Ganwyd 29 Chwefror 1908 yn Primrose Cottage, Holway, Treffynnon, Fflint, yn unig blentyn Walter Owen Davies, ' master saddler ' a'i wraig Elizabeth Jane (ganwyd Jones). Bu farw y fam 3 Chwefror 1909 yn 26 mlynedd a daeth ei nain atynt am gyfnod i'w magu. Symudodd y teulu i Yscawen, Rhuddlan (lle y cymerodd y tad waith fel groser) ac addysgwyd Louie Myfanwy yn ysgol elfennol yr Eglwys ac yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl (1920-24) lle y cafodd Senior Certificate y Central Welsh Board. Credir iddi fynd i weithio i Gaernarfon, efallai i swyddfa bapur newydd, ar ôl treulio ychydig amser yn cynorthwyo'i thad yn y siop (cf. y stori ' Lol ' yn Storïau Hen Ferch). Fe'i penodwyd yn glerc yn Adran Addysg Cyngor Sir Dinbych 17 Hydref 1927, a daeth yn ysgrifenyddes i J.C. Davies, y Cyfarwyddwr Addysg ac i Edward Rees ar ei ôl. Yr oedd yn byw yn Arwynfa, Borthyn, Rhuthun ar y pryd. Erbyn 1935 cofnodir ei bod yn byw yn Llwyni, Ffordd Llanfair, Rhuthun. Y preswylwyr yr adeg honno oedd Emily, Louie Myfanwy, Mary a William Henry Davies. Brawd i'w thad oedd W. H. Davies a oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid. Mary oedd ei wraig, ac Emily oedd ei ferch. Bu Louie Myfanwy yn byw yno am rai blynyddoedd fel un o'r teulu, ond nid oedd yn hapus yno. Ni allai ddygymod â chulni crefydd ei hewythr, tueddai yntau i fod yn sych-dduwiol tra oedd hithau'n fwy allblyg. Byddai yntau'n edliw iddi “ God will provide ”, a hithau'n dannod iddo mai ei chyflog hi oedd yn darparu. Ceir adlais o hyn yn y stori ' Helaeth Fynediad ' yn Storïau Hen Ferch, t.22.
… bod Rhagluniaeth yn siwr o ofalu am Janet fel y gofalodd amdano ef yn y gorffennol. Ni sylweddolodd mai Janet oedd y Rhagluniaeth a'i cadwodd ef, ei dŷ a'i siop mewn trefn ar ôl marw ei wraig.
Y mae ei pherthynas hi â'i theulu yn Llwyni yn un bwysig, fodd bynnag, oherwydd ceir nifer helaeth o gyfeiriadau atynt (heb eu henwi) yn ei gwaith, yn enwedig yn Y Bryniau Pell ac i raddau llai yn Diwrnod yw ein bywyd. Yn wir, y mae nifer o ddigwyddiadau a sefyllfaoedd yn Y Bryniau Pell sy'n hunangofiannol a cheir ganddi sawl cyfeiriad dilornus at bregethu a'r weinidogaeth ac at ei sefyllfa hi ei hun pan oedd yn blentyn amddifad a phobl yn siarad amdani.
Priododd â Richard Thomas, Prif Glerc Adran Addysg Cyngor Sir Dinbych, mewn swyddfa gofrestru yn Bolton ar 5 Ebrill 1952, pan oedd yn 44 oed. (Trigai chwaer Richard Thomas a'i gŵr yno). Ail wraig ydoedd i Richard Thomas. Cafodd y ddau lety yn Stryd y Farchnad, Rhuthun cyn symud i fyw mewn fflat yn 6 Stryd y Ffynnon. Ymddengys i'r briodas fod yn un hapus, ond ni chawsant blant. (Yr oedd ganddo ddwy ferch o'i briodas gyntaf). Dioddefodd hi gryn salwch. Cafodd lawdriniaeth yng Nghaerdydd ond gwrthododd yn lân â chael llawdriniaeth ar gyfer y cancr y dioddefai ohono. Bu'n rhaid iddi ymddiswyddo yn 1959 oherwydd afiechyd, a symudodd hi a'i gŵr i Garmel, ger Holywell yn 1962 ond dychwelodd i Ruthun ddwy fl. yn ddiweddarach, ddau fis ar ôl marw'i gŵr o gancr ar yr ysgyfaint ym mis Medi 1964, a mynd i fyw i 115 Parc y Dre. Y mae Kate Roberts, yn ei hysgrif goffa yn Y Faner, 1 Chwefror 1968, yn nodi na welodd Louie Myfanwy ei gŵr cyn iddo farw ac na fu hi yn yr angladd oherwydd ei gwaeledd ei hun.
