Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd Stephen J. Williams yn nhyddyn Blaen-y-gors, rhwng Ystradgynlais a'r Creunant, 11 Chwefror 1896, yr wythfed o naw plentyn Rhys ac Ann Williams (gynt Gibbs), y tad o deulu o amaethwyr yn Llanddeusant, sir Gaerfyrddin, a'r fam o'r Alltwen, Cwm Tawe. Ac yntau'n flwydd oed, symudodd teulu Stephen J. Williams i Ystradgynlais lle yr agorodd y tad a'i frawd waith glo. Wedi derbyn ei addysg yn yr ysgol gynradd leol aeth i ysgol uwchradd Ystradgynlais (ysgol Maesydderwen heddiw) yn 1908. Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i goleg prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd yn 1914 ond torrwyd ar ei gwrs gan Ryfel Byd I ac ymunodd â'r fyddin ymhen blwyddyn. Treuliodd y pedair blynedd nesaf gyda'r fyddin, yn bennaf gyda chatrawd yr 11th Gurkha Rifles yng ngogledd yr India. Dychwelodd i Gymru yn 1919 ac ailafael yn ei yrfa goleg gan raddio gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1921. Bu'n athro ysgol yn Aberaeron a Llandeilo nes cael ei benodi'n ddarlithydd yn y Gymraeg yng ngholeg prifysgol Abertawe yn 1927, yr un flwyddyn ag yr enillodd radd M.A. Penodwyd ef yn Athro a phennaeth adran yn 1954, swydd a ddaliodd nes ymddeol yn 1961. Gŵr â llawer o egni meddyliol a chorfforol oedd 'Stephen J.', fel yr adweinid ef yn gyffredinol, er gwaethaf ei gorff bychan, ac yr oedd ei bersonoliaeth gynnes yn ei alluogi i gydweithio'n gyfeillgar â phawb. Er hynny, cyfaddefai fod y cyfnod wedi helynt ysgol fomio Penyberth yn 1936 wedi bod yn un anodd iddo ef yn bersonol yng ngholeg Abertawe.
Yr oedd diddordebau ysgolheigaidd Stephen J. Williams yn eang ond gwnaeth ei gyfraniadau pwysicaf yn un o arloeswyr astudiaethau modern o gyfraith Hywel (cyhoeddodd gyda J. Enoch Powell un o destunau sylfaenol y gyfraith, Llyfr Blegywryd, yn 1942, 1961) ac fel golygydd nifer o destunau Cymraeg Canol, sef Ffordd y Brawd Odrig, 1929, a'r cyfieithiadau o epigau Siarlymaen (Ystoria de Carolo Magno, 1930, argraffiad diwygiedig 1961, 'Pererindod Siarlymaen', 1930), gwaith a esgorodd ar astudiaeth bwysig o grefft cyfieithu i'r Gymraeg yn y canol oesoedd ('Cyfieithwyr cynnar', Y Llenor, 1929). Cyfrannai golofn Gymraeg yn y Western Mail o 1932 hyd 1949. Enillodd radd D.Litt. yn 1948. Ailgyhoeddwyd rhai o'i brif erthyglau yn Beirdd ac Eisteddfodwyr, 1981. Ymwnâi lawer hefyd ag addysg ysgolion gan gyfrannu erthyglau ar feirniadaeth lenyddol yn Yr Athro (y bu'n olygydd arno), ac yn fwy arbennig fel gramadegydd. Lluniodd ramadegau Cymraeg (Elfennau gramadeg Cymraeg, 1959, 1980, A Welsh Grammar, 1980), a llawlyfr dysgu Cymraeg (Beginner's Welsh, 1934, 1936, 1959), ynghyd â chynnal gwersi iaith ar y radio. Fel aelod o banel safoni'r iaith yr oedd yn flaenllaw yn yr ymgais i addasu ac ystwytho'r Gymraeg (yr oedd ganddo drafodaeth olau ar 'Y Gymraeg a'r dyfodol' yn Trafodion y Cymmrodorion, 1943) er bod cryn gamddeall wedi bod ar amcanion 'Cymraeg Byw'; gweler ei ysgrif yn Y Faner, 1981. Gweithredodd ar banel Cyfieithu Termau Prifysgol Cymru ac yr oedd yn Olygydd Ymgyghorol Y Geiriadur Mawr (H. Meurig Evans a W.O. Thomas, 1958). Yr oedd yn gefnogol i bob gweithgarwch Cymraeg yn Abertawe, yn arbennig Tŷ'r Cymry a'r Gymdeithas Ddrama yr ysgrifennnodd ei ddrama 'Y Dyn Hysbys' (1935) ar ei chyfer. Yr oedd yn eisteddfodwr amlwg. Bu'n aelod o'r Orsedd ac yn gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol y bu'n aelod ohono am nifer o flynyddoedd, yn ogystal â gweithredu'n feirniad droeon; ef a luniodd y trosiadau Cymraeg o lawer o'r unawdau a gweithiau corawl a berfformiwyd. Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Eisteddfod yn 1975. Gyda'i wraig bu'n weithgar yng nghymdeithas Alawon Gwerin Cymru a phenodwyd hwy'n Is-lywyddion Anrhydeddus gyda'i gilydd yn 1985. Annibynnwr ydoedd yn ei ymlyniad crefyddol, yn ddiacon ac ysgrifennydd yr eglwys yng nghapel Stryd Henrietta, Abertawe, a bu'n Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1969.
Priododd Ceinwen Rhys Rowlands, datgeiniad a chantores caneuon gwerin, o Landeilo yn 1925 a bu iddynt ddau fab (Urien Wiliam, Aled Rhys Wiliam) a merch (Annest). Bu farw Stephen J. Williams yn Abertawe yn 96 oed 2 Awst 1992; amlosgwyd ei weddillon yn amlosgfa Treforus 8 Awst 1992.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.