Ganwyd yn 1757 ym Machynlleth, lle y bu am lawer blwyddyn yn cadw busnes groser a hefyd yn bartner gyda Hugh Williams 'y Chartist' yng ngwaith plwm Dylife. Ymunodd yn fore â'r Methodistiaid Calfinaidd, ond er ei fod yn Fethodist ymroddgar, ni ddygymyddai ag ordeiniad 1811. Wedi marw ei wraig, symudodd i Langyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin, ac yno y bu farw, yn 1829, yn 72 oed. Ymddiddorai mewn diwinyddiaeth a seryddiaeth; ac y mae rhywbeth anarferol yn ei gynhyrchion, pan gofiwn ei yrfa. Cyhoeddodd yn 1788 Troedigaeth Atheos, math o epig, efelychiad o ' Bantycelyn,' gyda nodiadau a fenthyciwyd gan mwyaf o Golwg ar y Byd David Lewis o Langatwg Nedd; aeth hwn i ail argraffiad yn 1818 (a thrydydd yn 1871); gweler y disgrifiad ohono yn Llyfryddiaeth y Cymry, 633. Yn 1797 cyhoeddodd Golygiadau ar Achosion ag Effeithiau'r Cyfnewidiad yn Ffrainc, dogfen bur nodedig o agwedd y Methodistiaid Cymreig at broblemau gwleidyddol - amlinelliad ohono gan J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig, 169-70. I 1818 y perthyn Golygiad ar Adfywiad Crefydd yn yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru o ddeutu y flwyddyn 1737, gwaith a achlysurwyd gan farwolaeth John Evans o'r Bala, ac sy'n cynnwys nodiadau ar bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd. Heblaw'r uchod, cyhoeddodd John Owen Difrifol Ystyriaeth, 1789; Tair Cerdd Newydd, 1795; a Golygiad ar Athrawiaeth y Drindod ac ar Berson Crist, 1820. Ŵ yr iddo oedd D. C. Lloyd-Owen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.