BLIGH, STANLEY PRICE MORGAN (1870 - 1949), tirfeddiannwr ac awdur

Enw: Stanley Price Morgan Bligh
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1949
Priod: Matilda Agnes Bligh (née Wilson)
Rhiant: Ellen Bligh (née Edwards)
Rhiant: Oliver Morgan Bligh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tirfeddiannwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gwilym Evans

Ganwyd 15 Chwefror 1870, yn Aberhonddu, unig fab Oliver Morgan Bligh ac Ellen (ganwyd Edwards) o Clifton. Thomas Price Bligh oedd y Bligh cyntaf i etifeddu stâd Prysiaid Cilmeri gerllaw Llanfair-ym-Muallt, a dilynwyd ef gan ei frawd, Oliver Morgan Bligh, a gadwai siop ddillad yn Clifton cyn hynny. Cangen o deulu tiriog yng Nghernyw ydoedd hon, a'r mwyaf lliwgar o'r teulu hwnnw oedd y Llynghesydd William Bligh, capten y ' Bounty '.

Cafodd Stanley Bligh ei addysg yn Eton, a choleg y Drindod, Rhydychen. Galwyd ef i'r Bar, yn aelod o'r Inner Temple, yn 1895, a gweithredodd am rai blynyddoedd ar gylchdaith De Cymru hyd nes iddo gymryd gofal y stâd o law ei fam.

Yn 1895 hefyd priododd Matilda Agnes Wilson, merch yr uchgapten John Wilson, o'r ' Royal Scots Greys ', un o'r criw bach a ddaeth yn ôl o Ruthr y 'Light Brigade'. Ymddiddorodd yn syniadau Sigmund Freud a dysgodd Almaeneg mewn pryd i ymuno â chynhadledd gyntaf y Seicolegwyr yn Vienna, yn 1908. O dan ysbrydoliaeth Freud ysgrifennodd dri llyfr, The Direction of Desire (Rhyd. 1910), The Desire for Qualities (Rhyd. 1911), a The Art of Conversation (Rhyd. 1912). Mae'n fwy na thebyg y buasai wedi cyhoeddi rhagor o lyfrau tebyg onibai i Ryfel 1914 alw am ei holl egni i gynhyrchu bwyd a gwella tir. Ar ôl sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru yn 1919 gellid cyfrif Cilmeri yn estyniad ohoni gan fod croeso yno i'r gwyddonwyr gynnal llu o arbrofion ar wella porfeydd sâl. Ystyriai R. G. Stapledon mai Stanley Bligh oedd yr arloeswr gwella tir glas mwyaf nodedig yn y wlad. Cadwai Adran Amaeth Prifysgol Rhydychen gyfrifon manwl o holl gostau gwella tir Cilmeri a phrofir yn llyfryn The Improvement of Upland Grazings gan S. M. Bligh a F. J. Prewett yn y gyfres ' Progress of English Farming Systems ' (1930) fod y gwelliannau'n talu'n dda.

Daeth Stapledon a Bligh yn gyfeillion clos, ac edrychai Stapledon ar ei gyfarfyddiad â Bligh fel un o ddigwyddiadau mwyaf pwysig ei fywyd. Dylanwadodd yn arbennig ar ffordd Stapledon o feddwl. Fe'i dysgodd i weld yr hyn a oedd tu hwnt i ffeithiau. Caent drafodaethau chwyrn ar athroniaeth, seicoleg, ac amaethyddiaeth, a byddent, yn gyfrinachol, yn cyfnewid barddoniaeth â'i gilydd. Gwastraff amser i Bligh oedd diddordebau bonedd y sir; iddynt hwythau 'cranc' neu feudwy oedd yntau, ond i bobl fel Charles Morgan, a'i wraig Hilda Vaughan, yr oedd ymgom gydag ef yn llawn ysbrydoliaeth. Yr oedd ganddo'r ddawn brin i ffrwythloni meddyliau pobl eraill. Cymerai ddiddordeb neilltuol yn athroniaeth Plotinws. Ymryddhaodd oddi wrth lu o'r defodau cymdeithasol hyd yn oed o'r 'arfer o gelwydda moesgar'. Ni fynnai grefydda, ond cai ollyngdod wrth lunio gweddïau ar fydr, ac yr oedd elfen gref o'r cyfrinydd ynddo.

Er ei fod yn Rhyddfrydwr proffesedig ni chymerai ran amlwg mewn gwleidyddiaeth ond rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth gwerthfawr ar y Cyngor Sir. Ar ôl i'r bedwaredd gynhadledd genedlaethol fethu cytuno tua'r flwyddyn 1893 cododd Bligh ei hun gofgolofn i Lywelyn ap Gruffydd ar ei dir ei hun, yn agos i'r fan y tybir lladd y tywysog arno. Bu. farw yn ddi-blant 15 Ionawr 1949; gwerthwyd y stâd yn 1950, ac yn ôl ei ewyllys aeth y rhan fwyaf o'r eiddo yn waddol i sefydlu ysgoloriaethau gwerth tros £2,000 y flwyddyn i fechgyn a merched Sir Frycheiniog a fyddai'n awyddus i ddilyn astudiaethau neu ymchwil mewn amaethyddiaeth, cydweithrediad, neu goedwigaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.