Ganwyd 9 Gorffennaf 1866, yn Nant-isaf (y lle y cymerodd ei enw barddol oddi wrtho), Bwlch-nant-yr-heyrn, uwchlaw Llanrwst, Sir Ddinbych, y pumed o naw plentyn (5 merch a 4 mab) John a Sarah Ann Harker. Ymfudasai ei hendaid, James Harker, o sir Gaerhirfryn i weithio yng ngwaith plwm y Nant yng nghanol y 18fed ganrif, ond yng Nghernyw y preswyliai'r teulu'n wreiddiol. Rhyw dair wythnos o addysg ffurfiol a gafodd Isnant, yn ysgol Frytanaidd Llanrwst, cyn mynd i'r gwaith plwm yn naw oed. Ymddiddorai ei dad mewn prydyddu ac yr oedd yn gymydog a chyfaill i'r bardd-deiliwr Trebor Mai (Robert Williams) a hwnnw, meddir, a wnaeth ei siwt gyntaf i Isnant. Gan nad oedd ond 11 oed pan fu farw Trebor Mai, nid yw'n debyg iddo gael dylanwad mawr ar y llanc. Newydd sefydlu Gorsedd Geirionydd a chynnal cyfres o arwestau ac eisteddfodau blynyddol ar lan Llyn Geirionydd yr oedd Gwilym Cowlyd (William John Roberts) ac yn awyrgylch y rheini y cymerodd y llanc o ddifri at y cynganeddion, meistroli Ysgol farddol Dafydd Morganwg (David Watkin Jones), a chystadlu yn yr eisteddfodau.
Wedi gadael gwaith y Nant bu am 15 mlynedd yn gweithio yn chwarel y Graig Ddu, Blaenau Ffestiniog, a 15 mlynedd arall ar stad Gwydir. Wedi hynny bu'n gweithio yn chwarel Cae Coch, Trefriw. Ymddeolodd yn 1933. Cyfansoddodd lawer iawn o englynion, awdlau, cywyddau a phryddestau, gan ennill llu o wobrwyon, 3 cadair, coron, a medal aur, mewn eisteddfodau.
Cyfrannai'n gyson i golofn farddol Y Tyst a'r cylchgronau Cymraeg. Ceir emyn o'i waith yn Llawlyfr Moliant (B). Bu'n ddiacon yn eglwys (A) Ebeneser, Llanrwst, ac, wedi cau honno, yn Ebeneser, Trefriw. I ddathlu ei ganfed penblwydd yn 1966 cyhoeddodd eglwys Ebeneser, Trefriw, gyfrol o'i waith o dan y teitl Canmlwydd Isnant. Bu'n bregethwr cynorthwyol cydnabyddedig yng nghyfundeb Gogledd Arfon am flynyddoedd gan roi gwasanaeth cymeradwy i eglwysi Dyffryn Conwy.
Priododd Jennie McGreggor tuag 1910, a gwnaethant eu cartref yn y Tŷ Mawn rhwng Trefriw a Llanrwst. Merch i goediwr ar stad Gwydir oedd hi, a bu farw yn 1933. Tuag 1950 symudodd Isnant i fyw at ei nith yn Llanrwst. Yn ei flynyddoedd olaf collodd ei olwg, ond gyda'i gof eithriadol llwyddodd i arddywedyd ei gerddi i'w gyd- ddiacon, Gwilym Roberts, eu hysgrifennu. Adroddodd ei gywydd i Ddyffryn Conwy i'w nith, Daisy Roberts, a'i gŵr, pan oedd yn 98 oed. Ymfudasai dau o'i frodyr i chwilio am aur yn Denver, Colorado. Bu farw 15 Mawrth 1969, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Trefriw.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.