Ganwyd 6 Mehefin 1886 yn rheithordy Llandudno, Caernarfon, yr ieuangaf o bump o blant John Morgan (Archddiacon Bangor, 1902-24). Cafodd ei addysg yn ysgol genedlaethol S. Siôr, Llandudno, ysgol yr eglwys gadeiriol Llandaf, lle'r oedd yn unawdydd yn y côr, Coleg Llanymddyfri a Choleg Hertford, Rhydychen, gydag ysgoloriaeth, a Choleg Cuddesdon. Graddiodd yn B.A., 1910, M.A., 1914, D.D. Prifysgol Cymru er anrhydedd, 1934. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1910 yn Llanelwy dros Esgob Bangor, a bu'n gurad Llanaber a'r Bermo, 1910- 12. Urddwyd ef yn offeiriad yn 1911. Rhwng 1912 ac 1916 bu'n gaplan trigiannol i Esgob Truro, ac yn ficer-offeiriad yn yr eglwys gadeiriol, a hyd 1919 yn gaplan-dros-dro i'r lluoedd arfog. Gwasanaethodd ar y Môr Canoldir, Kinmel, a Shoreham. Dychwelodd i Gymru yn 1917 yn ficer-corawl eglwys gadeiriol Llanelwy a ficer Llanelwy. Yn 1919 penodwyd ef yn offeiriad-mewn-gofal o Lanbeblig a Chaernarfon, ac yn 1920 pan ddaeth deddf datgysylltiad yr Eglwys i rym gwnaed ef yn ficer y plwyf. Tra bu yno gwasanaethodd fel caplan y carchar, a bu'n ddeon gwlad Arfon, 1928-31. Yn 1931 penodwyd ef yn ganon eglwys gadeiriol Bangor, ac yn 1933 symudodd i fod yn rheithor Llandudno. Y fl. ddilynol etholwyd ef yn esgob Abertawe ac Aberhonddu, i olynu'r Esgob E. L. Bevan, a chysegrwyd ef yn Llanelwy ar Fawrth y Sulgwyn gan Archesgob cyntaf Cymru, Alfred George Edwards, a'i hordeiniasai'n ddiacon. Yn 1939 symudodd i fod yn Esgob Llandaf ar farwolaeth yr Esgob Timothy Rees, ac yn 1949 etholwyd ef yn Archesgob Cymru i olynu David Prosser. Bu farw yn ysbyty S. Thomas, Llundain, 26 Mehefin 1957, yn 71 oed, a'i gladdu yn Llandaf.
Gŵr byr o gorff, trylwyr, gofalus o'r manylion, oedd ef, yn mynnu fod popeth yn weddus ac mewn trefn, boed wasanaeth cyffredin neu arbennig. Yr oedd yn drefnydd tan gamp ei hun, a chas oedd ganddo anhrefn ac aflerwch pobl eraill. Gallai fod yn llym ei ddisgyblaeth fel ei dad o'i flaen, ond yr oedd yn raslon a thrugarog pan fyddai gofyn am hynny. Edrychai ar swydd esgob fel gofalaeth ac nid ildiai ronyn ar fater o egwyddor. Yn Aberhonddu gweithredai fel deon yn ogystal â bod yn esgob, a gosododd seiliau cadarn i ganiadaeth a seremonïau'r eglwys gadeiriol. Yn Llandaf yr oedd gofyn llaw gadarn a gwelediad clir i roi trefn ar arweinyddiaeth yr esgobaeth. Daeth y rhyfel yn fuan ar ôl ei benodi a difrodwyd y gadeirlan gan fomiau'r gelyn. Ef a fu'n gyfrifol am ei hailadeiladu a'i hailgysegru yng ngwanwyn 1957.
Yr oedd yn gerddor medrus a chanai'r organ er yn blentyn yn Llandudno. Bu'n gadeirydd pwyllgor cerdd esgobaeth Bangor, ac ef oedd cadeirydd pwyllgor Emynau'r Eglwys o'r cychwyn yn 1934 a'r is-bwyllgor cerdd o 1939 ymlaen. Cyhoeddwyd yr arg. geiriau yn 1941, a'r arg. tonau yn 1951. Yn ystod ei dymor ef y sefydlwyd y comisiwn litwrgïaidd i ddiwygio'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Ei weithred gyhoeddus olaf oedd cysegru G. O. Williams yn Esgob Bangor yn Llandaf ar 1 Mai 1957. Dychwelodd i'r ysbyty y noson honno.
Gan ei fod yn ŵr swil, dim ond ychydig a wyddai am ei ddawn i ddweud stori, i ddynwared ac i siarad iaith tref Caernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.