ELLIS, EDWARD LEWIS (1922-2008), hanesydd a chofiannydd

Enw: Edward Lewis Ellis
Dyddiad geni: 1922
Dyddiad marw: 2008
Priod: Pamela Maureen Ellis (née Evans)
Priod: Eirlys Ellis (née Thomas)
Plentyn: Linden Ellis
Plentyn: Susan Ellis
Rhiant: Elizabeth Ellis (née Lloyd)
Rhiant: Griffith Thomas Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a chofiannydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Graham Jones

Ganed Ellis yn Aberystwyth ar 21 Mawrth 1922, yn un o dri phlentyn ac unig fab Griffith Thomas Ellis a'i wraig Elizabeth (gynt Lloyd), Stryd Cambrian, ac yn nai i 'r Henadur R. J. Ellis (1888-1976), gwleidydd lleol adnabyddus. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Heol Alexandra ac Ysgol Ramadeg Ardwyn lle ddaeth yn brif ddisgybl ym 1940-41. Daeth yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ym mis Hydref 1941, yn bennaf i astudio hanes, ond galwyd arno i wasanaethu yn y llynges frenhinol o 1942 tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Yno gwasanaethodd yn swyddog gynau a chyrhaeddodd safle lefftenant. Ym 1945 dychwelodd i Aberystwyth i barhau â 'i astudiaethau fel myfyriwr israddedig, gan raddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf eithriadol ddisglair mewn hanes ym 1947. Yn yr un flwyddyn ymbriododd Ellis ag Eirlys Thomas, hithau hefyd yn hanu o Aberystwyth. Gwnaeth Ellis ei farc hefyd fel chwaraewr pêl-droed o allu anghyffredin. Dewiswyd ef i chwarae gyda thîm cyntaf Tref Aberystwyth pan oedd yn fachgen ysgol un-ar-bymtheg oed, ac yn ddiweddarach chwaraeodd yn gyson i dîm y dref. Ef oedd y sgoriwr golau mwyaf llwyddiannus yn ystod y pedwar tymor o 1947 tan 1951. Gwahoddwyd ef i droi yn chwaraewr proffesiynol i glwb pêl-droed Arsenal ym 1948.

Ym 1947 dyfarnwyd i Ellis ysgoloriaeth y Brifysgol i ymgymryd â gwaith ymchwil uwchraddedig dan oruchwyliaeth S. H. F. (Fergus) Johnston ar Blaid y Chwigiaid yn ystod teyrnasiad y Frenhines Anne, a dyfarnwyd iddo radd MA Prifysgol Cymru ym 1950. Ym 1949 penodwyd ef yn diwtor mewn hanes yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen, lle y bu am dair blynedd ar ddeg, gan sicrhau dyrchafiad yn uwch-diwtor. Ganed eu dwy ferch Susan a Linden yn Rhydychen. Yn ogystal gwnaeth Ellis waith ymchwil rhan-amser ar gyfer doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen (dan oruchwyliaeth David Ogg) ar gyfer traethawd ar 'The Whig Junto in relation to the Development of Party Politics and Party Organisation from its Inception to 1714', tasg a orffennodd ym 1961.

Ym 1962 penderfynodd Ted Ellis (dyna fel yr adwaenid ef fel arfer mewn cylchoedd academaidd) ddychwelyd i Aberystwyth, yn wreiddiol fel warden llawn-amser Neuadd Pantycelyn, sefydliad nodedig yn y coleg a adeiladwyd mewn tair rhan ym 1951, 1955 a 1959. Yn ogystal, daeth hefyd yn ddarlithydd rhan-amser yn Adran Hanes y coleg, gan arbenigo mewn hanes diweddar Prydain. Ym 1968 cytunodd Ellis i ddarlithio 'n llawn-amser yn yr Adran Hanes, ac ym 1969 dyrchafwyd ef i safle uwch-ddarlithydd. Erbyn hynny roedd hefyd wedi derbyn gwahoddiad gan awdurdodau 'r coleg i lunio hanes y sefydliad ar gyfer ei ganmlwyddiant ym 1972. Sicrhaodd hanes y coleg ganmoliaeth uchel, ac ystyrid y gyfrol yn batrwm ar gyfer llunio hanes sefydliadol. Parhaodd Dr Ellis i wasanaethu fel warden Pantycelyn tan Medi 1974, gan wrthwynebu 'r penderfyniad i sefydlu neuadd gymysg Gymraeg yn yr adeilad.

Ym 1975 dechreuodd Ellis ymchwilio ar gyfer cofiant i 'r Arglwydd Davies, Llandinam (1880-1944), ond yn fuan iawn profodd siom ynghylch natur dila 'r papurau oedd ar gael. Yna, ym mis Ionawr 1978, derbyniodd gais anffurfiol gan y Fonesig White o Rymni a 'i brawd Tristan Jones i lunio cofiant llawn i 'w tad Dr Thomas Jones CH (1870-1955), dirprwy ysgrifennydd y Cabined rhwng 1916 a 1930. Ar ôl oedi a thrafod ychydig, penderfynodd dderbyn y cynnig cyffrous. Yna ym 1986 cytunodd (dan brotest) i lunio a golygu llyfryn ar hanes Neuadd Alexandra, neuadd breswyl nodedig y coleg i ferched ar waelod y prom byth ers 1896, adeilad yr oedd awdurdodau 'r coleg wedi penderfynu ei gau. Ym mis Medi 1988 penderfynodd Dr Ellis dderbyn ymddeoliad cynnar o 'r coleg, ond parhaodd i ddysgu 'n rhan-amser am un sesiwn ychwanegol. O 'r diwedd roedd y cofiant i Thomas Jones yn orffenedig erbyn haf 1990, ond roedd dwy flynedd bellach i fynd heibio cyn ei gyhoeddi. Lansiwyd y gyfrol mewn derbyniad mawreddog yn Nhy'r Cyffredin ar 2 Mehefin 1992. Rhoddwyd croeso arbennig i 'r cofiant enfawr 553 tudalen. Ym 2001 cyhoeddodd Ellis lyfryn darluniadol ar hanes Neuadd Pantycelyn.

Gwnaeth Ted Ellis gyfraniad arbennig fel darlithydd prifysgol ymrwymedig ac ysbrydoledig. Roedd pob un o 'i gyrsiau 'n boblogaidd ac yn apelio at nifer fawr o fyfyrwyr israddedig. Denwyd hwy gan eglurder di-ffael ei ddarlithiau, a 'i arddull apelgar fel athro. Yn ei flynyddoedd olaf, dioddefodd gan afiechyd yr ysgyfaint arbennig o greulon a chynyddol, a daeth i ddibynnu mwy a mwy ar ofal a chefnogaeth ei ail wraig Pamela Maureen (Evans) a briododd 30 Hydref 1998 ar ôl marw ei wraig gyntaf. Yn dilyn salwch hir, bu farw Dr E. L. Ellis yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ar 2 Mawrth 2008. Bu 'r angladd yn eglwys Llanabadarn 7 Mawrth ac amlosgwyd ei weddillion yn Aberystwyth; claddwyd ei lwch ym mynwent Cefnllan, Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-08-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.