JONES, JOHN (1820 - 1907), gweinidog (B) a hanesydd

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1907
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B) a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Reginald Campbell Burn Oliver

Ganwyd yn ffermdy Lower Trelowgoed, Cefn-llys, Maesyfed, 10 Mai 1820, yn fab hynaf o ail briodas James Jones, gweinidog (1829-1860) capel y Rock ger Crossgates a deiliad y fferm. Digon prin, mewn ysgol leol, fu addysg ffurfiol John a bu'n ffermio gyda'i dad, ac, wedi derbyn bedydd argyhoeddiad yn 1840, yn ei gynorthwyo gyda'i waith eglwysig a phregethu. Ymhen pedair blynedd, ar gymeradwyaeth William Jenkins, gweinidog eglwys y Dolau, Nantmel, fe'i derbyniwyd yn un o un-ar-bymtheg o fyfyriwr am y weinidogaeth o dan y Prifathro Thomas Thomas (1805 - 1881) yng Ngholeg (B) Pont-y-pŵl. Fe'i hord. yn 1847 i ofalaeth yr eglwysi yn Llanfair Llythynwg (Gladestry) ac Evenjobb. Drwy ymdrechion ei dad y codasid y capel yn Llanfair yn 1842, a thrwy ymdrechion y mab y codwyd capel Evenjobb yn 1849. Cadwai ysgol ddyddiol yng nghapel Llanfair ar gyflog o elusen Edward Gough. Yn 1849 priododd Anne Roberts (ganwyd 1825 yn Cheltenham o deulu Methodistaidd yn ardal Abaty Cwm-hir). Am rai blynyddoedd cyn ei marw yn 1864 bu hi'n cadw ysgol i ferched yng Ngheintun. Cawsant wyth o blant, chwech yn marw yn ieuanc.

Bu John Jones yn fugail ar eglwysi ym Mrynbuga (1850-53), Corsham, Wiltshire (1853-55) a Towcester, Swydd Northampton (1856-61). Tua diwedd 1861 derbyniodd alwad i eglwys y Rock a ddaethai'n wag ar farwolaeth ei dad yn 1860. Parhaodd i fyw yng Ngheintun hyd oni chodwyd tŷ gweinidog helaethach yn y Rock, lle y bu ef a'i ail wraig Anne (ganwyd Rogers o Rotherhithe yn 1825) yn byw hyd 1888. Bu'n gyfrifol am adeiladu capeli yn y Dolau (lle y gweinidogaethodd am 11 mlynedd) yn 1870, a Llandrindod yn 1876. Yno yn 1890 y bu farw ei ail wraig yn y tŷ y symudasent iddo o'r Rock ddwy flynedd cyn hynny. Yn 1891 rhoes y Rock i fyny, a chanolbwyntio ar Landrindod dros weddill ei yrfa fugeiliol hyd oni orfodwyd ef gan henaint i fyw'n fwy hamddenol yn 1897. Eto, cynhaliodd wasanaeth yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yn Llandrindod o fewn 5 wythnos i'w farwolaeth ar Ddygwyl Dewi, 1907. Gadawodd ferch a mab.

Teithiodd yn helaeth yng Nghymru a Lloegr i gasglu at glirio dyledion capeli y bu'n gyfrwng i'w hadeiladu. Yng Nghymru a'r Gororau adweinid ef fel Jones y Rock, ac fe'i disgrifiwyd fel 'esgob' anghydffurfiol sir Faesyfed. Cyhoeddodd ddwy gyfrol fechan o'u bregethau nad oes ynddynt lawer o deilyngdod. Ei unig waith llenyddol gwerthfawr yw ei History of the Baptists in Radnorshire y dechreuodd arno cyn 1876 ond nas gorffennodd tan 1895 gan bwysau gwaith bugeiliol. Am y cyfnod cynnar dibynnodd ar ffynonellau argraffedig fel gweithiau Thomas Rees a Joshua Thomas, ac am y cyfnod 1795-1895 tynnodd ar ei wybodaeth bersonol ac ar atgofion ei dad a'i gyfeillion am ddatblygiad yr achos bedyddiedig yn y sir. Er gwaethaf esgeulustod gyda'r proflenni a diffyg mynegai erys y gyfrol yn anhepgorol i efrydwyr hanes y Bedyddwyr yng nghanolbarth Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.