Ganwyd 19 Ebrill 1878, ym mhlas Dinas, Brycheiniog, unig fab Thomas Conway Lloyd a'i wraig Katherine Eliza (ganwyd Campbell-Davys, Neuadd-fawr, ger Llanymddyfri). Bu farw ei fam ac yntau ond pedair oed, a chollodd ei dad yn 1893. Addysgwyd ef yn Ysgol Broadstairs, Ysgol Eton, a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Yn 1899 aeth i'r cyfandir, a chyfarfod yn Fflorens â Marion Clive Jenkins. Priododd hi yn Farnborough, 14 Chwefror 1903, a bu iddynt dri mab a dwy ferch. Ymsefydlodd yn hydref y flwyddyn honno yn ei hen gartref, Dinas, a dechrau cymryd rhan ym mywyd cyhoeddus sir Frycheiniog. Bu'n ynad heddwch o 1900 a'i wneud yn gadeirydd y Sesiwn Chwarter yn 1934, aelod o gyngor tref Aberhonddu o 1909, a'r cyngor sir o 1913. Ef oedd y siryf yn 1906 a gwnaed ef yn farchog yn 1938. Dechreuodd ymddiddori yn y milisia yn 1909. Dyrchafwyd ef yn gapten yn nhrydedd gatrawd y South Wales Borderers yn Ebrill 1914 ac aeth allan i Ffrainc ddechrau 1915. Clwyfwyd ef ym mis Mai a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo. Yn 1919 penodwyd ef yn ddirprwy brofost marshal, gyda rheng Cyrnol yn y fyddin ar y Rhein. Ymhen tipyn gallodd ailgydio yn Dinas, ond bu raid ei adael pan gymerwyd ato gan y fyddin yn 1941 ac aeth i fyw yn Abercynrig.
Cynrychiolodd y cyngor sir ar lawer o gyrff cyhoeddus megis llysoedd yr Amgueddfa Genedlaethol a cholegau'r Brifysgol yn Aberyswyth a Chaerdydd. Bu'n aelod o nifer o bwyllgorau a'i wneud yn gadeirydd pwyllgor addysg ei sir yn 1950. Gweithiodd yn ddygn yn 1936 i gael y llywodraeth i wneud heol A40 yn briffordd, ac yn 1946 ymdrechodd yn aflwyddiannus i gadw hunaniaeth heddlu Brycheiniog ond wedi ei uno â heddluoedd Trefaldwyn a Maesyfed daeth yn gadeirydd y corff newydd hyd 1953. Yn ystod Rhyfel Byd II gweithiodd yn gydwybodol fel rheolwr rhagofal cyrchoedd awyr yn ei sir. Ar waethaf ei addysg Seisnig, daeth i gymryd diddordeb dwfn yn hanes ei sir a cheisiodd ffurfio cymdeithas hynafiaethol yn 1924. Ni chafodd ddigon o gefnogaeth bryd hynny, ond cychwynnwyd amgueddfa yn lle hynny. Pan oeddynt yn brin o arian i orffen addasu capel Saesneg (A) i gadw'r creiriau darbwyllodd Arglwydd Buckland i roi £300 tuag at gwblhau'r gwaith a rhodd flynyddol am 7 mlynedd i gynorthwyo rhedeg y lle. Gwnaed J. C. Lloyd yn ysgrifennydd yr amgueddfa a chasglodd laweroedd o eitemau i'w harddangos. Ef a gychwynnodd y mudiad i adfer adeiladau hynafol Tretŵr. Yn 1952 anogodd y cyngor sir i roi cofeb fwy teilwng i Lywelyn ap Gruffydd yng Nghefn-y-bedd na'r un a godwyd hanner canrif ynghynt gan S.P.M. Bligh ond ni chafodd fyw i weld dadorchuddio'r gofeb yn 1956.
Bu farw 30 Mai 1954, amlosgwyd ei weddillion, ac aethpwyd â'i lwch i'w gladdu ym mynwent Mailleraye-sur-Seine ym medd ei fab ieuangaf, John Richard, a gollodd ei fywyd 22 Mehefin 1940 pan saethwyd ei awyren i'r llawr ger Rouen. Collasai ei fab hynaf, Thomas Clive Conway, cyn dechrau'r rhyfel, ar fwrdd Thetis, 2 Mehefin 1939.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.