JONES, DAVID BEVAN ('Dewi Elfed ' 1807 - 1863), gweinidog (B ac Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf - Mormoniaid)

Enw: David Bevan Jones
Ffugenw: Dewi Elfed
Dyddiad geni: 1807
Dyddiad marw: 1863
Plentyn: Aneurin Jones
Rhiant: Hannah Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B ac Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf - Mormoniaid)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David Leslie Davies

Ganwyd 1807 yn fab i John a Hannah Jones, Gellifaharen, Llandysul, Ceredigion a bedyddiwyd ef 30 Mehefin 1807. Ymaelododd yng Nghapel Pen-y-bont (B), plwyf Llanfihangel-ar-arth c. 1822 ond codwyd ef i bregethu gan Eglwys Ebeneser, Llandysul. Bu'n weinidog yn Seion (B), Cwrtnewydd, Ceredigion (1841-6); Jerwsalem, Rhymni, Mynwy (1846-48); a Gwawr, Aberaman, Morgannwg, o tua dechrau 1849. Cydiodd yn y dasg o orffen codi capel Gwawr a gorffolwyd yn achos ym Mehefin 1848. Newidiodd Dewi les y capel gan ddileu enw'r Parchg. Ddr. Thomas Price a chyfaill iddo ac ychwanegu ei enw ei hun a chefnogwr. Dyma ddechau'r gynnen rhyngddo ef a Price ond byrdwn yr anghydfod oedd cyhuddiad fod Dewi yn defnyddio'i swydd fel gweinidog Bedyddiedig i hyrwyddo daliadau'r Saint; o bardduo'i gyd-weinidogion; o wadu undod y Drindod a natur unigryw y Beibl ar achubaeth; o bregethu posibilrwydd gwyrthiau yn uniongyrchol o ddwylo'r sawl a gafodd yr Ysbryd; o ddysgu milenariaeth ac o'i alw ei hun yn apostol. Ni wyddys i sicrwydd na sut na phryd y daeth Dewi dan ddylanwad Mormoniaeth. Ond hyd yn oed cyn iddo ymadael â Rhymni bu sôn amdano'n coleddu syniadau anuniongred i gyfeiriad Undodaeth. Cynhaliwyd ymchwiliad gan Gymanfa Bedyddwyr Morgannwg yn Aberdâr, Tachwedd 1850, a diarddelwyd ef a chynulleidfa Gwawr o aelodaeth yn y Gymanfa. Yn 1851 aeth at William Phillips, llywydd y Saint yng Nghymru, a derbyniodd fedydd y Mormoniaid (gyda phedwar arall) yn afon Cynon, 27 Ebrill 1851, gerbron tyrfa o tua 2,000 cyn dychwelyd i'r capel lle y gwnaed ef yn offeiriad ymysg Saint y Dyddiau Diwethaf. Dyma un o uchafbwyntiau'r genhadaeth Formonaidd yng Nghymru a roes iddynt gapel a gweinidog Bedyddiedig a môr o gyhoeddusrwydd. Bu ymrafael cyfreithiol rhwng y Saint a'r Bedyddwyr, ac yn sesiwn haf 1851 o frawdlys Morgannwg dyfarnwyd o blaid y Bedyddwyr. Yn Nhachwedd 1851 trefnodd y Bedyddwyr orymdaith o 2,000 dan arweiniad Price er adfeddiannu Gwawr gan fod Dewi Elfed wedi gwrthod ildio'r adeilad iddynt er gwaethaf dedfryd y llys.

Anfonwyd Dewi Elfed gan y Saint fel cenhadwr huawdl a hysbys trwy Forgannwg a Gwent i ledaenu'r ffydd. Yn Hydref 1852 penodwyd ef yn drysorydd y genhadaeth; ac yn Ionawr 1853 penodwyd ef yn llywydd Cynhadledd Llanelli, a'i fab Aneurin yn ysgrifennydd iddo. Yn Awst 1854 symudodd i Abertawe ar ei benodiad yn llywydd Cynhadledd Gorllewin Morgannwg. Cyd-darodd hyn â phenderfyniad Daniel Jones (1811 - 1861) i symud pencadlys y Saint Cymreig o Ferthyr i Abertawe ym Medi 1854. Daeth ei lywyddiaeth yno i ben yng Ngorffennaf 1855 pan gyhuddwyd ef o dwyll ariannol a'i esgymuno. Er iddo gymodi â'i eglwys a'i harweinwyr yn Ebrill 1856, ni roddwyd swydd iddo byth wedyn yng ngweinyddiad y Genhadaeth Gymreig. Yn hytrach, manteisiwyd ar ei ddawn diamheuol fel pregethwr a dadleuwr miniog i'w anfon o gwmpas de Cymru i atgyfnerthu ffyddloniaid a cheisio tröedigion newydd.

Priododd erbyn 1833 a bu pump o blant o'r briodas. Ym Mai 1860 ymfudodd ef, ei wraig a'u dau blentyn ifancaf o Lerpwl ar fwrdd y William Tapscott i Efrog Newydd, a buont yno am ddwy flynedd cyn teithio am bedwar mis ar draws y paith gydag arloeswyr Mormonaidd eraill a chyrraedd Dyffryn y Llyn Halen Mawr Hydref 1862. Ymsefydlodd yn Logan, tua 100 milltir i'r gogledd o Ddinas y Llyn Halen, ond bu farw o'r darfodedigaeth ym mis Mai neu Fehefin 1863.

Cyhoeddodd: Eos Dyssul (1838); Can newydd yn dangos niweidiau meddwdod (d.d.); a Serch gerdd (d.d.). Ymddangosodd ei waith yn bennaf yng nghyfnodolion y Bedyddwyr a'r Mormoniaid (Seren Gomer ac Udgorn Seion yn arbennig); eithr uchafbwynt ei lenydda yn ddiau yw ei ryddiaith bolemaidd ddiweddar er hyrwyddo cenhadaeth y Saint a dychanu Ymneilltuaeth yn yr ohebiaeth eirias rhwng Thomas Price a Dewi yn Yr Amserau ac Udgorn Seion.

Dewi Elfed oedd un o gymeriadau mwyaf lliwgar a helbulus cenhadaeth ddadleuol y Mormoniaid Cymreig ynghanol y 19eg ganrif. Trwy ei bregethu, ysgrifennu, dadlau a'i emynau cyfrannodd yn helaeth at eu hymdrech genhadol. Eithr ei gyfraniad pennaf oedd ei dröedigaeth ei hun, gan mai ef oedd yr unig weinidog o blith y prif enwadau anghydffurfiol i droi'n Sant. Cymeriad annisgybledig ydoedd, gyda dawn i gorddi cyfaill yn ogystal â gelyn. Dengys ei fywyd yr elyniaeth lem a wynebai'r Saint yng Nghymru 'r oes; ond hefyd ymroddiad a disgyblaeth ryfedddol Cenhadaeth Gymreig y Mormoniaid ynghanol y 19eg ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.