ROBERTS, WILLIAM HENRY (1907-1982), actor, darlledwr

Enw: William Henry Roberts
Dyddiad geni: 1907
Dyddiad marw: 1982
Priod: Margaret Elisabeth Roberts (née Evans)
Rhiant: Marged Roberts (née Jones)
Rhiant: Henry Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actor, darlledwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Perfformio
Awdur: Owen D. Roberts

Ganwyd 21 Chwefror 1907 yn Brynteg, Llanfaethlu, Ynys Môn, yn fab i Henry Roberts a'i wraig Marged (Jones). Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Ffrwdwin, Llanfaethlu, ond symudodd y teulu i Blas Llandrygarn ac yna i Llwyn Ednyfed, Llangefni, ac aeth 'W.H.', fel y daethpwyd i'w adnabod, i ysgol sir Llangefni yn 1921 ac yna i Goleg Normal Bangor, 1926-28. Apwyntiwyd ef yn athro ysgol Niwbwrch yn 1931 lle y treuliodd weddill ei oes, yn athro ac yna'n brifathro'r ysgol.

Dechreuwyd darlledu yn Gymraeg o Bryn Meirion Bangor yn 1935 a chymerodd W.H. Roberts ran mewn llawer iawn o raglenni nodwedd a gynhyrchwyd gan Sam Jones, Ifan O. Williams, Dafydd Gruffydd a John Gwilym Jones. Yn 1937 enillodd yr her adroddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a chymerodd ran mewn dramâu a ddarlledwyd o Gaerdydd, weithiau dan gyfarwyddyd T. Rowland Hughes a chan gynnwys rhai o ddramâu Saunders Lewis, 'Amlyn ac Amig' (gyda Hugh Griffith), 'Buchedd Garmon'. Gwasanaethodd yn y fyddin yn yr Ail Ryfel Byd ac anfonwyd ef i'r India yn 1942, i Calcutta a Mysore. Ailafaelodd yn ei yrfa yn Niwbwrch wedi dychwelyd a threuliodd lawer o'i amser yn feirnaid adrodd. Fe'i hanrhydeddwyd â gwisg wen Gorsedd y Beirdd yn eisteddfod Caernarfon yn 1959. Cyhoeddodd ei atgofion (gyda ffotograff), Aroglau Gwair, yn 1981; cyhoeddwyd ei ddarlith, 'Iaith lafar Mon', gyda chaset, yn 1984.

Priododd Margaret Elisabeth Evans o Niwbwrch, fis Awst 1937, a bu iddynt ddau o feibion. Bu farw yn ei gartref yn Nwyran, Môn 6 Ebrill 1982 a chladdwyd ef ym mynwent capel Ebeneser (MC), Niwbwrch, 17 Ebrill 1982.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.