WATKIN, MORGAN (1878 - 1970), ysgolhaig ac Athro

Enw: Morgan Watkin
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1970
Priod: Lucy Watkin (née Jenkins)
Rhiant: Barbara Watkin (née Rhys)
Rhiant: William Watkin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig ac Athro
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Edouard Bachellery

Ganwyd 23 Mehfin 1878, yn ffermdy Pen-rhewl-las, Mynydd Gelliwastad, Clydach, Morgannwg, yn un o chwe phlentyn William a Barbara (ganwyd Rhys) Watkin. Brawd iddo oedd William Rhys Watkin. Wedi bod yn ysgol elfennol Pen-clun, ger Rhydypandy, aeth yn 11 oed i weithio fel dryswr mewn pwll glo. Yn 1893 prentisiwyd ef am 3 blynedd i John Griffiths, adeiladydd ym Mhontardawe, a phlesio hwnnw gymaint nes iddo roi tâl 3edd blwyddyn iddo ar derfyn y gyntaf. Bu'n gweithio wedyn fel adeiladydd yn ardaloedd Abertawe a Chwm Tawe, ac ar gronfeydd dwr Elan a Clee ac yn Birmingham. Dysgodd Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg mewn dosbarthiadau nos. Bu am flwyddyn yn Crookley a cherddai'r pedair milltir i ddosbarthiadau nos yn Kidderminster. Yno enillodd y wobr gyntaf mewn Ffrangeg o dan F. E. Von Dembski a dod yn uchaf o 600 o fyfyrwyr yn arholiad y Midland Counties Union of Educational Institutions. Meistrolodd Almaeneg hefyd a bu'n dysgu Cymraeg i'w athro. Aeth wedyn i Chatham lle bu'n naddu a rhychu meini yn iard llongau'r llynges a dysgu Lladin yn ei oriau rhydd. Yn 1903 aeth yn athro Ffrangeg yn y Birkenhead Institute, a symud wedyn i Lime School, Croydon. Yn 1905 symudodd i Gaerdydd fel athro Ffrangeg yn ysgol Gerddi Howard. Yn ei amser rhydd mynychai ddosbarthiadau'r coleg yng Nghaerdydd, ac yn 1910 graddiodd gydag anrhydedd mewn Ffrangeg a Chymraeg. Cafodd gymrodoriaeth y Brifysgol ac Ysgoloriaeth Gilchrist a'i galluogodd i fynd i Ffrainc, lle bu'n ' ddarllenydd Saesneg ' yn y Lycée Louis-Le-Grand ac yn ddarllenydd iaith a llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Paris. Yr Athro Vendryes, a oedd ar y pryd yn athro ieitheg gymharol yn y Brifysgol, a'i cymerodd fel darllenydd Cymraeg yno. Yr un pryd astudiai Gymraeg Canol o dan Joseph Loth, athro Celteg yn y Collège de France, a ffoneteg o dan yr Abbé Rousselot. Yn 1913 cafodd radd M.A. Prifysgol Cymru am draethawd ar Ystorya Bown o Hamtwn, yn 1914 Licence ès Lettres Prifysgol Rennes, ac yn 1916 radd Ph.D. Prifysgol Zürich, summa cum laude. Yn 1916 cafodd swydd darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Caerdydd o dan Thomas Powel (Bywg., 726), a theitl darlithydd arbennig (di-dâl) yn y Ffrangeg o dan Paul Barbier. O 1917 i 1920 bu yn Neheudir Affrica yn Athro Ffrangeg ac Eidaleg yn Ysgol Mwynfeydd a Thechnoleg Johannesburg. Yn 1920 penodwyd ef yn Athro Ffrangeg a Philoleg Romawns yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac o 1948 i 1950 daliodd Gadair Ffrangeg yng Ngholeg Abertawe.

Yr oedd yn ddeon cyfadran y celfyddydau yng ngholeg Caerdydd, 1923-25, ac yn is-brifathro, 1931-33, a bu am flynyddoedd yn brif arholwr mewn Ffrangeg ac Eidaleg i'r Bwrdd Canol Cymreig. Ymladdodd yn ddygn am gydraddoldeb Cymraeg a Saesneg yn arholiadau ymaelodi ym Mhrifysgol Cymru, a thros ddwyieithrwydd yng nghyfundrefn addysg Cymru. Cymerai ddiddordeb mawr yng Ngholeg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd ac yng nghapel y Tabernacl (B), lle bu'n ddiacon o 1926 ymlaen. Bu'n aelod gweithgar iawn o Orsedd y Beirdd am dros 70 mlynedd, ac ef oedd y Derwydd Gweinyddol o 1959 i 1964.

Cafodd anrhydeddau lawer: Officier de l'Instruction Publique, Rennes, 1911, Cavaliere della Corona d'Italia, 1920. Chevalier de la Légion d'Honneur, 1932, Commandeur des Palmes Académique, 1965, Docteur ès Lettres, Rennes, 1962, a D. Litt. (Cymru), 1961.

