddechreuodd y tad fugeilio eglwys Soar yn y dref honno; addysgwyd ef yn yr ysgol Frytanaidd a'r ysgol sir yng Nghastellnedd. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle y cymerodd radd B.A. (Llund.) a bu'n athro ysgol yn Aberdâr am rai blynyddoedd.

Bu'n filwr yn Ffrainc gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a dyfarnwyd y D.S.O. iddo, cafodd reng is-gyrnol, a'i enwi ddwywaith mewn cadlythyrau. Bu'n chwarae rygbi dros Gymry Llundain a Middlesex. Etholwyd ef yn aelod seneddol (Rh.) dros Aberafon ym mis Rhagfyr 1918, ond collodd y sedd i Ramsay Macdonald yn 1921. Safodd fel ymgeisydd annibynnol dros Brifysgol Cymru yn 1923, ond George M.Ll. Davies a etholwyd. Galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn yn 1921. Ef oedd siryf Ceredigion yn 1942. Yr oedd ganddo ddiddordeb yn y ddrama Gymraeg a chyhoeddodd ddrama Galw'r môr (1923) yn ogystal â chofiant i'w dad, Edwards Castellnedd (1935), ac ysgrifau yn ymwneud â'i alwedigaeth yn yr English and Empire Law Digest, a chyfnodolion eraill.

Priododd yn Llundain 27 Hydref 1932 Gweno Elin merch hynaf Joseph Davies Bryan (a Jane, ganwyd Clayton), Alecsandria, yr Aifft, un o noddwyr mawr C.P.C. Aberystwyth (gweler o dan BRYAN, ROBERT), a bu iddynt ddau fab a merch. Cartrefodd yn Llwyn, 11 West Road, Kingston Hill, Surrey a bu farw yn ysbyty Surbiton 23 Mai 1960. Claddwyd ei lwch yn Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.