POWELL, WILLIAM EIFION (1934-2009), gweinidog (A.) a phrifathro coleg

Enw: William Eifion Powell
Dyddiad geni: 1934
Dyddiad marw: 2009
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A.) a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Ioan Wyn Gruffydd

Ganwyd Eifion Powell 7 Tachwedd 1934, yn 34 Church Street, ym mhentref glofaol Cwmgors, Morgannwg. Bu Evan John (Jack), ei dad, gŵr tawel a diymhongar a glowr wrth ei waith, yn ysgrifennydd ariannol y Tabernacl, Eglwys yr Annibynwyr, Cwmgors. Ganed iddo ef ac Eleanor, ei briod, a oedd yn wraig hwyliog a ffraeth, ddau o feibion, Eifion a Huw. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i fyw ryw filltir i ffwrdd i bentref cyfagos Gwauncaegurwen, gan ymsefydu yn 6 Colbren Square. Bu ei fam farw ym 1957 a hithau heb fod ond yn 48 oed.

Yn y Tabernacl, Cwmgors, y magwyd Eifion ac y codwyd ef i bregethu yn ystod gweinidogaeth y Parchgn T.M. Roderick, Emrys Jones ac Irfon Samuel. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe, lle bu dylanwad Eic Davies, un o'r athrawon, yn drwm arno. Aeth i Goleg y Brifysgol, Abertawe, lle graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn y Gymraeg ym 1955 a lle bu Hugh Bevan, darlithydd yn yr adran, yn dra dylanwadol arno. Ar derfyn tair blynedd yn Abertawe, aeth i Fangor i Goleg Bala-Bangor. Ar ei flwyddyn olaf yno, a'm blwyddyn gyntaf innau, ef oedd llywydd y myfyrwyr. Fel y gweddill ohonom, daeth yn drwm o dan ddylanwad y Prifathro Gwilym Bowyer a'r Athro R. Tudur Jones. Ym Mangor yr enillodd ei B.D. ym 1958.

Priododd â Rebecca Edwards o Feirion ym 1958, a ganed iddynt ddau o blant, Elin a Pheredur. Fis Medi yr un flwyddyn, ordeiniwyd ef yn weinidog eglwys Rhodfa Deganwy, Llandudno, a Salem, Bae Colwyn. Nid anghofiaf y cyfarfod ordeinio hwnnw ac yn arbennig groeso'r diweddar Barchg W. Berllanydd Owen iddo ef a'i briod ifanc, ac esgyll ei englyn:

I Lys Teg ar frys tyred,
A Beca yn dy boced.

Symudodd Eifion Powell o Ogledd Cymru i Drefach, Llanelli, ym 1963, ac yna i Gyfundeb Llundain yn weinidog yr Eglwys Annibynnol Gymraeg yn Harrow ym 1967. Aeth i'r Tabernacl, Y Barri ym 1972, ac oddi yno yn olynydd i'r Parchg. T. Glyn Thomas i Ebeneser, Wrecsam ym 1974. Symudodd cynulleidfa Ebeneser i gapel a lleoliad newydd ymhen blwyddyn wedi i Eifion gyrraedd yno. Symudodd drachefn yn weinidog Eglwys Minny Street, Caerdydd ym 1984. Yn ystod ei gyfnod yn Wrecsam a Chaerdydd, bu'n darlithio ar Grefyddau'r Byd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.

Ar ei bumed flwyddyn yng Nghaerdydd, penodwyd ef yn athro yng Ngholeg yr Annibynwyr Cymraeg yn Aberystwyth a hefyd i swydd gwbl newydd yn hanes Undeb yr Annibynwyr, sef yn Gyfarwyddwr Addysg Leyg. Golygai hynny deithio i bob rhan o Gymru ac i'r ddau Gyfundeb dros Glawdd Offa. Bu'r seiliau a osododd yn y gwaith hwnnw yn arloesol. Penodwyd ef yn Brifathro'r Coleg ym 1992. Yr oedd parch ac edmygedd ei fyfyrwyr ohono'n fawr, a thystiai pawb a'i hadnabu, yng ngeiriau Euros Wyn Jones a fu'n cydweithio ag ef, i 'rym ei bersonoliaeth, doethineb ei gyngor a dyfalwch ei ofal bugeiliol' dros ei fyfyrwyr. Yn hanesydd ac yn ddiwinydd medrus, cyfrannodd erthyglau, adolygiadau a phortreadau o ddiwinyddion Cymreig cyfoes yn helaeth i amryw gylchgronau: Y Dysgedydd, Porfeydd, Diwinyddiaeth a Cristion. Yn ei dro, bu'n olygydd Cristion, Y Cofiadur a Diwinyddiaeth. Ar gais Cymdeithas Emynau Cymru, bu'n darlithio, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977, ar 'Emynwyr Bro Maelor' a chyhoeddwyd y ddarlith yn Bwletin y Gymdeithas (cyfrol 2:1) yn 1978. Yn Undeb yr Annibynwyr Bro'r Preseli ym 1990, ef oedd yn traddodi'r ddarlith Dyfnallt ar y testun 'Diwinyddiaeth D. Miall Edwards.' Bu'n gweithio ar hanes bywyd a chyfraniad y gŵr hwnnw, fel y tystia'r bennod sydd ganddo amdano yn y gyfrol, Athrawon ac Annibynwyr, a olygwyd gan Pennar Davies. Cyhoeddodd, ar y cyd â George Brewer, y ddwy gyfrol Cristnogaeth a Chrefydd ym 1968 a phennod ar 'Yr Annibynwyr Yfory' yn Iorwerth Jones, gol., Yr Annibynwyr Cymreig ddoe, heddiw ac yfory (1989).

