JONES, THOMAS OWEN ('Gwynfor ', 1875 - 1941), llyfrgellydd, dramodydd, actor a chynhyrchydd

Enw: Thomas Owen Jones
Ffugenw: Gwynfor
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1941
Rhiant: Ellen Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd, dramodydd, actor a chynhyrchydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Thomas Elwyn Griffiths

Ganwyd 19 Ionawr 1875=, ym Mhwllheli, Caernarfon, mab William ac Ellen Jones, Stryd Newydd. Derbyniodd ei addysg yn ysgol y cyngor yn y dref honno, a'i brentisio wedyn mewn siop groser leol. Rhwng 1916 ac 1917 bu'n cadw busnes ei hun yn nhref Caernarfon nes ei benodi'n llyfrgellydd y sir ar gyflog o £130 y flwyddyn. Hon oedd y llyfrgell sir gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Lleolwyd hi mewn dwy ystafell ym Mhlas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon. Ymddengys mai penodiad dros dro oedd hwn yn y lle cyntaf, ond ymwelodd Gwynfor â phencadlys Ymddiriedolaeth Carnegie yn Dunfermline am ychydig amser er mwyn ymgymhwyso rhywfaint ar gyfer y swydd newydd hon, a hynny mewn cyfnod pan na osodid fawr ddim pwys ar fod yn llyfrgellydd proffesiynol. Ym myd y ddrama yr oedd rhagoriaeth Gwynfor a daeth yn enwog trwy Gymru gyfan fel actor a chynhyrchydd i'w gwmni drama 'Y Ddraig Goch'. Cyhoeddodd nifer o'i ddramâu ei hun: Y Briodas ddirgel (1915), Trem yn ôl (1920; ail arg.), Perthnasau (1922), Y llo aur a lloi eraill (1925), Eiddo pwy? (1935), Troi'r byrddau (1939), a Tywydd mawr (1931), a chyfrol o ryddiaith - Straeon (1931). Yr oedd yn gwmnïwr diddan a chanddo stôr o draddodiadau am y Maes yng Nghaernarfon. Yr oedd yn eisteddfodwr brwd ac yn feirniad drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol droeon. Daeth ei ystafell yn y llyfrgell yn gyrchfan boblogaidd i bobl llengar y cylch - yn eu plith rai o ffigyrau amlwg y dydd fel E. Morgan Humphreys, Meuryn, (R.J. Rowlands), a Chynan. Ef oedd un o'r rhai cyntaf i ddarlledu yn Gymraeg o Fanceinion yn y 1930au. Bu farw 22 Awst 1941 ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon, lle gwelir ar ei garreg fedd y geiriau 'Actor da, Cymro da, Cristion da'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.