Ganwyd 16 Hydref 1879 ym Mhorthmadog, Caernarfon, mab John J. Roberts ('Iolo Caernarfon'), ac Ann ei briod. Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Porthmadog, ysgol ramadeg y Bala, a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y clasuron, ac wedyn mewn diwinyddiaeth. (Cafodd radd D.D., er anrhydedd, yn niwedd oes gan Brifysgol Cymru). Ordeiniwyd ef yn 1905, a bu'n gweinidogaethu yn Aberdyfi (1903-06), David St., Lerpwl (1906-13), a Pembroke Tce., Caerdydd (1913-38). Galwyd ef i fod yn ysgrifennydd Cronfa Ganolog Sasiwn y De yn 1938; ymhen deng mlynedd unwyd cronfeydd y de a'r gogledd, ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf y Gronfa Unedig. Priododd, 1903, Annie Jones Lewis, Porthmadog; ganwyd iddynt bedwar mab a dwy ferch. Bu farw 29 Gorffennaf 1959.
Yr oedd John Roberts yn rheng flaenaf pregethwyr ei oes, er nad oedd ganddo lais addas ar gyfer y pulpud (gweler barn R.T. Jenkins arno fel pregethwr, Cyfoedion (1976); 39-41). Bu'n llywydd Sasiwn y De (1941), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1943). Traddododd y Ddarlith Davies yn 1930 ar ' Athroniaeth hanes y Cyfundeb '; fe'i cyhoeddwyd yn 1931 dan y teitl Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, 'ymgais at athroniaeth ei hanes' (arg. Saesneg 1934). (Gweler eto farn R.T. Jenkins ar y gyfrol a'i rhoes yn rheng flaenaf haneswyr yr Hen Gorff, ibid., 41-42.) Cyfrannodd lawer o ysgrifau i'r Goleuad, ac i gylchgronau'i enwad. Ei gyfraniad pwysicaf i'w Gyfundeb oedd sefydlu cynllun newydd trefn a chynhaliaeth y weinidogaeth. Datblygodd yn drefnydd a gweinyddwr dihafal. Yr oedd ganddo feddwl treiddgar a disgybledig a'i gwnâi'n feistr ar bopeth yr ymaflai ei law ynddo. Diddorol yw sylwi ar ei hobïau, sef herodraeth, darllen Who's Who a mapiau, a meistroli tablau amser y rheilffyrdd!
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.