WILLIAMS, DANIEL POWELL ('Pastor Dan'; 1882-1947), sefydlydd a llywydd cyntaf yr Eglwys Apostolaidd, yr unig Gymro i sefydlu eglwys fyd-eang

Enw: Daniel Powell Williams
Ffugenw: Pastor Dan
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1947
Priod: Mabel Williams (née Thomas)
Priod: Elizabeth Williams (née Harries)
Rhiant: Esther Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sefydlydd a llywydd cyntaf yr Eglwys Apostolaidd, yr unig Gymro i sefydlu eglwys fyd-eang
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 5 Mai 1882 yn Garn-foel, tyddyn ger Pen-y-groes yn nyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin, yn un o ddeuddeg plentyn William ac Esther Williams. Gan i'r tad golli ei olwg pan nad oedd Daniel ond 10 oed bu raid iddo adael yr ysgol ychydig fisoedd wedyn er mwyn chwyddo peth ar incwm y teulu, ond bychan oedd cyflog wythnos crwtyn o ddryswr o dan ddaear. O feddwl am y gwaith enfawr a gyflawnodd yn ei oes yr oedd ei baratoad addysgol yn rhyfeddol brin, ac yn ôl yr hanes, bratiog fu ei bresenoldeb yn ysgol elfennol y pentre. Pwysicach na'r ysgol yn ei fagwriaeth oedd y cartref ac eglwys (A) Pen-y-groes o dan weinidogaeth gyfoethog William Bowen a sefydlwyd ar 4 Chwefror 1880 yn fugail ar yr eglwys honno a'r chwaer eglwys ym Milo. Yng ngaeaf 1904-05 llifodd dylanwad 'Diwygiad' Evan Roberts yn gryf o Gasllwchwr i ddyffryn Aman gan adael mwy o'i ôl yno nag ar nemor i ardal arall yng Nghymru. Daeth teulu Garn-foel yn drwm dan ddylanwad y diwygiad. Dechreuodd Daniel a diacon o eglwys y Bedyddwyr gynnal cyfarfodydd diwygiad yng nghapel Calfaria, ac ar ddydd Nadolig 1904 aeth Daniel, William ei frawd, a rhai cyfeillion i Gasllwchwr, ac yno profodd Daniel dröedigaeth a chael arddodiad dwylo'r diwygiwr ei hun. Bu'r brodyr a'u cyfeillion yn cynnal cyfarfodydd mewn tai ac yn y neuaddau a godwyd yn sgîl y diwygiad yn yr ardaloedd cylchynol, gyda chefnogaeth barod William Bowen. Yn 1906, wrth ei waith yn y pwll glo, clywodd Daniel alwad i fod yn bregethwr, ac i brofi dilysrwydd yr alwad gosododd gyfnod o bythefnos i ddisgwyl gwahoddiad gan ei weinidog, a daeth honno cyn pen y cyfnod. Pregethodd ei bregeth gyntaf ar Chwefror 1 ac aeth drwy eglwysi'r cylch yn ôl y drefn a chael ei godi'n bregethwr rheolaidd gyda'r Annibynwyr.

