EVANS, EVAN (1882 - 1965), gŵr busnes

Enw: Evan Evans
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1965
Priod: Nancy Meurig Evans (née Davies)
Rhiant: Elizabeth Evans (née Davies)
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr busnes
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 8 Tachwedd 1882 yng Nglanyrafon, Betws Leucu, Ceredigion, yn fab i David ac Elizabeth (ganwyd Davies) Evans. Dim ond naw oed ydoedd pan adawodd yr ysgol yn Llangeitho. Yn 15 oed aeth i weithio yn siop laeth cefnder iddo yn Marylebone heb fawr ddim Saesneg, ond mynychodd ysgol nos yn Llundain i ddysgu'r iaith. Yn ugain oed yr oedd yn berchen ei siop laeth ei hun cyn prynu fferm, a throi at gadw gwesty, busnes gwerthu ceir, a sefydlu cwmni twristiaeth Evan Evans Tours Ltd. ac iddo gysylltiadau bydeang. Cymerai ddiddordeb ym mywyd cyhoeddus Bwrdeistref S. Pancras fel cynghorydd 1922-59 a henadur 1935-45, maer 1939-41, dirprwy faer am 5 mlynedd, ac ynad heddwch. Gweithiodd yn ddygn i roi lloches i'r rhai a gollodd eu cartrefi trwy gyrchoedd awyr 1940. Bu'n aelod o gyngor sir Llundain 1931-34 a gwnaed ef yn rhyddfreiniwr Dinas Llundain yn 1946. Ac yntau'n flaenor er 1932, gwasanaethodd Eglwys Jewin (MC) fel ysgrifennydd o 1938 hyd ei farw, a bu'n llywydd Cymdeithasfa'r De, 1961-62. Cyfrannodd at gyhoeddi cyfrol Tom Beynon ar Howel Harris yn Llundain. Urddwyd ef i wisg werdd Gorsedd y Beirdd wrth yr enw Ifan Gwynfil yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964. Priododd Nancy Meurig Davies yng Nghapel Jewin, 19 Chwefror 1936, a bu iddynt un mab. Bu farw yn ei gartref yn Guildford Street, 24 Gorffennaf 1965, a chladdwyd ef ym mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.