HOWELLS, ELISEUS (1893 - 1969), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: Eliseus Howells
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1969
Priod: Muriel Howells (née Marwood)
Rhiant: Jane Howells
Rhiant: Eliseus Howells
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Unig blentyn Eliseus a Jane Howells o ardal Cefn Cribwr, Morgannwg. Lladdwyd y tad yn nhanchwa glofa Slip Parc Tir Gwnter, Cefn Cribwr, yn Awst 1892, a ganwyd yntau 8 Ionawr 1893 yn Augusta St., Ton Pentre, Cwm Rhondda, cartref William Howells, ei ewythr. Magwyd ef gan ei ewythr a'i fodryb. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol ac yn ysgol ganolradd Ton Pentre. Bu hefyd yn y Porth, Rhondda, i'w gymhwyso'i hun at gadw busnes. Dechreuodd bregethu yn eglwys Jerusalem, Ton, yn 1912, ac aeth i Goleg Trefeca yr un flwyddyn. Torrwyd ar ei gwrs gan Ryfel Byd I, a bu'n gwasanaethu gyda chwmni Cymreig yr R.A.M.C. yn Ffrainc; cafodd niwed i'w ysgyfaint y pryd hynny gan nwy gwenwynllyd. Dychwelodd i Drefeca wedi'r rhyfel, a gorffennodd ei gwrs addysgol yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth. Ordeiniwyd ef yn 1921, a bu'n gweinidogaethu ym Mlaengarw, Morgannwg (1921-28), Eglwys Gymraeg Henffordd (1928-31), a Lewisham, Llundain (1931-46). Chwalwyd ei gartref a chollodd ei lyfrgell a'i bapurau yn un o ymosodiadau'r gelyn, a galwyd ef i Hermon, Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, a gwasanaethu yno o 1946 hyd ei farwolaeth (ynghyd â Soar, Ewenni, o 1960 ymlaen). Priododd, 1922, Muriel, merch William Marwood, gweinidog Gelli Gandryll, a ganwyd dau fab o'r briodas. Bu farw 16 Awst 1969 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Pen-y-bont.

Yr oedd yn hynod o ran ei berson, yn ŵr tal esgyrnog dros chwe throedfedd, wyneb garw rhychiog, a llais dwfn i'w ryfeddu. Bu'n bregethwr gwreiddiol a thra derbyniol; traddodai yn nhafodiaith bersain bro Morgannwg, a bu galw mawr am ei wasanaeth drwy Gymru benbwygilydd. Deuai â ' Mr. Matthews ' Ewenni o hyd i'w bregethau, a bu'n darlithio arno hefyd. Bu'n llywydd Sasiwn y De (1959), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1963). Traddododd ddarlith goffa Dr. John Williams, Brynsiencyn, ac fe'i cyhoeddwyd gan William Morris (gol.), Pregethu (1969). Ysgrifennodd lawer i'r Goleuad, Y Traethodydd, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, ac i'r Drysorfa -bu'n olygydd yr olaf, 1959-63. Cyhoeddodd lyfryn Saesneg ar hanes Eglwys Hermon, Pen-y-bont, yn 1949. Ymddiddorodd am flynyddoedd yn hynafiaid a disgynyddion Howel ac Ann Harris o Drefeca, a cheir ffrwyth ei lafur yn NLW MS 20496C , Ll.G.C.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.