ROBERTS, GLYN (1904 - 1962), hanesydd a gweinyddwr

Enw: Glyn Roberts
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1962
Priod: Caryl Eryl Roberts (née Hughes)
Priod: Mary Davida Alwynne Roberts (née Hughes)
Rhiant: Ann Roberts
Rhiant: William Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a gweinyddwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: John Gwynn Williams

Ganwyd 31 Awst 1904 ym Mangor, Caernarfon, yn fab i William ac Ann Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars o 1915 hyd 1922 pan enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Astudiodd Hanes o dan John Edward Lloyd ac Arthur Herbert Dodd a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth I yn 1925. Dechreuodd ymchwilio i hanes seneddol bwrdeistrefi gogledd Cymru o 1535 hyd 1832 ac yn 1929 dyfarnwyd iddo radd M.A. a gwobr y Tywysog Llywelyn ap Gruffydd am ei draethawd sy'n arddangos dylanwad Lewis Namier. Yn 1929 penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe lle'r arhosodd hyd 1939 pan ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil. Erbyn 1942 yr oedd yn ysgrifennydd cynorthwyol yn y Weinyddiaeth Gyflenwi ac yn 1944 dyrchafwyd ef yn ddirprwy bennaeth y genhadaeth a anfonwyd i T.U.A. i sicrhau defnyddiau crai gogyfer ag anghenion Prydain. Ymestynnai o'i flaen yrfa ddisglair fel gweinyddwr o dan y Llywodraeth, eithr yn 1945 penderfynodd ddychwelyd i'w hen goleg ym Mangor fel Cofrestrydd. Bu iddo ran anhepgorol yn y gwaith o ad-drefnu'r coleg wedi'r rhyfel ac ychwanegwyd yn sylweddol at nifer y myfyrwyr. Yn 1949, ar ymddeoliad Robert Thomas Jenkins, bu'r coleg yn ddigon doeth i'w wahodd i lanw cadair Hanes Cymru. Nis rhyddhawyd o bell ffordd o alwadau gweinyddol mynych - bu'n ddeon y gyfadran ac yn is-brifathro am ddwy flynedd ar y tro - ac oddi allan i'r coleg bu'n gadeirydd Pwyllgor Hanes a Chyfreithiau Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol a hefyd o gyngor Cymdeithas Hanes sir Gaernarfon, yn aelod o gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ac o'r pwyllgor gwaith a luniwyd i gynghori Meistr y Rholiau ar y polisi i'w fabwysiadu wrth gyhoeddi'r cofnodion cyhoeddus.

Er cynifer y gofynion hyn, ymserchai fwyfwy yn ei briod bwnc ac yn raddol ymestynnodd ei ddiddordebau'n ôl o'r ddeunawfed ganrif i gyfnod y Tuduriaid (arfaethai ar un pryd ysgrifennu cyfrol arno i Gyfres y Brifysgol a'r Werin), ac yn y man i'r Canol Oesoedd diweddar. Yr oedd rhyw swyn arbennig iddo yn y blynyddoedd anodd a chythryblus wedi 1282 hyd ddyfodiad y Tuduriaid - y cyfaddawdu, y plygu glin a'r cydweithio, ar y naill law, a'r ymwrthod, yr herio a'r gwrthryfela, ar y llall. Ei bapurau ar y cymhlethdodau hyn, sy'n taflu goleuni llachar ar gefndir teulu'r Tuduriaid, yw ei gyfraniad aeddfetaf i'w bwnc a rhoddant inni ragflas o'r campwaith a gawsem pe cawsai fyw. Cyhoeddwyd casgliad o'i brif ysgrifau wedi ei farw o dan y teitl Aspects of Welsh History (1969).

Yr oedd gan Glyn Roberts feddwl treiddgar, dadansoddiadol a fynnai ddatod pob cwlwm yn bwyllog cyn cyrraedd calon y mater, a dyma i fesur helaeth a gyfrif am ei lwyddiant fel athro a gweinyddwr. Deallai gymhellion ei gyd-ddyn yn well na'r cyffredin a chas oedd ganddo orbarchusrwydd a mursendod. Yn llawn hiwmor a hoff o straeon diddan a ffraethinebau parod, gŵr hoffus, rhadlon a chymwynasgar ydoedd yn y bôn.

Priododd ddwywaith: (1) â Mary Davida Alwynne Hughes ar 6 Medi 1933, ac wedi ei marwolaeth (2) â'i chwaer, Carys Eryl Hughes ar 28 Gorffennaf 1954. Bu farw 13 Awst 1962 ym Mhorthaethwy a chladdwyd ef ym mynwent Llantysilio, Ynys Môn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.