Ganwyd Alun Page ym Maesteg, Cwm Llynfi, Morgannwg, lle treuliodd ei blentyndod. Yn wyneb dirwasgiad a diweithdra'r 1920au, symudodd y teulu am gyfnod i Bexley Heath, ar gyrion Llundain, a mynegai ei ddyled fawr i'r dylanwad a gafodd capel ei enwad yn Woolwich arno. Wedi i'r teulu ddychwelyd i Faesteg, dechreuodd bregethu yno yn Noddfa, Cwm-felin. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Myrddin, ac ym 1937 aeth i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin, a'r un flwyddyn, i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd yn B.A. mewn Hebraeg ac Athroniaeth ym 1940. Mawr oedd ei ddyled i ddylanwad ei athrawon.
Ym 1945 ordeinwyd ef yn weinidog Eglwys Gynulleidfaol Saesneg Doc Penfro, lle y bu am bedair blynedd. Yr oedd yn un o'r cwmni bach a sefydlodd y cylchgrawn Dock Leaves yn y 1940au, y cylchgrawn a ddaeth wedyn yn Anglo-Welsh Review. Symudodd i'r Tabernacl, Sgiwen, ym 1949, lle y bu am ddeuddeng mlynedd, cyn symud ym 1961 i Milo a Mynydd Seion, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin. Ei faes olaf oedd y Priordy, Caerfyrddin (1975 -1990). Ychwanegodd at ei ofalaeth ym 1981 eglwys Annibynnol Cana ac eglwys Bresbyteraidd Banc-y-felin.
Darllenai'n eang a myfyrio'n ddwfn yn llenyddiaeth Lloegr a Chymru. Hoffai T. S. Eliot, Waldo a Gwenallt a mynych y dyfynnai o'u gwaith. Soniai am fawredd R. T. Jenkins fel llenor, gan ganmol D. J. Williams a'i 'filltir sgwâr.' Cafodd Karl Barth gryn ddylanwad arno. Nid dieithr iddo oedd syniadau Freud a Marx. A diolchai i'w athrawon, T. H. Robinson am wneud proffwydi Israel mor fyw a chyfoes iddo – roedd ganddo gyfaredd arbennig at y proffwyd Amos - a C. H. Dodd am ei oleuo yn y Testament Newydd. Bu ganddo golofn fywiog am flynyddoedd yn Y Faner a bu'n golofnydd hefyd yn Y Tyst. Cyfrannodd nifer o erthyglau i Cristion yn ogystal â chyhoeddi cyfrolau o ysgrifau ('sylwadaeth') ar bynciau amrywiol, llawer ohonynt yn gyfoes, Y byd o'r betws (1971), Lle Bo'r Gwreiddyn (1972), Arwyddion ac amserau (1979) a chasgliad o gerddi, Cerddi byd a betws (1983). Ef oedd Llywydd Undeb yr Annibynwyr 1978-79. Traddododd ei anerchiad o Gadair yr Undeb yn Llandysul ar y testun, Yr Oes Olau Hon (cyhoeddwyd 1978), a bu cryn ddadlau am rai o'r pethau a ddywedodd.
Bu Alun Page farw yn Ysbyty Glanwili, Caerfyrddin, ar 13 Gorffennaf 1990, ac wedi gwasanaeth cyhoeddus yn Y Priordy, rhoed ei weddillion i orffwys ym mynwent Llanybri ar y 18fed o'r mis.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-13
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.