LEWIS, THOMAS ARNOLD (1893 - 1952), rheolwr cwmni yswiriant a thrysorydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Enw: Thomas Arnold Lewis
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1952
Priod: Eleanora Margaret Lewis (née Evans)
Rhiant: Elizabeth Lewis (née Jones)
Rhiant: Thomas Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: rheolwr cwmni yswiriant a thrysorydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant
Awdur: Mair Elizabeth Cole

Ganwyd 20 Ebrill 1893, yn fab i'r Capten Thomas Lewis a'i briod Elizabeth (ganwyd Jones), Manor Hall, Aberaeron, Ceredigion. Addysgwyd ef yn yr ysgolion lleol ac Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, cyn ymuno â chwmni yswiriant, a chodi i fod yn rheolwr cangen cwmni Alliance Assurance yn West End Llundain. Daeth yn aelod o'r Court of Assistants of the Worshipful Co. of Horners a derbyn rhyddfraint dinas Llundain. Gwasanaethodd ar bwyllgor cyllid y Road Research Fund ac yr oedd yn aelod gweithgar o'r National Liberal Club, yn is-lywydd ac ymddiriedolwr pan fu farw. Yr oedd yn ffigur amlwg ym mywyd Cymry Llundain a chadwodd ddiddordeb mewn materion Cymreig. Etholwyd ef yn is-gadeirydd Cyngor Ymgynghorol Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn Uchel Siryf Ceredigion yn 1949. Cynorthwyodd Syr John Cecil-Williams a Syr Wynn Wheldon gydag ochr ariannol yr apêl a gychwynnwyd yn 1937 i gyhoeddi'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, ac ef a olynodd T. D. Slingsby-Jenkins yn drysorydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1950.

Priododd, 8 Medi 1924, ag Eleanora Margaret Evans yng Nghapel Charing Cross, a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw yn ei gartref yn Ealing, 24 Awst 1952.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.