REES, THOMAS (1862 - 1951), bridiwr y cob Cymreig

Enw: Thomas Rees
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1951
Priod: Rachel Rees (née Davies)
Plentyn: Harry Rees
Plentyn: James Rees
Plentyn: David Rees
Rhiant: Mary Rees
Rhiant: James Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bridiwr y cob Cymreig
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: John Roderick Rees

Ganwyd 31 Ionawr 1862, yn Sarnicol, Capel Cynon, Llandysul, Cer. (y bwthyn y ganwyd y llenor a'r bardd ‘Sarnicol’ ynddo), yn un o ddeg plentyn, tair merch a saith bachgen, James a Mary Rees. Symudodd y teulu i Ddolau Llethi, Llannarth. Pan oedd yn 8 oed dechreuodd fugeilio yn yr haf, a chael ychydig ysgol yn Nhalgarreg yn y gaeaf. Bu'n cydfugeilio â Pan Jones.

Priododd tuag 1886 â Rachel, merch David a Catherine Davies, Vicarage, ger Capel Ficer, Mydroilyn. Ganwyd iddynt 5 o blant, ond 3 bachgen a dyfodd i oedran gwŷr. Dechreuasant eu byd yn Ffosiwan, Mydroilyn, a symud i fferm Cefnfaes ger Capel Betws tuag 1894, yna i fferm weddol fawr Cwmgwenyn, Llangeitho, lle y buont o 1897 hyd 1914, lle bach Blaenwaun, Pen-uwch, 1914-44, a lle bach arall, Bear's Hill, Pen-uwch, 1944-51. Yno, gyda'i ŵyr a'i ŵyres, y gorffennodd ei yrfa, 15 Ionawr 1951. Claddesid ei briod, 31 Mawrth 1936, ychydig wedi iddynt ddathlu eu priodas aur. Gorwedd gweddillion y ddau ym mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho.

Yn 1880, yn 18 oed, dechreuodd gadw march, sef ‘Bold Buck’, mab i ‘Cardigan Driver’ a oedd yn eiddo i bregethwr Undodaidd ym Maesymeillion, Llanybydder. Yna, ac yntau'n was ym Mhant-moch, Pont-siân, prynodd ‘Welsh Briton’, cobyn 6 oed, gan David Charles Jones, Abercefel, Llandysul. Daeth hwn yn un o hoelion wyth y cob Cymreig. Y pryd hwnnw yr oedd bri ar drotian uchel a chyflym. Dwy funud 18 eiliad a gymerai ‘Welsh Briton’ i drotian milltir. Enillodd 3 o'i blant y brif râs yn Alexandra Park yn Llundain, 1892-3-4, ac ystyrid hynny'n gryn gamp. Daeth oes ‘Welsh Briton’ i ben yn 21 oed ac y mae'n un o'r 4 march cob sy'n gorwedd yn naear Cwmgwenyn. Gorwedd 6 arall o'i feirch ym Mlaen-waun. O'r deg yr oedd 7 dros eu 20 oed.

Yr oedd Thomas Rees yn cadw cobiau ymhell cyn bod Cymdeithas na llyfr achau; yn 1902 y sefydlwyd y rheini. Cofrestrodd ddau farch a dwy gaseg yng nghyfrol gyntaf y Welsh Stud Book. Bu 3 o blant ‘Welsh Briton’ gydag ef yn feirch, sef ‘King Briton’, ‘Briton Comet’, a ‘Britonian’. Cadwodd a cherddodd feirch cob Cymreig — ‘dilyn march’ yw'r term technegol — am 70 mlynedd. Yn 80 oed ail-afaelodd am dymor pan ddilynodd ei gel du, Blaen-waun ‘True Briton’, 3 diwrnod yr wythnos yng nghanolbarth Ceredigion. Cyflogodd lawer arweiniwr arall ar yr un perwyl. Dilynodd ei 3 mab ei lwybr. Bu David Rees yn cadw a dilyn march am dros 60 mlynedd, James Rees am gyfnod tebyg, a Harry Rees, o'i fachgendod hyd ei farw ifanc. Yr oedd meirch Thomas Rees yn ‘trafaelu’ cyn belled â siroedd Morgannwg a Mynwy, ac ymlaen, weithiau, hyd Gaerloyw, lle yr oedd Harry Hopton, y gof. Cerdded bob cam, wrth gwrs. ‘King Briton’ oedd y march cyntaf i Thomas Rees ei gymryd dros Glawdd Offa. Pan fu farw yn 89 oed yr oedd dau farch cob ganddo o hyd, ‘Trotting Briton’ a ‘True Briton II’, gor-or-orwyrion i ‘Welsh Briton’. Etifeddodd ei ŵyr, John Roderick Rees, gan ei dad, David Rees, ‘Rhosfarch Frenin’ a thrwyddo arweiniodd linach eu meirch cob i'w chanfed flwyddyn.

Mae cyfraniad Thomas Rees a'i feibion i'r cob Cymreig yn nodedig ar dri chyfrif. (1) O'i feirch y tardd llinach hynaf cobiau cofrestredig heddiw. (2) Ni roddodd neb arall gynifer o flynyddoedd i ddilyn meirch cob. (3) Cyfyngodd y teulu eu diddordeb i'r un brîd hwn o geffyl drwy'r maith flynyddoedd, ar adegau pan oedd y mwyafrif o fridwyr yn coleddu bridiau estron am eu bod yn talu'n well. Lawer gwaith, fe gydnabuwyd na fuasai'r cob Cymreig wedi goroesi'r blynyddoedd culion heb gyfraniad Thomas Rees. Gwnaed ef yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas y Merlyn a'r Cob Cymreig.

Yr oedd hefyd yn ŵr deallus, ar waethaf anfanteision addysg ffurfiol, yn ddarllenwr, yn achyddwr a hanesydd da, ac yn storïwr tan gamp. Er treulio rhan helaethaf ei oes yng nghanol Methodistiaeth a bod yn aelod ar hyd yr amser yng Nghapel Gwynfil parhaodd yn Annibynnwr o'r gwraidd. Ymhyfrydai yn emynau Elfed. Ei geffylau a'i hanfarwolodd, ond yr oedd ganddo afael hefyd ar agweddau eraill ar y ‘bywyd na ŵyr ein byd ni ”.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/