HUGHES, JOHN EDWARD (1879 - 1959), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: John Edward Hughes
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1959
Priod: Mary Hughes (née Jones)
Priod: Ada Hughes (née Davies)
Rhiant: Jane Hughes
Rhiant: John Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 8 Mehefin 1879 yn y Gronglwyd, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych, mab John a Jane Hughes. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ysgol ramadeg y Bala, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), a Choleg Diwinyddol y Bala (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth). Ei gydletywr yn Aberystwyth oedd ei gyfyrder, R.T. Jenkins - wedi hynny ei gyd-frawd-yng-nghyfraith. Dechreuasai bregethu yn 1899, ac ordeiniwyd ef yn 1907. Bu'n gweinidogaethu yn Engedi, Ffestiniog (1906-12), ac yn Horeb, Brynsiencyn a Phreswylfa, Llanddaniel, Môn (1913). Priododd (1), 1907, Ada Davies, Aberystwyth, a fu farw ymhen ychydig flynyddoedd; priododd (2), 1920, Mary Jones o Borth Amlwch; ganwyd un mab o'r briodas gyntaf, a thri mab o'r ail briodas. Bu farw 10 Ebrill 1959 yn ysbyty Anfield, Lerpwl, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanidan.

Yr oedd J.E. Hughes yn ddiwinydd go graff. Ei ysgrifau ar ' Berson Crist ' yn Y Traethodydd a dynnodd sylw'r Dr. John Williams, Brynsiencyn, ato ac ef a anogodd eglwys Brynsiencyn i roi galwad iddo. Yn ogystal ag ysgrifennu i'r Traethodydd, Y Drysorfa, a'r Goleuad, cyhoeddodd esboniad ar Efengyl Mathew yn ddwy gyfrol (1937-38). Golygodd hefyd Hanes dechreuad a chynnydd Methodistiaeth ym Mrynsiencyn (1924). Yr oedd yn bregethwr praff a sylweddol. Ymroes i wasanaethu'i Gyfundeb mewn llawer cylch, a bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd yn 1957.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.