Er i ddwy eglwys ei wahodd i'w bugeilio gwrthod a wnaeth, o ddiffyg hyder ar y pryd, ond parhaodd i'w gymhwyso'i hun at y gwaith. Ni theimlodd lawer o rym yr ail don a dorrodd dros yr ardal yn 1907-08, ond ym mis Awst 1909 ac yntau, yn ôl arfer yr ardal y pryd hwnnw, yn treulio gwyliau yn Aberaeron, yng ngwydd cwmni o gyfeillion a dderbyniasai 'fedydd yr Ysbryd', lloriwyd yntau ar fryncyn uwchlaw'r môr a dechreuodd 'lefaru â thafodau'. Bu'n petruso tipyn cyn gadael ei enwad ond ymddiswyddo a wnaeth yn 1910 pan oedd rhwyg yn datblygu yn eglwys Pen-y-groes rhwng yr aelodau mwy traddodiadol a'r rhai a ddaethai o dan ddylanwad y diwygiad. Ymneilltuo a wnaeth y rheini gyda'r gweinidog i ffurfio'r ddiadell y codwyd capel Mynydd Seion iddi yn 1913, ond nid gyda hwy y bwriodd Daniel ei goelbren. Yn hytrach, ymunodd â charfan fwy eithafol a gododd 'yr Hall gerrig' yn 1910 ym Mhen-y-groes fel neuadd anenwadol ar gyfer dychweledigion y diwygiad, lle y gallent wahodd arweinwyr o'u dewis eu hunain. Mynychai'r rhain gynadleddau pentecostaidd, ac yn un o'r rhain yn Belle Vue, Abertawe, y dechreuodd Daniel bregethu yn Saesneg, er mor ansicr oedd ei afael ar yr iaith y pryd hwnnw. O'r cynadleddau hyn daeth adroddiadau am 'Fedydd yr Ysbryd Glân' a'i arwyddion, megis llefaru â thafodau a iacháu trwy ffydd, a'r syniad o amherffeithrwydd eglwys heb apostol na phroffwyd yn ei gweinidogaeth. Ym mis Chwefror 1911 datguddiwyd i Daniel Powell trwy broffwydoliaeth y gelwid proffwyd i gydweithio ag ef, a'r un noson argyhoeddwyd ei frawd, William Jones, a hwnnw maes o law fu'r proffwyd addawedig. Cododd ymryson ym mhlith aelodau'r neuadd, ac er mwyn heddwch penderfynwyd fod y rhai a goleddai'r weledigaeth o 'eglwys apostolaidd' yn ymwahanu oddi wrth y gweddill. Yn ôl Precious jewels Rees Evans caewyd drws y neuadd yn eu herbyn fore 5 Mawrth, ac wedi ymgynnull mewn gwahanol adeiladau codasant iddynt eu hunain adeilad sinc a'i alw yn Babell neu Babell y Cyfarfod. Y ddau frawd oedd yr arweinwyr. Ymgysylltwyd â'r Apostolic Faith Church yn Winton, Bournemouth, lle y buasai Daniel yn pregethu pan oedd ar wyliau wedi torri i lawr o dan bwysau gwaith. Yn ôl Rees Evans daeth William O. Hutchinson a thri arall o Bournemouth, yn cynnwys Mrs. Kenny, gwraig â dawn dehongli proffwydoliaeth ganddi, i Ben-y-groes i arddodi dwylo ar y ddau frawd, un i fod yn Apostol a'r llall yn broffwyd, er y dywed T.N. Turnbull mai mewn confensiwn yn Llundain y galwyd Daniel Powell i'r apostolaeth a hynny yn 1913. Daeth galwadau lawer arno oddi wrth gynulleidfaoedd yn y de, a bu raid sefydlu swyddfa fechan yn Llwynhendy ac yna ym Mhen-y-groes. Ymwahanwyd oddi wrth yr eglwys yn Bournemouth yn 1915 oherwydd gwahaniaeth barn ar ffurflywodraeth eglwysig. Yn 1916 cyhoeddwyd rhifyn cyntaf cylchgrawn yr Eglwys Apostolaidd o dan olygiaeth Daniel Powell. Teitl y rhifynnau cyntaf oedd Cyfoeth y Gras: The Riches of Grace, ond ar ôl dau rifyn newidiwyd i Cyfoeth Gras … Am flynyddoedd bu'n gylchgrawn dwyieithog, ac ysgrifennodd y golygydd lawer mewn rhyddiaith a barddoniaeth yn y ddwy iaith ar gyfer y cylchgrawn, gan gyfieithu proffwydoliaethau ei frawd. Newidiwyd trefn yr ieithoedd yn y teitl yn 1932 a thoc gollyngwyd yr is-deitl Cymraeg, ond yr oedd yr erthyglau Cymraeg wedi mynd yn brin cyn hynny.

Yn 1916 hefyd y ffurfiwyd cyfansoddiad swyddogol cyfreithiol yr Eglwys Apostolaidd. Tynnwyd llawer o'r cynulleidfaoedd pentecostaidd Cymreig i mewn a syrthiodd gwaith enfawr ar ysgwyddau Daniel. Ymwelodd y ddau frawd â Glasgow yn 1918 ac 1919, gyda'r canlyniad i'r Burning Bush Assembly yno ddod i mewn i'r Eglwys Apostolaidd. Y flwyddyn ganlynol ymunodd cynulleidfa a sefydlwyd yn Henffordd gan Frank Hodges, ac ymledodd y mudiad oddi yno i ganoldir a de-orllewin Lloegr. Yn 1922 daeth The Apostolic Churches of God a ganolai ar Bradford i mewn, a sefydlwyd aden genhadol yno, a thrwy weithgarwch honno lledodd y mudiad dros y pum cyfandir.

Yn 1937 unwyd y gwahanol rannau, gyda'r pencadlys ym Mhen-y-groes, y ganolfan genhadol yn Bradford, a'r ganolfan gyllidol yn Glasgow, a Daniel Powell Williams yn llywydd yr Eglwys ac yn gadeirydd Cyngor yr Apostolion a'r Proffwydi a'r Pwyllgor Gwaith, a'i gartref ym Mhen-y-groes. Cytunwyd ar gyfansoddiad i'r Eglwys unedig a llofnodwyd ef gan y llywydd cyn ei gyflwyno i'r Uchel Lys yn Llundain. O 1917 ymlaen cynhaliwyd confensiwn blynyddol sy'n parhau i gyfarfod bob mis Awst ym Mhen-y-groes, ac yn 1933 agorwyd y Deml Apostolaidd yno i ddal pymtheng mil. Bu gan Daniel Powell Williams ran fawr hefyd yn sefydlu Ysgol Feiblaidd yr Eglwys Apostolaidd ym Mhen-y-groes yn 1934. O 1922 i 1945 teithiodd yn helaeth, nifer o weithiau yng ngogledd America, Denmark, Norwy, Estonia, Ffrainc, Yr Eidal, Nigeria, Awstralia, Seland Newydd ac India.

Priododd (1) ag Elizabeth Harries o Landeilo, a bu iddynt saith o blant; bu hi farw 23 Mai 1918; (2) â Mabel Thomas o Borth-cawl. Bu yntau farw 13 Chwefror 1947.

Cyhoeddodd lyfrau: The prophetical ministry (1931); The work of an evangelist; a The sanctuary of the Christian life, a chyfansoddodd nifer o emynau yn Gymraeg a Saesneg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.