Yr oedd yn ysgolhaig o'r radd flaenaf mewn dau faes a astudid fel rheol yn hollol ar wahân yn ei amser ef, sef y Gymraeg a'i hen lenyddiaeth, a'r Ffrangeg a'i hen lenyddiaeth hithau. Ef oedd un o'r rhai cyntaf i ddeall fod y gyfathrach agos yn yr Oesoedd Canol rhwng yr arglwyddi Normanaidd a'u llysoedd Ffrangeg eu hiaith ar y Gororau ac yn neheudir Cymru a'r arglwyddi o Gymry a'u llysoedd Cymraeg eu hiaith wedi cael effeithiau pwysig yn y ddwy ffordd: nid yn unig cafodd y chwedlau Celtaidd (ac yn eu plith y chwedlau Arthuraidd Cymraeg) ddylanwad mawr ar lenyddiaeth Ffrangeg yr Oesoedd Canol, a thrwy honno ar holl lenyddiaethau Ewrop, ond ar y llaw arall treiddiodd diwylliant ac iaith Ffrainc i gylchoedd eang o fonedd a gwyr llên Cymru. Felly, yn syth o'r Ffrangeg i'r Gymraeg yr ymlwybrodd y rhan fwyaf o'r geiriau Hen Ffrangeg a fenthyciodd yr iaith lenyddol yn yr Oesoedd Canol, heb fynd drwy gyfrwng y Saesneg. Y mae hyn yn neilltuol amlwg yn y corff o lenyddiaeth Gymraeg Canol a gyfieithwyd yn uniongyrchol o'r Hen Ffrangeg (e.e. Ystorya Bown o Hamtwn), lle ceir yn aml yr un gair Ffrangeg yn y gwreiddiol ac yn y cyfieithiad. Credai Morgan Watkin hyd yn oed ei fod yn medru olrhain dylanwad priodddulliau Hen Ffrangeg yng nghystrawen rhai testunau Cymraeg Canol. Yr oedd ei feistrolaeth ar balaeograffiaeth hefyd yn ei alluogi i ganfod yn sgript y prif hen lawysgrifau Cymraeg, a gopïwyd mewn mynachlogydd Sistersaidd, ddylanwad sgript Hen Ffrangeg y mam-abatai Ffrengig. Rhaid cydnabod yn deg fod ei adnabyddiaeth drylwr o'r cefndir Ffrengig - Normanaidd yn yr Oesoedd Canol wedi hudo Morgan Watkin weithiau i fynd i eithafion braidd, ac i or-brisio'r dylanwadau Ffrengig, yn enwedig yn yr hen ruddin o lenyddiaeth Gymraeg frodorol gysefin (e.e. Culhwch ac Olwen). Rhaid hefyd wrthod tarddiad Ffrangeg i air Cymraeg (pa mor ddifai bynnag y bo yn ôl rheolau ffoneteg) bob tro y bydd cymhariaeth â'r ieithoedd Celtaidd eraill yn profi ei fod yn Gymraeg o'r gwraidd. Ond y mae bron yn sicr fod corff mawr y geiriau Ffrangeg a fenthyciodd y Gymraeg hyd at ganol y 14eg ganrif wedi dod yn syth o'r Ffrangeg. Cymwynas fawr Morgan Watkin oedd agor led y pen ffenestr newydd ar agwedd bwysig o lên y Cymru a oedd wedi aros yn rhy hir o dan lestr. Caiff ei ddilynwyr hidlo'i dystiolaeth a phwyso a mesur ei ddadleuon. Ond, bellach, ni fydd yn deg eu hanwybyddu.

Ei brif weithiau yw ' The French linguistic influence in Mediaeval Wales ', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1920; ' The French literary influence in Mediaeval Wales ', ibid., 1921; gyda V. E. Nash-Williams 'A pre-reformation inscribed chalice and paten, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 13 (1925); 'Albert Stimming's Welsche Fassung in the Anglonormanische Boeve de Hamtone, an examination of a critique', yn Studies in French language and mediaeval literature presented to M.K. Pope; 'Sangnarwy ac oed Kulhwch ac Olwen yn y Llyfr Gwyn', Bulletin of the Board of Celtic Studies, 13 (1949) 'Testun Kulhwch a'i gefndir Ffrengig eto', ibid., 14 (1950); Ystorya Bown de Hamtwn, cyfieithiad canol y 13eg ganrif o La Geste de Bown de Hamtone, gyda rhagymadrodd, nodiadau, a geirfa (1958); 'The Chronology of the Annales Cambriae and the Liber Landavensis on the basis of their Old French graphical phenomena', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1960); La Civilisation française dans les Mabniogion (1962); 'The Chronology of the White Book of Rhydderch on the basis of its Old French graphical phenomena', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1964); 'The Book of Aneirin, its Old French remanients, their chronology on the basis of the Old French language', ibid. (1965); 'The Chronology of the Black Book of Carmarthen, on the basis of its Old French phenomena', ibid. (1965); ' The Black Book of Chirk and the orthographia gallica anglicana, The Chronology of the Black Book of Chirk on the basis of its Old French graphical phenomena ', ibid. (1966).

Yn 1911 yng Nghaerdydd yng nghapel y Tabernacl (B) priododd Lucy Jenkins, gynt o'r Hendy, Pontarddulais, chwaer John Gwili Jenkins . Bu farw 7 Medi 1970.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.