HUMPHREYS, EDWARD MORGAN (1882 - 1955), newyddiadurwr, llenor a darlledwr

Enw: Edward Morgan Humphreys
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1955
Priod: Annie Humphreys (née Evans)
Rhiant: Elizabeth Humphreys
Rhiant: John Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr, llenor a darlledwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 14 Mai 1882 yn Nyffryn Ardudwy, Meirionnydd, mab hynaf John ac Elizabeth Humphreys. Enwau ei frodyr oedd Humphrey Llewelyn a John Gwilym. Yr oedd ei fam yn nith i Edward Morgan (1817 - 1871), Dyffryn, pregethwr (MC) ac ysgrifennwr gwreiddiol, ac yn gyfnither i R.H. Morgan, Porthaethwy, arloeswr llaw-fer yn Gymraeg. Hen daid iddo oedd Richard Humphreys, pregethwr (MC) ffraeth, dirwestwr ac arloeswr addysg. Addysgwyd E.M. H. yn ysgolion sir y Bermo a Phorthmadog. Rhoes ei fryd ar fod yn gyfreithiwr a chychwynnodd ar yrfa felly ym Mhorthmadog ond oherwydd cyflwr ei iechyd rhoes y gorau iddi a dychwelyd adref i'r Faeldref, Dyffryn Ardudwy, lle'r oedd ei dad yn amaethu. Symudodd y teulu i Lerpwl. Yno y dechreuodd y mab ysgrifennu ac ymddiddori mewn newyddiaduraeth. Ymunodd â'r Barmouth Advertiser yn 1904 fel gohebydd. Wedi cyfnod byr ar staff un o bapurau Runcorn cafodd brofiad o ddilyn cyfarfodydd Evan Roberts y Diwygiwr fel gohebydd y Liverpool Courier. Ymddangosodd ei argraffiadau hefyd yn Y Genedl Gymreig. Daeth yn gyfeillgar â'r efengylydd ond ni ddwysbigwyd ef gan wres y diwygiad. Buasai hefyd yn ohebydd Bangor i'r North Wales Observer o dan olygyddiaeth William Eames. Pan ymunodd Eames â staff isolygyddol y Manchester Guardian yn 1908 gwahoddwyd E.M. H. i'r swyddfa yng Nghaernarfon a daeth yn olygydd Y Genedl Gymreig a'r newyddiadur Saesneg. Dyma'r adeg y daeth yn gyfaill i T. Gwynn Jones a weithiai ar y pryd yn yr un swyddfa. Ysgrifennodd gryn dipyn o farddoniaeth Saesneg (gan gynnwys sonedau) ac ambell gerdd yn Gymraeg. Ym mis Ionawr 1908 etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Fabian Caernarfon. Cafodd gyfnod byr fel golygydd Cymru ac ar ddau achlysur eisteddai yng nghadair olygyddol Y Goleuad. Dychwelodd at Y Genedl yn 1918 gan barhau'r cysylltiad hyd 1930 pan ymddiswyddodd a mynd yn ysgrifennwr annibynnol. Cyfrannodd erthyglau rheolaidd i'r Liverpool Daily Post o dan y ffugenw ' Celt ' o 1919 ac yn 1927 daeth yn ohebydd arbennig y Manchester Guardian gan gyfrannu'n ddi-fwlch adroddiadau am yr Eisteddfod Genedlaethol a materion eraill yn ymwneud â Chymru. Yr oedd yn eisteddfodwr selog ac ni chollodd yr un brifwyl rhwng 1919 ac 1953. Buan yr enillodd ei blwyf fel darlledwr ar bwys ei ddawn ymadrodd a'i lais soniarus. Er gwaethaf iechyd bregus yr oedd yn weithiwr diwyd a threfnus a chyfrannodd nifer o erthyglau i'r Bywgraffiadur Ef a ddarganfu ddawn storïol W.J. Griffith, Henllys Fawr. Rhwng 1939 ac 1949 bu'n swyddog gweinyddol cynorthwyol gyda'r Pwyllgor Amaethyddol yn Sir Gaernarfon. Yn ei oriau hamdden fe barhâi i lenydda a darlithio. Bu'n diwtor Addysg y Gweithwyr. Derbyniodd radd M.A. (Cymru) er anrhydedd yn 1927 a'r O.B.E. yn 1953. Yr oedd yn un o is-lywyddion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, yn aelod o banel Cymru o'r Cyngor Prydeinig ac o'r Royal Cambrian Academy of Art. Nid oedd yn amlwg yng nghylchoedd cyfundebol Eglwys Bresbyteraidd Cymru ond fe roddai bwys mawr ar urddas y pulpud a chas ganddo oedd anhrefnusrwydd. Yn Engedi, Caernarfon, yr oedd yn aelod, a daeth yn ffigur adnabyddus yn y dref oherwydd yr olwg urddasol a oedd arno. Yr oedd yn gwmnïwr diddan ac yn ddarllenwr eang. Priododd Annie Evans, merch E.J. Evans, cynweinidog eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Walton Park, Lerpwl. Ni bu ganddynt blant. Enillodd gyfeillgarwch rhai o flaenorwyr y genedl ac yr oedd gan David Lloyd George feddwl uchel o'i farn. Mwynhaodd R.T. Jenkins 'chwarter canrif o gyfeillgarwch pur' ag ef.

Yr oedd yn un o arloeswyr y nofel ddirgelwch yn y Gymraeg a meddai ar y ddawn i lunio erthyglau bywgraffiadol craff. Cyhoeddodd Dirgelwch yr anialwch (1911), Rhwng rhyfeloedd (d.d.); Yr etifedd coll (d.d.); Y llaw gudd (1924); Cymru a'r wasg (1924); Dirgelwch Gallt y Ffrwd (1938); Detholiad o lythyrau'r hen ffarmwr (1939); D. Lloyd George (1943); Ceulan y Llyn du (1944); Y wasg yng Nghymru (1945); Gwŷr enwog gynt, 1 (1950); Profiadau golygydd (1950); Gwŷr enwog gynt, 2 (1953); a Gorse glen (cyf. o Cwm Eithin Hugh Evans, 1948). Gŵr annibynnol ydoedd a brwydr ddiorffwys ag afiechyd fu ei fywyd. Ysgrifennai'n gyflym a chryno yn Gymraeg a Saesneg. Fel y sylwodd John Eilian amdano, ' cariad cywir cynnes at y wlad hen y gallai ei synhwyrau ei hamgyffred-cyffro Eryri, hedd Meirionnnydd a sŵn y gorllewinfôr ', dyna oedd gwladgarwch iddo. Bu farw 11 Mehefin 1955 yng Nghaernarfon. Un arall o'i gyfeillion a weinyddai yn ei gynhebrwng, sef D. Tecwyn Evans. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y dref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.