Ganwyd 7 Ebrill 1866 yn Llundain, mab ieuengaf H. A. Bruce, yr Arglwydd Aberdâr cyntaf a'i ail wraig, Norah. Aeth i'r ysgol i Harrow ac yna Repton ond yn wahanol i'w frawd W. N. Bruce nid ymroddodd i addysg: trwy'r milisia, yn hytrach na Sandhurst, y cafodd gomisiwn yn yr Oxfordshire and Buckinghamshire Light Infantry yn 1887. Wedi ymuno â'r 5ed Gurkha Rifles yn 1889, daeth yn feistr ar ryfela mynydd cyffindir gogledd-orllewin yr India. Enwyd ef deirgwaith mewn cadlythyrau, a'i ddyrchafu'n is-gyrnol erbyn 1913. Ym Mai 1914, penodwyd ef yn bennaeth y 6ed Gurkhas, ac enwyd ef deirgwaith eto mewn cadlythyrau cyn cael ei glwyfo'n arw yn Gallipoli. Yna anfonwyd ef yn ôl i'r India i arwain brigâd annibynnol y cyffindir. Cyn gorfod ymddiswyddo oherwydd afiechyd, yn frigadydd, yn 1920, yr oedd wedi ei enwi ddwywaith eto mewn cadlythyrau a gwasanaethu yn nhrydydd Rhyfel Afghanistan. Penodwyd ef yn gyrnol er anrhydedd y 5ed Gurkhas yn 1931.
Sail llwyddiant Bruce fel milwr oedd ei feistrolaeth ryfedd ar ieithoedd y Gurkhas a'u cymdogion, ei afiaith yn eu plith a'i gryfder diarhebol. Fel un o arloeswyr pennaf oll mynyddoedd yr Himalaya y cofir ef fwyaf. Yr oedd gyda Conway ar yr ymgyrch gyntaf i'r Karakoram yn 1892, gyda Younghusband yn yr Hindu Kush yn 1893, a chyda Mummery ar Nanga Parbat yn 1895. Yn 1898, chwiliodd gyffiniau Nun Kun, gyda'i wraig ac 16 Gurkha.
Mynyddoedd is na'r 20,000 troedfedd oedd gwir hyfrydwch Bruce ond, wedi sôn am gael golwg ar Everest er 1893, trefnodd i roi cynnig arno trwy Dibet gyda Longstaff a Mumm yn 1907. Rhwystrwyd hwy gan Swyddfa Dramor Prydain ac aethant i gyffiniau Nanda Devi, gan lwyddo i esgyn Trisul (7,100 metr); nid esgynnwyd mynydd uwch tan 1931. Ymwelodd Bruce â Nepal a Sikkim yn 1908 a dechrau trefnu i gyrchu Everest o'r deau. Gwrthodwyd caniatâd iddo eto ond ef oedd trefnydd ac arweinydd y ddwy ymgais gyntaf (o'r gogledd) yn 1922, pryd y torrodd (y Cadfridog) John Geoffrey Bruce (ganwyd 4 Rhagfyr 1896 a mab i'w gefnder Syr Gerald Trevor Knight-Bruce, o St. Hilari, Morgannwg) record uchder y byd ar 8,300 metr, ac yn 1924, pryd y collwyd Mallory ac Irvine ar y llethrau terfynol. Ni allai Bruce ddringo'n uchel iawn ei hun erbyn hyn ond yn ôl Longstaff yr oedd yn 'arweinydd delfrydol'. Prin fod medr technegol mor bwysig yn yr Himalaya yn ei gyfnod ef â'r ddawn i fod yn gwbl gartrefol yn yr ucheldir anhygyrch ac ymhlith ei bobloedd amrywiol. Cyfraniad mwyaf Bruce, efallai, oedd darganfod gwerth y mynyddwr brodorol, yn enwedig y Sherpa. O'r cychwyn mynnodd hyfforddi milwyr Gurkha i fod yn arweinwyr mynydd, gan ddod ag ambell un adref i Gwmdâr ac i'r Alpau. Etholwyd ef yn llywydd y Clwb Alpaidd yn 1923 ac yn aelod anrhydeddus o Glwb Alpaidd y Swistir, ymhlith clybiau eraill. Derbyniodd wobr goffa Gill gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn 1915, a bathodyn aur y Sylfaenydd yn 1925. Derbyniodd ddoethuriaethau oddi wrth Brifysgolion Cymru (D.Sc.), Rhydychen (D.Sc.), Caeredin (D.C.L.) a S. Andrews (LL.D.). Penodwyd ef yn M.V.O. yn 1903 ac yn C.B. yn 1918.
Cyhoeddodd y llyfrau a ganlyn: Twenty years in the Himalaya (1910), Kulu and Lahoul (1914), The assault on Mount Everest 1922 (1923) a Himalayan wanderer (1934). Yn yr olaf, dywed am ei fachgendod yn y Dyffryn, Cwmdâr; 'Treuliais fy holl amser yn rhedeg o gwmpas y bryniau, gan sugno i fewn o'm dyddiau cynharaf gariad tuag at y mynydd-dir a dod i'w ddeall heb sylweddoli hynny … gan fod fy nhad yn caru ei gymoedd a'i fryniau ei hun gyda'r cariad mwyaf perffaith.' Cyn ymuno â'r fyddin, yr oedd wedi cerdded gyda (Syr) Rhys Williams o Feisgyn 'o Dde Cymru i'r Gogledd' a dod i 'addoli' mynyddoedd gwyllt Cymru. Ffermwr o'r cwm oedd ei athro ym mhethau'r wlad ac yn ôl Longstaff arferai Bruce ganu alawon Cymreig gydag arddeliad.
Priododd Finetta Madeline Julia, trydedd ferch y cyrnol Syr Edward Fitzgerald Campbell yn 1894. Bu farw eu hunig blentyn, mab, yn ifanc. Bu farw Mrs. Bruce yn 1932 a'r cadfridog ei hun ar 12 Gorffennaf 1939. Yn 1942 gosodwyd cofeb iddo yn eglwys Abbottabad (Pakistan) gan y 5ed a'r 6ed Gurkhas.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.