VAUGHAN, JOHN (1871 - 1956), cadfridog

Enw: John Vaughan
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1956
Priod: Louisa Evelyn Vaughan (née Stewart)
Rhiant: Elinor Anne Vaughan (née Owen)
Rhiant: John Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cadfridog
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 31 Gorffennaf 1871 yn ail fab i John Vaughan, Nannau, Dolgellau, Meirionnydd (bu farw 1900) ac Elinor Anne, merch Edward Owen, Garthyngharad, Dolgellau. Medrai'r teulu olrhain ei dras o dywysogion Cymreig yr oesoedd canol. Addysgwyd ef yn Eton ac yn y Coleg Milwrol Brenhinol yn Sandhurst. Ymunodd â'r 7th Hussars yn 1891, a gwelodd wasanaeth milwrol yn yr ymgyrch i ryddhau'r Matabele yn 1896, ym Mashonaland yn 1897 ac yn ymgyrch y Sudan yn 1898. Cafodd ei glwyfo yn ystod y rhyfel yn erbyn y Bweriaid 1899-1901, enwyd ef deirgwaith mewn cadlythyrau, ac enillodd lu o anrhydeddau gan gynnwys y D.S.O. yn 1902. Daeth yn uchgapten yn y 10th Hussars yn 1904 a rhwng 1911 ac 1914 gwasanaethodd fel penllywydd Ysgol Filwrol Netheravon. Ef oedd yn arwain y 3rd Cavalry Brigade yn ystod Rhyfel Byd I; enwyd ef mewn cadlythyrau, enillodd y C.B. yn 1915 a bar i'r D.S.O. yn 1919, a daeth yn Commander Légion d'honneur. Cafodd ei ddewis i arwain y 1st Cavalry Brigade yn 1919, ac ymddeolodd o'r fyddin y flwyddyn ganlynol.

Gwasanaethodd fel llywydd Cymreig y Lleng Brydeinig yn 1932, yr oedd yn arweinydd rhanbarthol y Gwarchodlu Cartref yn ystod Rhyfel Byd II, ac yn ddirprwy lifftenant Sir Feirionnydd o 1943 hyd 1954. Fe fu hefyd yn Ynad Heddwch yn y sir. Cyhoeddodd gyfrol o hunangofiant, Cavalry and sporting memoirs (1955), lle ymosododd yn hallt ar arweinyddiaeth David Lloyd George yn ystod Rhyfel Byd I. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn pysgota a hela.

Priododd, 22 Hyd 1913, â Louisa Evelyn, merch hynaf Capten J. Stewart, Alltyrodyn, Llandysul, Ceredigion, a gweddw Harold P. Wardell, Brynwern, Pontnewydd-ar-Wy. Ni fu iddynt blant. Ymgartrefent yn Nannau. Bu farw 21 Ionawr 1956 yn ei gartref ar ôl syrthio oddi ar ei geffyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.