Ganwyd Alwyn Charles yn Colombia Row, Llanelli, 18 Rhagfyr 1924, yn fab David John Charles a'i briod. Derbyniodd ei addysg gynnar yn St. Paul a Lakefield, Llanelli, cyn mynd i Goleg Ysgrifenyddol Woodend. Oddi yno, aeth i wasanaethu fel clerc yn swyddfa cyfreithwyr Jennings a Williams. Codwyd ef i bregethu yng Nghapel Als, Llanelli, o dan weinidogaeth y Parchg. D. J. Davies. Wedi dilyn cwrs paratoi yng Ngholeg Myrddin, cafodd ei dderbyn, fis Hydref 1943, i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Ym 1948, enillodd radd B.A. gydag anrhydedd mewn Athroniaeth o Goleg y Brifysgol, Caerdydd, a'r B.D. ym 1951 o Goleg Caerfyrddin, gydag anrhydedd mewn Athroniaeth Crefydd.
Derbyniodd alwad i fod yn weinidog eglwys Ebeneser, Tylorstown, lle cafodd ei ordeinio ar 18 a 19 Gorffennaf 1951, a lle'r arhosodd hyd 1959. Bu'n gweinidogaethu wedyn yn yr Allt-wen (1959-63), ac yn Harrow (1965–66). Bu'n athro ysgol yn Windsor o 1963 hyd 1965.
Ar 18 Ionawr 1955, priododd â Miss. Pegi Rees, merch y diweddar Barchg. Harding Rees a'i briod. Cawsant un mab, Dafydd.
Cafodd Alwyn Charles ei benodi, yn dilyn marwolaeth ddisyfyd y Prifathro Gwilym Bowyer, i gadair Athrawiaeth Gristionogol yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor, Bangor, fis Hydref 1966, swydd y bu ynddi hyd ei farw. Ymhlith ei gyhoeddiadau gellir nodi ei anerchiad yn Undeb Aberteifi, 'Dylanwad y Brifysgiol ar ddiwinyddiaeth Cymru' (1974) ac erthygl yn Efrydiau Athronyddol.
Yr oedd yn bregethwr nerthol, yn llawn argyhoeddiad, ac yr oedd cryn alw am ei wasanaeth. Yn ystod saith mlynedd olaf ei fywyd, fodd bynnag, bu rheidrwydd arno, ar gyfrif anhwylder y galon, i gyfyngu maint ei deithio, a threfnwyd iddo, yn ystod y cyfnod hwnnw, i wasanaethu'n gyson ym mhulpud eglwys Bethesda, Bethesda. Tystiai'r Prifathro R. Tudur Jones amdano fod gan Alwyn Charles 'feddwl clir a disglair a chan fod goleuni'r Beibl megis llusern i'w draed, tyfodd yn athrawiaethwr grymus ei gyfraniad.' Ychwanegodd y Prifathro mai'r maes yr arbenigodd ynddo oedd diwinyddiaeth John Calfin ac mai 'rhan o dristwch ei farw cynnar oedd iddo farw cyn llawn gwblhau'r gwaith pwysig a oedd ganddo mewn llaw ar y maes hwnnw.'
Yr oedd Alwyn Charles yn ŵr egnol iawn, yn bregethwr huawdl, yn ysgolhaig godidog, yn ŵr diddan a'i chwerthin iach yn llonni pob cwmni, ac yn ŵr yr oedd gan ei fyfyrwyr, a'r rhai y bu'n weinidog iddynt, feddwl uchel ohono.
Ar 31 Mawrth, 1977, cafodd drawiad ar y galon a'i gymryd i Ysbyty Môn ac Arfon ym Mangor. Yno y bu farw ar Ebrill 1. Cynhaliwyd ei angladd ddydd Mawrth, 5 Ebrill, gydag oedfa gyhoeddus yng Nghapel Pen-dref, Bangor, a gwasanaeth preifat yn amlosgfa'r ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-07
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.