Ganwyd 22 Mehefin 1881 ym Mhen-llwyn, Aberystwyth, Ceredigion, mab ieuengaf Abraham Owen a'i wraig Margaret (ganwyd Sylvanus Williams). Derbyniodd ei addysg yn ysgol Ardwyn, Aberystwyth, a C.P.C., Aberystwyth. Graddiodd yn M.A. Bu'n gweithio fel ysgolfeistr a darlithydd yn bennaf yn Llundain am rai blynyddoedd cyn Rhyfel Byd I. Yr oedd yn un o'r rhai a ffurfiodd fataliwn Cymry Llundain yn 1914. Gwasanaethodd yn y fyddin yn Ffrainc yn ystod y rhyfel, soniwyd amdano ddwywaith mewn cadlythyrau, derbyniodd y D.S.O. yn 1916, a chafodd ei ddyrchafu'n uchgapten ac yna'n uchgapten â gofal brigâd. Daeth yn fargyfreithiwr yn Gray's Inn yn 1919. Eto yr oedd yn amlwg mai ym myd cyllid, masnach a gwleidyddiaeth yr oedd ei ddiddordebau'n bennaf. Daeth yn aelod o Gyfnewidfa Stoc Llundain, yr oedd yn gyfarwyddwr nifer o gwmnïau ac yn aelod o nifer fawr o gymdeithasau busnes a masnach.
Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn ne swydd Derby yn 1922. Soniwyd amdano fel ymgeisydd posibl ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru, ond etholwyd ef yn sir Gaernarfon yn 1923, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth yn y senedd hyd 1945. Yr oedd yn aelod o grwp teuluol David Lloyd George a wrthwynebodd ffurfio'r llywodraeth genedlaethol yn 1931. Ef oedd chwip y Blaid Ryddfrydol rhwng 1926 ac 1931 a daliodd swydd Comptroller of the Household ac yr oedd yn brif chwip y Rhyddfrydwyr yn ystod Medi a Hydref 1931. Gorchfygwyd ef gan Goronwy Roberts (Llafur) yn etholiad cyffredinol 1945, a dewisodd beidio â sefyll fel ymgeisydd ar ôl hynny.
Yr oedd yn ddirprwy raglaw Sir Gaernarfon yn 1936 ac yn aelod o'r cyngor sir am flynyddoedd. Daeth yn henadur y cyngor ym mis Mai 1945 fel olynydd D. Lloyd George. Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig yn anghenion a phroblemau'r sir ac yr oedd yn barod bob amser i roi o'i amser i geisio eu datrys. Bu'n gadeirydd y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Môn a Chaernarfon ac yn ddiweddarach ar gyfer Trefaldwyn a Meirionnydd, ac yn gadeirydd y Territorial and Auxiliary Forces Association ym Môn ac Arfon. Gwasanaethodd hefyd fel swyddog y sir ar gyfer lles y fyddin. Bu'n is-gadeirydd, 1954-55, ac yn gadeirydd, 1955-56, Awdurdod Heddlu Gwynedd, ac yn uchel siryf Sir Gaernarfon yn 1950-51. Dewiswyd ef yn ynad heddwch dros y sir. Yr oedd yn awdur nifer fawr o erthyglau mewn cylchgronau Cymraeg a Saesneg. Derbyniodd ryddfraint bwrdeistref Conwy yn 1943 ac urddwyd ef yn farchog yn 1944.
Priododd yn 1925, Margaret Gladwyn, gweddw Owen Jones, Glanbeuno, Sir Gaernarfon (ef a gododd y gofeb i D. Lloyd George ar Y Maes, Caernarfon) a merch David Jones, masnachwr glo yn Ninbych. Yr oedd hi'n chwaer i wraig Gwilym Lloyd George (gweler LLOYD GEORGE, TEULU). Bu Goronwy Owen farw 26 Medi 1963.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.