Daeth cryn llwyddiannau i ran Eifion droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Un ohonynt oedd hwnnw yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1967, pan ddaeth yn fuddugol ar draethawd ar 'Fywyd a Gwaith Gwilym Bowyer,' a gyhoeddwyd yn llyfr gan Wasg John Penri ym 1968. Wrth baratoi'r gwaith hwnnw, bu'n chwilio am bob manylyn am fywyd ei wrthrych. Arferai Gwilym Bowyer wrth bregethu ac annerch godi ei law dros ei dalcen o bryd i'w gilydd. Bu Eifion yn fy holi am hynny, a hoffai wybod prun ai'r llaw dde neu'r aswy a gâi ei chodi felly ganddo! Yn ei feirniadaeth ar draethawd 'Angst' (sef Eifion Powell), dywedodd Dr. Tudur Jones fod 'hwn yn draethawd campus, yn gytbwys, cryno a diddorol.'

Etholwyd Eifion Powell yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1996-97, a thraddododd ei anerchiad o gadair yr Undeb yng Nghapel Pendref, Bangor, ar y testun, 'Gras a'r Genhadaeth.' Ef oedd Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru 1998-2001. Gwasanaethodd hefyd ar amryw o bwyllgorau gwahanol ei enwad a bu'n Gadeirydd Bwrdd Cenhadol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Adran yr Eglwys a'i Gweinidogaeth. Bu'n Gadeirydd Adran Ewrop o Gyngor y Genhadaeth Fydeang (CWM), a chefais yr hynawsedd o'i gwmni ar ddau achlysur pan oedd y Cyngor hwnnw'n cyfarfod, y naill yn Hong Kong a'r llall yn St. Andrews. Yr oedd ei hoffter yn fawr o'r lle olaf hwnnw, a mynnych yr âi yno ar wyliau.

Nodweddid Eifion gan hiwmor iach. Yn wir, wrth gofio am fro ei febyd yn ardal Cwmgors, dywedodd fel y bu iddo 'gael ei gyflyru gan ffraethineb amlwg yr ardalwyr i sylweddoli pwysigrwydd hiwmor mewn bywyd, nid yn unig fel cyfrwng i bobl chwerthin, ac i anghofio gofidiau, ond hefyd fel cyfrwng i ni ddysgu byw gyda'n hunain a chyda'n gilydd mewn gostyngeiddrwydd'. Cwbl nodweddiadol ohono oedd ei ymateb i gwestiwn yr arbenigwr yn Ysbyty'r Waun, Caerdydd, a ofynnodd iddo a hoffai gael triniaeth 'by-pass'. Ateb Eifion oedd, 'Mae nhw wedi cael un yng Nghaerfyrddin ac yn Nolgellau, felly cystal i minnau gael un!'

Yn fuan wedi i Eifion ddod yn Brifathro, bu farw'i briod, Rebecca ym 1993. Yr oedd hi'n wraig arbennig o ddawnus mewn amryfal feysydd a bu'n gymorth mawr i'w phriod yn ei waith mewn llawer ffordd. Cyhoeddwyd dau o'i hemynau yn Caneuon Ffydd (81, 738). Ym 2002, priododd Eifion Catherine Lane, a chawsant saith mlynedd dedwydd gyda'i gilydd. Ar ei ymddeoliad o'r coleg gwahoddwyd ef yn ôl eilwaith i fod yn weinidog yr eglwys ym Minny Street, Caerdydd, ac ystyriai hynny 'yn un o freintiau' ei fywyd. Bu yno o 1999 hyd 2002.

Bu Eifion Powell farw ar 24 Mehefin, 2009. Daeth torf ynghyd i'w angladd yng Nghapel Minny Street, Caerdydd, ar ddydd Llun, 6 Gorffennaf. Roddwyd ei lwch ym medd ei rieni ym mynwent yr Hen Garmel, yng Ngwauncaegurwen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.