Ganwyd yn Aber Cenfi, plwyf Llandybïe, Caerfyddin, 23 Gorffennaf 1841 yn fab i William a Sarah Owen. Hanai'r teulu o Faldwyn a bu'r tad yn wehydd yng Nghil-y-cwm, Llanwrda a Llanymddyfri cyn symud i weithfa wlân Cwmllwchwr yn 1836. Yn ôl Watcyn Wyn (Y Diwygiwr, 1902, t. 262) yr oedd William Owen yn or-ŵyr i John Owen, Machynlleth, awdur y gerdd hir Troedigaeth Atheos. Prentisiwyd Gwilym Meudwy i saer coed yn ardal y Trap ger Llandeilo yn 1856, ond dychwelodd at ei dad i'r ffatri wlân ymhen tair blynedd. Bu farw ei dad yn 1865 a'i fam yn 1877, a chrwydryn fu Gwilym Meudwy fyth wedyn. Treuliai'r haf yn y ffynhonnau yn Llanwrtyd a Llandrindod, gan ddychwelyd i ardaloedd Brynaman, Llanelli ac Abertawe dros fisoedd y gaeaf. Ar y pererindodau blynyddol hyn y gwerthai gynnyrch ei awen, a bu'n cadw argraffwyr Aberdâr, Llandeilo, Ystalyfera, Llanelli a Rhydaman yn brysur am gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Cyhoeddwyd tua deunaw o lyfrynnau o'i waith rhwng 1879 ac 1902, a chynnwys y rhain ddefnyddiau amrywiol fel dadleuon dirwestol, ymddiddanion, baledi a mân draethodau, ond fel marwnadwr y gwnaeth y Meudwy enw iddo'i hun. Canodd gerddi coffa i ddegau lawer o hoelion wyth yr enwadau ymneilltuol ac i wleidyddion, yn ogystal â baledi yn coffáu'r rheini a laddwyd mewn damweiniau glofaol. Cyffredin, a dweud y lleiaf, yw ansawdd y cynhyrchion hyn, ond mae'r bardd yn haeddu'i gofio fel un o'r olaf o'i fath yng Nghymru a enillai ei damaid drwy werthu cynnyrch ei awen. Bu farw yn Rhydaman 21 Mehefin 1902 a chladdwyd ef ym meddrod y teulu ym mynwent eglwys y plwyf, Llandybïe. Brawd iddo oedd Joseph Pugh Owen a fu'n ysgolfeistr yn Torrington Square, Llundain. Brawd arall oedd John Owen a briododd â chwaer i D. Avan Griffiths, gweinidog Troedrhiwdalar (A), a phlant o'r briodas hon oedd William Pugh Owen a fu'n offeiriad ym Melbourne, Awstralia, a Dr. John Griffith Owen a fu'n feddyg yn Kingston-upon-Thames. Mab i chwaer y rhigymwr oedd Edmund Owen Rees o San Francisco a fu'n Gonswl Prydeinig Nicaragua.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.