FAGAN, THOMAS WALLACE (1874 - 1951), cemegydd amaethyddol

Enw: Thomas Wallace Fagan
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1951
Priod: Helena Teresa Fagan (née Hughes)
Rhiant: Katherine Fagan (née Griffiths)
Rhiant: James Wallace Fagan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cemegydd amaethyddol
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Llywelyn Phillips

Ganwyd 4 Chwefror 1874 yn Nhal-y-sarn, Arfon, yn fab James Wallace a Katherine Fagan. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol, ysgol Denstone, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, a graddiodd yn 1898. Bu am gyfnod byr yn athro cemeg yn ysgol uwchradd Abertyleri (ei olynydd yn y swydd honno oedd Thomas Jacob Thomas, ' Sarnicol ') ac yna aeth i astudio gyda'r athrawon Dobbie a Winter yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng ngholeg amaethyddol Harper Adams, Swydd Amwythig, yn 1904, ac ar ôl hynny bu'n ddarlithydd yn adran amaethyddol Prifysgol Caeredin. Yn 1919 fe'i hapwyntiwyd ar staff Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel cynghorwr mewn cemeg amaethyddol dan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth dros siroedd cylch y coleg. Daeth yn bennaeth adran cemeg amaethyddol y coleg yn 1924, yn olynydd i J. Jones Griffith. Fe'i dyrchafwyd yn Athro yn 1931 ac ymddeolodd o'r swydd honno yn 1939.

Mewn cydweithrediad â Bridfa Blanhigion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng 1919 ac 1939 daeth Fagan yn un o wyddonwyr penna'r deyrnas ynglŷn â chemeg glaswellt. Yr oedd yn arloeswr yn y maes hwn ac y mae ei erthyglau, a gyhoeddwyd gan mwyaf yn y Welsh Jnl. of Agric., yn brawf o'i allu, ei ymroddiad a'i arweiniad fel gwyddonydd amaethyddol. Bu ei ddadansoddiadau manwl a chywir ef o werth amhrisiadwy i fridwyr planhigion, ac yn ôl R.G. Stapledon fe osododd Fagan sylfaen sicr ar gyfer deall y ffactorau aneirif sy'n dylanwadu ar werth maethol y porfeydd a'r meillion a phlanhigion eraill mewn tir glas. Parhaodd yn ymchwiliwr diwyd hyd ddiwedd ei oes, ond ni chafodd y clod dyladwy am ei waith arloesol, a hynny, fe ddichon, am ei fod yn ŵr swil wrth natur ac yn amharod i seinio clodydd ei waith ymchwil ei hunan.

Priododd Helena Teresa Hughes, a bu iddynt un mab. Bu farw yn Aberystwyth, 10 Chwefror 1951, a'i gladdu ym mynwent y dref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.