Ganwyd 19 Mawrth 1885, yn fab i Edward a Martha (ganwyd Matthews) Hamer, Summerfield Park, Llanidloes, Trefaldwyn. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg y dref honno, ac yn 1902 ymunodd â staff ffyrm ei dad, Edward Hamer a'i Gwmni, amaethwyr ar raddfa helaeth ac arloeswyr ym masnach cig oen Cymreig a gyflenwodd ofynion y teulu brenhinol dros 3 theyrnasiad. Yn 1919 daeth George yn unig berchen ffyrm o wneuthurwyr lledr ar enw'i frawd T. Pryce Hamer, a laddwyd yn Ffrainc yn Rhyfel Byd I. Pan drowyd y ffyrm yn gwmni cyfyngedig yn 1946 ef oedd cadeirydd y cyfarwyddwyr, ond pan gyfunwyd â ffyrm arall ym Mehefin 1954 ymddeolodd o'r gadair a pharhau'n gyfarwyddwr. Dechreuodd ar yrfa gyhoeddus yn 1919 pan etholwyd ef ar gyngor bwrdeistref Llanidloes. Bu'n aelod tan 1954, a bu'n faer un ar ddeg o weithiau, codwyd ef yn henadur yn 1932 a chafodd ryddfraint y fwrdeistref yn 1948. Etholwyd ef ar gyngor sir Drefaldwyn yn 1929, yn henadur yn 1949, a bu'n gadeirydd yn 1951-54 ac 1956-58. Ef oedd cadeirydd pwyllgor addysg y sir, 1947-51. Bu'n ynad heddwch o 1932, a bu'n gadeirydd mainc Llanidloes a phwyllgor ynadon y sir. Ef oedd uchel siryf Maldwyn yn 1949. O'r tu allan i'r sir bu'n aelod o Gyngor Cymru, 1949-54, ac 1956-59, Cyngor Ymgynghorol Canolog Addysg Cymru, 1945-49, Cyngor Ymgynghorol B.B.C. (Cymru), 1946-49, a'r Cyd-bwyllgor Addysg Cymreig. Bu'n gadeirydd Cyngor Ymgynghorol Bwrdd Nwy Cymru ac yn aelod o'r Bwrdd Nwy, 1949-58. Bu'n llywydd Urdd S. Ioan, Cymdeithas Sgowtiaid, a Chymdeithas Caeau Chwarae sir Drefaldwyn. Bu'n aelod o lysoedd holl golegau Prifysgol Cymru ac o lys y Brifysgol ei hun, llys a chyngor A.G.C. a llys Ll.G.C., Cyngor Datblygu Gogledd Cymru, Awdurdod Heddlu Canolbarth Cymru (is-gadeirydd hefyd), Cymdeithas Ddiwydiannol Cymru (is-lywydd hefyd), a phwyllgor cyffredinol Cyngor Diogelu Cymru Wledig. Ef oedd cadeirydd Clwb Bechgyn Llanidloes o'i ddechreuad yn 1937. Ymdaflodd yn llwyr i fywyd ei gymuned yn ei holl agweddau, ond fe ddichon mai ei gyfraniad mwyaf arwyddocaol oedd yr arweiniad cadarn a galluog a roes i'r gwasanaeth addysg yng ngweithrediad Deddf Addysg Butler yn 1944. Deilliai ysbrydoliaeth ei athroniaeth addysg i'r 20fed ganrif oddi wrth y ddau aelod seneddol Rhyddfrydol dros Sir Drefaldwyn a chwaraeodd ran arwyddocaol yn natblygiad addysg ganol ac uwch yng Nghymru yn y 19eg ganrif - yr Arglwydd Stuart Rendel ac A.C. Humphreys Owen.
Priododd Sybil Dorothy Vaughan Owen (uchel siryf Maldwyn, 1958), trydedd ferch Dr. John Vaughan ac Emma Wigley (ganwyd Davies) Owen yn eglwys Llanidloes 1 Gorffennaf 1920. Bu iddynt un ferch, Shirley Margaret Wynn, yr Arglwyddes Hooson. Bu Syr George farw ar 3 Chwefror 1965 a chladdwyd ef yn Llanidloes.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.