Ganwyd yn Sirhywi, Mynwy, yn 1848. Gadawyd ef yn amddifad ac fe'i magwyd gan berthnasau i'w fam - David Clee a'i wraig yng Nghwm-twrch. Ni chafodd fawr o ysgol a dechreuodd weithio yn un o lofeydd yr ardal pan oedd yn saith oed. Gadawodd Gwm-twrch yn ddeunaw oed, a bu'n gweithio mewn glofeydd yn Aberdâr ac Aberpennar, ond dychwelodd i ardal Ystalyfera yn 1868 pan briododd â Jane, merch Dafydd a Rachel James (bu hi farw 18 Medi 1916). Gwelwyd twf mewn undebaeth lafur yng nghymoedd Morgannwg yn ystod y cyfnod hwn a bu Ebenezer Rees yn flaenllaw gyda'r mudiad ym mlaenau cwm Tawe. Fe'i diswyddwyd ac erlidiwyd ef oherwydd ei ddaliadau, ac ymfudodd i Carbondale, Pennsylvania, yn 1869. Dychwelodd i Gymru yn 1872, bu'n cadw siop lyfrau am gyfnod ac yn 1877 agorodd swyddfa argraffu yn Ystalyfera. Sefydlodd bapur newydd wythnosol, Y Gwladwr Cymreig, yn 1885. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf 22 Ionawr ond daeth i ben ar 24 Medi yr un flwyddyn. Bu D. Onllwyn Brace, Ystalyfera, J. Dyfrig Owen, Glan-twrch a J. T. Morgan ('Thalamus') yn olygyddion iddo yn eu tro. Yr oedd gan Ebenezer Rees ddiddordeb mawr mewn materion cymdeithasol a bu'n flaenllaw gyda'r mudiad llafur yng nghwm Tawe ar droad y ganrif. Yr oedd hefyd yn gyfarwydd ag arweinwyr sosialaidd y dydd megis Keir Hardie R. J. Derfel a John Hodge. Yn ei swyddfa ef y cyhoeddwyd ac yr argraffwyd Cwrs y Byd ' i wyntyllu cymdeithas yn ei wahanol agweddau ' o Ionawr 1891 hyd 1895. Ymhlith cylchgronau eraill a gyhoeddwyd ganddo gellir nodi Yr Oes Newydd (1886), a'r Cenadwr (1894-1897), sef dau o gyhoeddiadau'r Swedenborgiaid yng Nghymru. Bu hefyd yn argraffu'r Celt am gyfnod. Ond odid mai ei gyfraniad pwysicaf oedd sefydlu Llais Llafur (South Wales Voice wedyn), fel papur newydd wythnosol i wasanaethu ardaloedd diwydiannol gorllewin Morgannwg a dwyrain yr hen Sir Gaerfyrddin ar 22 Ionawr 1898. Bu'r newyddiadur hwn yn fodd i hyrwyddo'r mudiad Llafur yn yr ardaloedd hyn, ac ymddangosodd y rhifyn olaf ar 2 Rhagfyr 1971. Cyhoeddodd ac argraffodd Ebenezer Rees ddegau lawer o faledi a llyfrynnau, y mwyafrif ohonynt o waith mân feirdd a llenorion cymoedd Tawe ac Aman. Bu farw yn ei gartref yn Ystalyfera 30 Medi 1908 a chladdwyd ef ym mynwent Beulah, Cwm-twrch.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.