EVANS, THOMAS JOHN (1894 - 1965), swyddog mewn llywodraeth leol a gweinyddwr enwadol (B)

Enw: Thomas John Evans
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1965
Priod: Margaret Gwendoline Evans (née Hodges)
Rhiant: Mary Ann Evans (née Williams)
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog mewn llywodraeth leol a gweinyddwr enwadol (B)
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 30 Mawrth 1894 yng Nghaerfyrddin yn fab efaill i David Evans (bu farw 16 Awst 1926 yn 55 mlwydd oed), swyddog carchar, a Mary Ann Evans (ganwyd Williams; bu farw 24 Rhagfyr 1895 yn 25 mlwydd oed). Tua thri mis wedi ei eni symudodd y teulu i Shepton Mallet, lle y derbyniasai ei dad swydd, ac wedi marw ei fam dychwelodd y mab i Gaerfyrddin i'w fagu gan ei fam-gu, Eliza Williams, ar yr un aelwyd, ymhlith eraill, â'i ewythr David Evans Williams, M.A. (1876 - 1947), gweinidog (B) Salem, Blaenau. Bu'r ewythr yn drwm ei ddylanwad ar ei dwf, a braint y nai erbyn 1948, mewn cywaith ag E.T. Samuel, oedd llunio cyfrol deyrnged iddo, Through suffering to triumph, yn coffáu ei fywyd cystuddiol.

Derbyniodd ei addysg yn ysgol gyngor y bechgyn, Pentre-poeth, ac ar 17 Chwefror 1908 cychwynnodd ar ei waith oes yn adran gyllid addysg Swyddfa'r Sir yng Nghaerfyrddin, i ddechrau fel clerc iau ac o 5 Tachwedd 1924 ymlaen fel cyd-drysorydd y sir gyda chyfrifoldeb yn unig am addysg. Ymddeolodd 5 Ebrill 1958, flwyddyn ynghynt na phryd er mwyn hwyluso'r gwaith o gyfuno'r ddwy drysoryddiaeth. Priododd, 22 Tachwedd 1923, yn y Tabernacl, Caerfyrddin, Margaret Gwendoline Hodges (27 Mehefin 1894 - 22 Mawrth 1951), cydnabod bore oes yn yr eglwys, a ganed iddynt un ferch. Ei deyrnged bersonol i'w wraig yw'r gyfrol fechan Gwen — A tribute of love and remembrance (1951) a gyhoeddwyd yn breifat ganddo.

Bu ar hyd ei oes yn nodedig o weithgar o blaid lliaws o achosion da yn nhref Caerfyrddin, ac yn ei eglwys, lle y bu'n ddiacon ac ysgrifennydd (1921-64). Yr oedd ei adroddiadau blynyddol yn batrwm o fanylder a phrydlondeb, ac un o'i gymwynasau pwysicaf oedd diogelu cofnodion yr eglwys a'u trosglwyddo ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (llawysgrifau Ll.G.C. Adnau 746-71, 813-14, 817). Rhan o'r un gofal am ffynonellau hanes y Tabernacl oedd ei waith yn cyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol ddyddiaduron dau o'r cyn-weinidogion, Hugh William Jones (‘Yr Utgorn Arian’) ac Evan Ungoed Thomas (llawysgrifau Ll.G.C. 1896-9, Ll.G.C. Adnau 791-816, 827-66).

Cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil ei hun droeon yn llenyddiaeth yr enwad, e.e. yn rhaglen cynhadledd flynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru yn y Tabernacl yn 1937, ac yn ei gyfrol Fragrant memories. The story of two ministries. The Rev. John Thomas (1875-1891). The Rev. Evan Ungoed Thomas (1892-1930) (1941). Bu'n drysorydd y Gymanfa, 1939-55, ac o hynny ymlaen yn drysorydd yr Undeb; yn llywydd Urdd y Seren Fore, 1936-37; yn llywydd Undeb Bedyddwyr Ieuainc Cymru, 1952-58; yn llywydd y Gymanfa, 1951-2, a'i anerchiad o'r gadair ar y testun ‘Yng nghanol y blynyddoedd’; ac ym mis Tachwedd cyn ei farw yr oedd wedi ei godi'n is-lywydd adran Gymraeg yr Undeb, a'r gynhadledd flynyddol (cynhadledd dathlu'r canmlwyddiant) eisioes wedi ei gwahodd yn ôl i'w haelwyd gyntaf yng Nghaerfyrddin.

Bu ar hyd y blynyddoedd yn frwd ei gefnogaeth i Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, ac ef yn 1959 a fu'n gyfrifol am gasglu cyfran Cymru tuag at ysbyty goffa Thomas Lewis yn Angola a threfnu cwrdd dathlu ei ganmlwyddiant yn ei hen gartref ym Mhontyfenni ger Hendy-gwyn. Y mae awgrym pendant o'i safbwynt radicalaidd ymneilltuol yn ei gyfrol deyrnged, Syr Rhys Hopkin Morris … The man and his character (1958).

Diweddodd ei oes ar aelwyd ei ferch a'i fab-yng-nghyfraith yn Parson's Lodge, Clunderwen, ac yno y bu farw 9 Mawrth 1965. Claddwyd ef 12 Mawrth ym mynwent y Tabernacl. Yr oedd newydd orffen llunio'i hunangofiant, Golden strands. Some memories along life's pilgrimage (1965), a'r llawysgrif, yn ôl yr hanes, wedi cyrraedd yr argraffwyr fore'i farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/