Ganwyd 3 Ebrill 1891 ym Mhorthaethwy, Môn, yn blentyn ieuangaf Capten Jabez Rowlands, a'i wraig Martha. Arferai'r tad 'fyned ar led' i bedwar ban byd ar longau hwyliau. Yr oedd yn ŵr o ddiddordebau eang a chanddo feddwl praff. Gwraig ddefosiynol a phiwritanaidd oedd y fam, a chadwai sefydliad gwnïadwaith yn y cartref, 1 Fair View Terrace. Aeth William, y plentyn hynaf i'r weinidogaeth a dod yn weinidog ar rai o eglwysi Saesneg Eglwys Bresbyteraidd Awstralia. Ef oedd dyfeisydd y Leeds Memory Method. Yr ail blentyn oedd Thomas John (' T.J. '), ysgolor o Goleg Iesu, Rhydychen, a raddiodd yn y clasuron. Er ei ordeinio gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru fe droes at yr eglwys esgobol gan ddod yn rheithor Llandudno a chanon yng nghadeirlan Bangor. Bu dylanwad ei gweinidog ym Mhorthaethwy, Thomas Charles Williams yn drwm ar Helen. Mynychai'r holl oedfaon ac ennill gwobrau yn yr arholiad sirol. O ysgol ramadeg Biwmares enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru gan ymaelodi ym mis Hydref 1908. Cyfeiria Dr. Kate Roberts, a gyd-oesai â hi, at ei 'gallu anarferol'. Enillodd radd dosbarth I mewn Ffrangeg a dyfarnwyd Ysgoloriaeth George Osborne Morgan iddi i'w galluogi i fynd i Goleg Newnham, Caergrawnt, ond am dymor yn unig yr arhosodd yno. Mewn cyfyng-gyngor dychwelodd adref i drafod ei dyfodol gyda'i gweinidog. Rhwng Medi 1912 a Mehefin 1913 bu'n dysgu Ffrangeg yn ei hen ysgol, gan fwrw'r haf yn Ffrainc. Ym mis Medi 1913 fe'i penodwyd yn athrawes yn ysgol ganolraddol y merched yn y Drenewydd. Bu'r newid hwn yn dyngedfennol gan iddi ymdaflu i weithgarwch cenhadol, ac yn raddol fe'i cafodd ei hun yn ymwneud fwyfwy â gwaith yr eglwys.
Yn 1915 penderfynodd ei chyflwyno'i hun yn gyfan gwbl i'r maes cenhadol. Yn y Gymanfa Gyffredinol yn Llundain ym Mehefin 1915 fe'i derbyniwyd yn genhades. Dilynodd gwrs o hyfforddiant yng Ngholeg St. Colm, Caeredin, ac ar 23 Hydref 1916, hwyliodd o Lerpwl a glanio yn Calcutta ar 28 Tachwedd. Am 10 mlynedd bu'n gwasanaethu yn nosbarth Sylhet ar wastadeddau Khasia a Jaintia, lle'r oedd cyfundrefn caste yr Hindwiaid mewn grym a pharch i'r ferch yn isel. Erbyn Ebrill 1918 fe'i dyrchafwyd yn brifathrawes The Williams Memorial School i enethod a daeth yn rhugl yn Bengaleg. Dangosai allu anarferol fel athrawes a meddai ar ddawn trefnu. Penderfynodd ei huniaethu ei hun â'r brodorion gan fabwysiadu eu gwisg, eu harferion a'u bwyd. Ymwelai'n gyson â'i Zenanas. Pregethai yn y Fengaleg a dysgai'r merched i wau a gwnïo. Llewyrchai'r ysgol Sul o dan ei gofal. Yn 1927 aeth i Maulvi Bazaar gan aros yno am 2 fl. Fe'i gwahoddwyd i fod yn brifathrawes ar ysgol iaith yn Darjeeling o dan nawdd Cyngor Cristionogol Bengal ac Assam. Pan ymwelodd Gandhi â'r ysgol rhyfeddodd at ei meistrolaeth o'r iaith. Yn sgil ei disgleirdeb ieithyddol fe'i rhyddhawyd i astudio am radd M.A. ym Mhrifysgol Calcutta. Dyfarnwyd iddi'r radd yn y dosbarth I gyda gwobr y Brifysgol (gwerth £200 o lyfrau) a medal aur am ragori ym mhob testun. Hi oedd y myfyriwr disgleiriaf. Arhosodd yn yr ysgol iaith o 1925 hyd 1931.
Dychwelodd i Gymru ar furlough yn 1930 ac ymaelodi yn y Sorbonne ym Mharis i weithio am ddoethuriaeth. Ar bwys rhagoriaeth ei gradd M.A. a chymeradwyaeth arbennig yr Athro S.K. Chatterji, Calcutta, caniatawyd iddi gyflwyno ei thesis yn ystod y flwyddyn. Meddai ef amdani, ' She is equipped for the work in a way which few foreigners can expect to be '. Enillodd D.Litt. (Paris) ar y testun ' La Femme Bengalie dans la littérature du Moyenage '. Mae copi o'r traethawd yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. Cynigiwyd iddi gadeiriau Bengaleg gan brifysgolion ym Mhrydain, America ac India ond eu gwrthod a wnaeth a dychwelyd i Karimganj, Assam, i ddysgu, cyfarwyddo ac efengyleiddio. Derbyniodd swydd athro Saesneg a Bengaleg, er anrhydedd, yng ngholeg Llywodraeth India yn Karimganj. Gyda Dipti Nibash (Annedd Goleuni) y cysylltir ei henw, fodd bynnag, gan mai yno y sefydlodd gartref i ferched gweddwon ac amddifad diymgeledd. Yno y gwnaent jam, brethyn, hancesi, hosanau a thyfu reis heb sôn am drin y tir a chynhyrchu sidan. Hyfforddid y merched i ddefnyddio'r droell ac i fod yn hunan-gynhaliol.
Yr oedd hi'n gefnogol iawn i fudiad eciwmenaidd a amcanai at sefydlu eglwys Bresbyteraidd i India gyfan. Fel Swarajist credai mewn rhyddid a hunan-lywodraeth eglwysig, a llwyddodd i gael gwaith y chwiorydd yn drefniant ar wahân oddi mewn i'r Gymanfa. Cynlluniodd Pracharikas (urdd o efengylwyr ymhlith merched) a gweithredodd fel clerc y Gymanfa am 20 mlynedd. Etholwyd hi'n llywydd Gymanfa'r Gwastadedd. Gohebai'n gyson â'r wasg, ac yn arbennig Y Cenhadwr, Y Goleuad, The Treasury, heb sôn am ei hadroddiadau i'r Genhadaeth Dramor. Cyhoeddodd gylchgrawn Saesneg The Link ar y cyd â'r Parch. Lewis Mendus. Cyfieithodd Reality and religion, Search after reality a Sermons and sayings Sadhu Sundar Singh i Fengaleg, ac ysgrifennodd hanes yr awdur. Cyfansoddodd ddwy ddrama genhadol, Chumdra Hela a Dydd y pethau bychain. Yr oedd yn gyfeillgar â Rabindranath Tagore ac R. Kanta Sen a chyfieithodd rai o'u cerddi i Gymraeg a Saesneg (gweler Y Cenhadwr, Chwefror 1930). Bu farw yn ddisyfyd yn Karimganj, 12 Chwefror 1955, ac yno o flaen y capel mae ei bedd. Enwyd llyfrgell coleg Karimganj yn ' Rowlands Hall ' er cof amdani ac y mae cofeb iddi yng nghapel (MC) Porthaethwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.