Ganed yng Nghasnewydd, Gwent, 16 Chwefror 1899, yn unig ferch i Thomas John Jones, gorsaf-feistr Casnewydd, a Beatrice ei wraig. Pan oedd yn wyth oed fe'i clywyd yn canu'r piano mewn eisteddfod gan D. Vaughan Thomas, ac awgrymodd i'w mam fod dyfodol disglair iddi fel pianydd ar yr amod ei bod yn cael ei hanfon at athro cymwys. Yn 10 oed fe'i penodwyd yn organydd eglwys Mynydd Seion (A), Hill Street, Casnewydd, swydd y bu ynddi am dros 30 o flynyddoedd.
Enillodd ysgoloriaeth Caradog i astudio cyfansoddi a chanu piano yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd; dywedodd ei hathro yno, y Dr. David Evans mai hi oedd un o'r organyddion gorau a glywsai erioed. Dangosodd hefyd fedr anarferol fel pianydd yn ystod y cyfnod hwn, a chydnabuwyd hynny yn ddiweddarach pan ddewiswyd hi yn un o gyfeilyddion swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pwl, 1924.
Dilynodd yrfa broffesiynol fel unawdydd piano mewn parti cyngerdd, a daeth hefyd i amlygrwydd fel dynwaredwr, yn ogystal ag fel cantores ac unawdydd ar yr acordion. Bu'n aelod o sawl grwp amlwg ym myd adloniant yn Llundain, gan gynnwys ' The Five Magnets ', ' The Carroll Sisters ', a ' The Three Janes '. Darlledodd am y tro cyntaf o Savoy Hill, Llundain, gyda band Jack Payne yn 1928, ac am y tro cyntaf o Gaerdydd yn 1932. Bu hefyd yn darlledu yn y 1920au o Belfast, Birmingham a Bryste. Ymunodd â staff y B.B.C. yng Nghaerdydd yn 1941, a daeth ei henw'n adnabyddus oherwydd ei gwaith fel cynhyrchydd amryw o raglenni radio poblogaidd, yn eu plith ' Welsh Rarebit ', ' Saturday Starlight ', ' Merry-go-round ' a ' Silver Chords.' Ei gwaith hi ei hun oedd llawer o'r gerddoriaeth a gynhwyswyd yn y cyfresi hyn, a bu'r darllediadau yn fan cychwyn i amryw artistiaid a ddaeth yn ffigurau amlwg ym myd adloniant ysgafn Saesneg. Hi hefyd a luniodd y gerddoriaeth ar gyfer y perfformiad radio o ' Twm Siôn Cati ', sef y pantomeim Cymraeg cyntaf a ddarlledwyd ar radio sain.
Yr oedd yn bersonoliaeth radio ysbrydoledig. Ceisiodd seilio'i gwaith fel cynhyrchydd ar batrymau a safonau Americanaidd, ac yr oedd hynny'n rhywbeth pur newydd a dieithr yng Nghymru yn nyddiau cynnar darlledu. Manteisiol iddi hefyd yn ei gwaith oedd ei bod yn gallu cyfansoddi 'n gyflym ac weithiau'n ddifyfyr. Cyhoeddwyd ei chân gyntaf, ' Blackbirds ', yn 1925, ac yn 1927 cynhwyswyd ei chân ' Wondering if you remember ' yn y gomedi gerddorol boblogaidd, The Gipsy Princess. Ysgrifennodd hefyd ' Nos Da, Good night ' (1946), ' We'll keep a welcome ' (tuag 1943) a ' Rhondda Rhapsody ' (thema piano y gyfres radio boblogaidd, ' Welsh Rarebit ', 1951).
Priododd yng Nghasnewydd yn 1947 â a David (Davey) Davies, y Garnant, cerddor amlwg a pheiriannydd rhaglenni yng ngwasanaeth B.B.C. Cymru (bu farw yn 1964). Ymddeolodd o'r B.B.C. yn 1959, a bu farw yn ei chartref, 19 St. Mark's Crescent, Casnewydd, 7 Mai 1960, a chladdwyd hi ym mynwent S. Gwynllyw.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.