WILLIAMS, ERNEST LLWYD (1906 - 1960), gweinidog (B), prifardd a llenor

Enw: Ernest Llwyd Williams
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1960
Priod: Eiluned Williams (née James)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B), prifardd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 12 Rhagfyr 1906 yn y Lan, ger pentref Efail-wen, Caerfyrddin Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Brynconyn, Llandysilio (wrth draed John Edwal Williams, tad ei gyfaill oes Waldo Williams ) ac yn yr ysgol sir yn Arberth lle y dechreuodd ei yrfa wedyn yn brentis fferyllydd. Bedyddiwyd ef yn 1923 yn Rhydwilym, a bu traddodiadau'r eglwys hynafol honno a diwylliant bro'r Preselau yn ddylanwadau parhaol ar ei waith llenyddol. Wedi cwrs yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, 1928-31, ordeiniwyd ef 2 Medi 1931 yn weinidog eglwys y Tabernacl, Maesteg. Sefydlwyd ef 10 Medi 1936 yn eglwys Ebeneser, Rhydaman, lle y bwriodd weddill ei oes. Yr oedd yn weinidog uchel ei barch ac yn bregethwr a galw cyson am ei wasanaeth yng ngwyliau ei enwad. Traddododd anerchiad yng Nghynhadledd Undeb Bedyddwyr Cymru, 1943, ar ‘Y weinidogaeth hon’.

Daeth i fri yn bennaf ar gyfrif ei farddoniaeth; am gerddi buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig am awdl ‘Y Ffordd’ yn 1953 a phryddest ‘Y Bannau’ yn 1954. Cyhoeddodd Cerddi'r plant (1936), ar y cyd â Waldo Williams ; a detholiad o'i ganu Tir Hela (1956); a lluniodd gerddi ar gyfer W. Rhys Nicholas (gol.), Beirdd Penfro (1961). Un o nodweddion ei grefft brydyddu oedd ei ddawn i arbrofi eithr heb ymwrthod â thraddodiad. Ymddengys dau emyn wrth ei enw yn Y Llawlyfr Moliant Newydd (1955), ac ef, yn 1943, biau'r geiriau poblogaidd ‘Pwy fydd yma ‘mhen can mlynedd?’. Bu am gyfnod yn olygydd ‘Colofn yr awen’ yn Seren Cymru, ac yn aelod o dîm Ymryson y Beirdd Sir Gaerfyrddin.

Bu'r un mor doreithiog ac o bosibl yn fwy arhosol ei gynnyrch ym myd rhyddiaith. Cyhoeddodd Rhamant Rhydwilym (1939), braslun hylaw o hanes yr achos (ar y cyd â'r ysgrifennydd John Absalom); Hen ddwylo (1941), yn cynnwys portreadau o ‘gymeriadau’ bore oes yng nghysgod y Preselau; Tua'r cyfnos (1943), nofel fuddugol yng nghystadleuaeth Llyfrau'r Dryw; cofiant Thomas Phillips, 1868-1936 (1946), Prifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd (Bywg 718); Dan y sêr, rhaglen Urdd y Seren Fore ar gyfer Cynhadledd Undeb Bedyddwyr Cymru ym Mrynaman, 1948; a dwy gyfrol Crwydro sir Benfro (1958, 1960). Bu hefyd yn gyfrifol am golofn wythnosol, ‘Yn y ty wrth y tân’, yn y South Wales Guardian.

Priododd, 11 Awst 1936, yn Rhydwilym, Eiluned James, Maenclochog, a ganed iddynt un ferch. Bu farw yn frawychus o sydyn 17 Ionawr 1960, a chladdwyd ef ym mynwent Rhydwilym. Cynhaliwyd cyfarfod coffa iddo yn Rhydwilym, 5 Chwefror 1960, a llwyfannwyd rhaglen deyrnged iddo ym Maenclochog, 21 Mawrth 1979.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/