Ganwyd 8 Gorffennaf 1874 yn Nhal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, Caernarfon, yn fab i Robert Thomas, chwarelwr. Bu'r tad farw pan dorrodd Llyn Nantlle a boddi wyth o chwarelwyr, pan oedd Morris Thomas yn ddim ond 12 oed, ac yn yr oed hwnnw bu rhaid i'r bachgen fynd i weithio i'r chwarel. Canfu ei weinidog, William Williams, fod gallu arbennig ynddo, a bu'n ei galonogi a'i hyfforddi. Aeth i Goleg Clynnog ac oddi yno i'r 'adran' yng Ngholeg y Bala. Yn Hydref 1901 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, a graddio yn yr ail ddosbarth mewn Saesneg a 3ydd dosbarth mewn athroniaeth yn 1905.
Daeth dan ddylanwad Diwygiad 1904-05, ac yn hytrach na chwpläu cwrs y B.D. penderfynodd fynd yn fugail eglwys er iddo fod yng Ngholeg y Bala o 1905 hyd 1907. Yn 1908 ordeiniwyd ef, a'i ofalaeth gyntaf oedd eglwys Aber a'r Gatws ger Bangor. Bu'n weinidog wedi hynny ym Mhenmorfa ger Porthmadog, Trefeglwys a Llawr-y-glyn ym Maldwyn, Corris ac yna yn Nolwyddelan.
Ysgrifennodd gryn dipyn i gyhoeddiadau ei enwad. Enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 1913, am gyfieithiad i'r Gymraeg o nofel Robert Louis Stevenson, Treasure Island ac am 'draethawd beirniadol ar weithiau ac athrylith Islwyn'. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925, bu'n gyd-fuddugol â'i nofel Toriad y Wawr, a gyhoeddwyd yn 1928 gan Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl. Yr enillydd arall oedd Lewis Davies, Cymer â'i nofel Wat Emwnt a gyhoeddwyd gan yr un wasg yn yr un fl. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1931, enillodd Morris Thomas y wobr gyntaf â'i nofel Pen yr Yrfa, a gyhoeddwyd yn swyddfa'r Goleuad, Caernarfon, yn 1932.
Cyfrifid ef yn hanesydd da a phenodwyd ef i ysgrifennu hanes henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, gwaith a adawyd heb ei orffen gan Henry Hughes, Bryncir. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, diflasodd Morris Thomas ar y gwaith ac ar y dasg o geisio datrys nodiadau Henry Hughes, a throes y deunydd yn nofel. Hanes Methodistiaeth gynnar Llŷn yn nyddiau Morgan Gruffydd yw Toriad y Wawr. Ysgrifennodd nofel arall, Y clogwyn melyn, ond nis cyhoeddwyd. Byddai'n arfer ganddo hefyd gyhoeddi stori fer yn rhifynnau Nadolig Y Goleuad.
Yr oedd ei briod, L.M. Thomas, genedigol o Lanarmon Dyffryn Ceiriog, yn chwaer i'r Athro Richard Morris, Coleg y Bala. Byddai hithau'n ysgrifennu llawer ar gyfer plant ac yn cyfrannu'n gyson i'r cylchgronau Trysorfa'r Plant ac Y Gymraes.
Ymddeolodd Morris Thomas yn 1945 ac aeth i fyw yn Nhal-y-bont, Dyffryn Conwy. Yno y bu farw ar 10 Awst 1959.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.