Fe wnaethoch chi chwilio am 1941
Ganwyd 3 Tachwedd 1876 yn Abertawe, mab Joshua George a Catherine (ganwyd Bowen) Howard. Daliai ei dad ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol o John Howard, diwygiwr y carcharau. Amddifadwyd ef o'i rieni pan oedd yn blentyn, ac fe'i magwyd am beth amser gan deulu ei fam. Yna, fe'i rhoddwyd yn y Cottage Homes yn y Cocyd, ger Abertawe. Wedi iddo gyrraedd oedran llanc fe'i cymerwyd i'w fagu gan löwr a'i wraig, Thomas a Mary Davies, Bôn-y-maen, Llansamlet, a bu am gyfnod yn löwr ei hun. Cawsai ei addysg gynnar yn ysgol Cocyd, ond pan benderfynodd ei gyflwyno'i hun i'r weinidogaeth aeth am addysg bellach i Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman, a gedwid gan Watcyn Wyn ac wedyn i academi Castellnewydd Emlyn a gedwid gan John Phillips, mab yr enwog Evan Phillips. Oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg Trefeca. Derbyniodd alwad i eglwys Bresbyteraidd (S) Terrace Road, Abertawe, cyn cwpláu ei gwrs coleg ac ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa'r Porth yn 1905. Am gyfnod byr y bu'n gofalu am eglwys Terrace Road cyn symud i'r Tabernacl, Cwmafon (1905-09); wedi hynny bu'n weinidog Wilmer Road, Birkenhead (1909-15); eglwys Bresbyteraidd (S) Bae Colwyn (1915-27); Catherine Road, Lerpwl (1927-41) a derbyniodd alwad eilwaith i eglwys Bresbyteraidd (S) Bae Colwyn yn 1941. Bu yno hyd 1947 pan ymddeolodd oherwydd afiechyd.
Priododd Annie Matilda Davies, Parc, Rhydaman, a bu iddynt fab a merch.
Yn ystod ei weinidogaeth, yn enwedig yn Lerpwl, gwnaeth lawer o waith cymdeithasol, ac fe'i hadweinid fel ' Down-and-out Jim ' oherwydd fe'i gwelid yn fynych yn ymuno â chiw'r di-waith er mwyn cael cyfle i gasglu gwybodaeth am broblemau cymdeithasol. Yr oedd yn sosialydd brwd, yn amlwg gyda'r mudiad Llafur, ac yn gyfaill personol i rai fel Ramsay MacDonald, Philip Snowden, Arthur Henderson a George Lansbury. Bu'n ymgeisydd seneddol dros y Blaid Lafur yn sir Feirionnydd yn etholiad 1931. Yr oedd hefyd yn heddychwr o argyhoeddiad, a gwnaeth lawer dros wrthwynebwyr cydwybodol yn ystod Rhyfel Byd I trwy siarad drostynt ac ymweld â hwy mewn gwersylloedd milwrol, megis Cinmel. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd yn enwedig ymhlith cynulleidfaoedd y De, ac er mai Saesneg oedd ei iaith gyntaf, daeth yn llefarwr ac ysgrifennwr llithrig yn y Gymraeg yn ogystal. Pwysleisiai'r agweddau cymdeithasol ar ddysgeidiaeth yr Efengyl, ac fe'i hystyrid ar un cyfnod yn ddiwygiwr cymdeithasol pur danbaid, ond erbyn iddo ddychwelyd i Fae Colwyn yn 1941 yr oedd wedi tymheru cryn dipyn ar ei syniadau.
Ymddiddorodd yn fawr yn hanes deddfau'r tlodion, ac enilloddd radd M.A., Prifysgol Lerpwl, yn ystod sesiwn 1920-21 am draethawd ar ' Phases of Poor Law policy and administration, 1760-1834, with special reference to Denbighshire and Caernarvonshire vestries '. Yn 1936 anrhydeddwyd ef â gradd D.D. gan Princeton Theological Seminary, T.U.A. Ysgrifennodd lawer i'r wasg ar grefydd a phynciau cymdeithasol, a chyhoeddodd nifer o lyfrau a fu'n boblogaidd iawn yn eu cyfnod, gan gynnwys hunangofiant diddorol, Winding Lanes. Ei brif gyhoeddiadau yw: Y Bywyd llawn o'r Ysbryd (gan John Macneil) wedi ei gyfieithu gan y Parch. J. H. Howard … ynghyda rhagymadrodd gan y Parch. J. Phillips ac A. Murray (1906); Cristionogaeth a chymdeithas gyda rhagair gan y gwir anrhydeddus D. Lloyd George (1914); Life beyond the veil (1918); Which Jesus? Young Britain's choice (1926); Perarogl Crist: cofiant a phregethau y Parch. William Jones, Treforis (1932); Jesus the agitator: foreword by the Rt. Hon. George Lansbury (1934); Winding lanes: A book of impressions and recollections (1938).
Bu farw mewn ysbyty preifat ym Mae Colwyn 7 Gorffennaf 1947 a chladdwyd ef ym mynwent Bron-y-nant, Bae Colwyn, 9 Gorffennaf
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.