Bu'n aros gyda Mrs. Bishop, Knapp House, Eardisland ger Llwydlo, am gyfnod tra oedd yn gwella o'r llawdriniaeth a gawsai. Cadwai Mrs. Bishop dafarn o'r enw The White Swan. Yn ôl un hanes, ar hap y daeth o hyd i'r lle: ei bod wedi gofyn i yrrwr bws am le addas i aros ynddo, a bod hwnnw wedi cymeradwyo'r White Swan iddi. Ni ellir gwirio hynny, ond y mae'r lle yn arwyddocaol serch hynny, oherwydd yno, yn ôl y sôn, y dechreuodd Louie Myfanwy ysgrifennu (ond gweler y stori ' Lol ' yn Storïau Hen Ferch). Gwelsai foch ar waelod yr ardd a dechreuodd ysgrifennu storïau amdanynt ar gyfer plant. (Tybed ai dyma darddiad rhai o storïau Ann a Defi John - ' Siw a'r Moch Bach ' er enghraifft?) Cymharer hefyd y disgrifiad o'r bwthyn ger Amwythig a geir yn Diwrnod yw ein bywyd.
Ysgrifennai Louie Myfanwy Thomas dan yr enw Jane Ann Jones. Enw morwynol ei mam oedd Elizabeth Jane Jones ac mae'n bosibl bod Louie Myfanwy Thomas wedi seilio Jane Ann Jones ar hynny. Ni wyddys a ddaeth Louie Myfanwy Thomas i wybod yn ddiweddarach yn ei bywyd pwy oedd ei mam a gellir amau a fyddai wedi llwyddo i ddod o hyd i'w henw morwynol pe bai hynny o bwys. Mynnai Louie Myfanwy Thomas gadw'i bywyd llenyddol yn gyfrinach ac y mae'r enw Jane Ann Jones yn enw mor ddi-nod a chyffredin fel na fyddai neb yn ei gysylltu â hi. Dywed Kate Roberts yn ei hysgrif goffa yn Y Faner, ' Cadwyd yr enw “ Jane Ann Jones ” yn gyfrinach rhwng pedwar ohonom am flynyddoedd maith, ac ni châi neb wybod pwy ydoedd '. Ni wyddai ei theulu na'i chyfeillion, na'i chydweithwyr yn y swyddfa, am ei gyrfa lenyddol am rai blynyddoedd. Gwyddent y byddai'n darllen llawer - âi i'r llyfrgell yn aml i archebu llyfrau newydd a gawsai eu hadolygu yn y Daily Post er enghraifft - ond syndod i'r rhai a'i hadwaenai oedd darganfod ei bod yn awdur.'
Enillodd gan punt am nofel yng nghystadleuaeth Y Cymro yn 1953 (gweler Y Cymro, 30 Hydref 1953). Ei ffugenw oedd ' Jini Jos ' a chyhoeddwyd mai Jane Ann Jones oedd yr enillydd. ' Y mae'r gyfrinach i'w chadw ' medd Y Cymro ynglŷn â hi. (Y beirniaid oedd Islwyn Ffowc Elis, John Roberts Williams a T. Bassett). Mae lle i gredu y bu'n cystadlu rywfaint yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd gyrrodd Diwrnod yw ein bywyd i gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949 dan y ffugenw Ffanni Llwyd, a chael beirniadaeth arni gan D.J. Williams, Abergwaun (gweler Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, 153). Cyhoeddodd Y Cymro stori fer o'i heiddo ar 9 Ebrill 1954 - ' Trwy Ddrych Mewn Dameg ' - stori a ddisgrifir fel ' stori gryno, gyflawn, stori ddwys. Stori grefftus. Stori ddidramgwydd … ' a bu'n ysgrifennu sgriptiau a dramâu ar gyfer y B.B.C. am tua 10-15 mlynedd ond rhoes y gorau iddi ar ôl i'r B.B.C. ofyn iddi newid neu addasu ei harddull.
Cyhoeddodd y llyfrau canlynol, i gyd o dan yr enw Jane Ann Jones : Storïau Hen Ferch (Gwasg Aberystwyth, 1937); Y Bryniau Pell (Gwasg Gee, 1949); Diwrnod yw ein bywyd (Hughes a'i Fab, 1954); Plant y Foty (George Ronald, Caerdydd, 1955); Ann a Defi John (Gwasg y Brython, 1958).
Yr oedd yn fwriad gan George Ronald, Caerdydd, gyhoeddi cyfres o lyfrau plant, sef ' Storïau Ann a Defi John '. Gwasg y Brython a gyhoeddodd Ann a Defi John (1958), fodd bynnag. Y mae'n ddiddorol fod George Ronald wedi rhoi llun o Jane Ann Jones ar glawr cefn Plant y Foty, ac wedi enwi ei llyfrau eraill. Daeth y gath allan o'r cwd erbyn 1955 felly! Cofir amdani'n berson gwylaidd a thawel, hynaws a galluog, ond tystir gan rai nad oedd hi'n tybio fod Kate Roberts wedi bod yn garedig ynglŷn â dim a ysgrifennai. Yn ôl a ellir casglu o'i gwaith ei hun yr oedd yn wraig annibynnol ei meddwl a thuedd feirniadol ynddi. Bu farw yn ysbyty Rhuthun 25 Ionawr 1968.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.