Ganwyd 8 Medi 1896 yng ngwesty'r Norton Arms, Widnes, sir Gaerhirfryn, un o saith plentyn Edmund Valentine a Caroline (ganwyd Hawkins) Tilley. Addysgwyd ef yn ysgol Simmer Cross, Widnes, nes bod yn 15 oed. Yna symudodd i Lerpwl ac yn 1914 ymunodd â'r fyddin. Clwyfwyd ef ar y Somme. Danfonwyd ef i wella o'i glwyfau i Aberhonddu lle y cyfarfu â Constance Mary Watkins a'i phriodi ac ymsefydlu yno. Bu iddynt un ferch. Bu ei wraig farw yn 1940. Ym mis Mawrth 1923 apwyntiwyd ef yn fyrllysgydd cyntaf y gadeirlan newydd yn Aberhonddu, swydd a lanwodd gydag ymroddiad ac urddas anghyffredin am 33 blynedd nes ei orfodi gan afiechyd i ymddeol ym mis Hydref 1956. Trwythodd ei hun yn hanes, traddodiadau a phensaernïaeth yr eglwys. Gyda chefnogaeth gref Gwenllian E. F. Morgan a Syr John Conway Lloyd arbenigodd yn hanes y dref a'i sir fabwysiedig. Ymrôdd i gasglu defnyddiau ar hanes lleol, copïo arysgrifau mewn eglwysi a mynwentydd a defnyddiau eraill. Yr oedd ganddo ddawn artistig ac ymddiddorai yn herodraeth y sir ac yn achau ei theuluoedd. Yr oedd casglu majolica ymhlith ei ddiddordebau hamdden. Yr oedd ei wybodaeth am y gadeirlan a'i thrysorau yn arbennig, a rhwng ei barodrwydd i gyfrannu o'i ystôr o wybodaeth, a'i bersonoliaeth enillgar, swynodd filoedd o ymwelwyr â'r eglwys yn ystod cyfnod ei wasanaeth. Gyda mawr lafur a medr trefnai breseb Nadolig a gardd Basg yn nhalcen gorllewinol yr eglwys a fu'n destun edmyged cyffredinol am chwarter canrif. Priododd (2), 13 Medi 1950, â Doris Mary Davies. Bu farw 23 Medi 1957, a chladdwyd ef ym mynwent Aberhonddu ar ôl gwasanaeth angladdol yn y gadeirlan ar 25 Medi. Rhoddwyd ei bapurau a'i lawysgrifau gan Ddeon a Chabidwl Aberhonddu i ofal y Llyfrgell Genedlaethol. Y mae'n gasgliad gwerthfawr o ddefnyddiau ar hanes, herodraeth, ac achyddiaeth Aberhonddu a Brycheiniog.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.