Ganed William Edwards yng Nghaerffili ar 6 Rhagfyr 1821 yn un o bum plentyn Evan Edwards, meddyg teulu yng Nghaerffili, a'i wraig Caroline Morgan. Yr oedd William yn or-wyr i William Edwards, gweinidog enwog capel hanesyddol Groes-wen, Caerffili ac ym 1756 yn bensaer y bont sy'n croesi'r afon Taf ym Mhontypridd, y bont rhychwant sengl fwyaf yn Ewrop ar y pryd.
Wedi derbyn egwyddorion iachau fel prentis i'w dad, aeth William ymlaen i Goleg y Brifysgol, Llundain i dderbyn addysg feddygol ffurfiol, gan nad oedd cyfle i fechgyn Cymru hyfforddi'n feddygon yn eu gwlad eu hun ar gychwyn oes Fictoria. Mewn cyfweliad i'r South Wales Daily News ar achlysur dathlu ei ben-blwydd yn wythdeg naw oed, galwodd Edwards i gof pa mor hir ac anodd yr oedd y daith o'i gartref i Lundain yn ystod degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 'Rhyw saith deg mlynedd yn ôl, pan gychwynnais am Lundain, cymerai'r daith ddau ddiwrnod i mi; gallaf ei gwneud bron mewn dwy awr heddiw! Roedd yn rhaid i mi gerdded i Gasnewydd, yna ar long bost i Fryste; ac oddi yno mewn coets i Lundain.' Yn fyfyriwr disglair, derbyniwyd Edwards yn Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ym 1842, ac yn wr gradd Cymdeithas yr Apothecariaid y flwyddyn ganlynol. Ym 1844 graddiodd yn MB Llundain gyda rhagoriaeth, gan ennill medalau aur mewn anatomi, ffisioleg, gwyddor meddyginiaethau a bydwreigiaeth.
Dychwelodd Edwards i Gymru ym 1844, ac wedi cyfnod byr yn feddyg yn Llanfabon ger ei gartref teuluol, symudodd i Gaerdydd, gan sefydlu practis yn 75 Crockherbtown yng nghanol yr hyn a oedd ar y pryd yn dref fechan. Wedi derbyn MD o Brifysgol Llundain ym 1850 ymunodd â staff yr hyn a adweinid ar y pryd yn Ysbyty Morgannwg a Mynwy (Glamorganshire and Monmouthshire Infirmary) fel llawfeddyg anrhydeddus ym 1851, swydd a ddaliodd tan 1862 pan ddaeth yn ail feddyg yr ysbyty. Parhaodd i wasanaethu fel meddyg anrhydeddus yr Ysbyty tan ei ymddeoliad ym 1886, ac fe'i dyrchafwyd i reng y meddygon a'r llawfeddygon ymgynghorol, gwladweinyddion hyn y proffesiwn a oedd wedi rhoi'r gorau i ymarfer meddygaeth. Parhaodd i fod ynghlwm â gweinyddiaeth yr ysbyty mewn nifer o ffyrdd am weddill ei fywyd, gan wasanaethu yn gadeirydd y pwyllgor rheoli yn ystod yr 1890au. Yr oedd yn un o brif ysgogwyr sefydlu Cymdeithas Feddygol Caerdydd a ffurfiwyd ym 1870 i ddarparu fforwm lleol i drafod materion meddygol, ac fel prif feddyg yr Ysbyty, fe'i hetholwyd yn is-lywydd cyntaf ac ail Lywydd y Gymdeithas y naill ar ôl y llall.
Er ei holl ymrwymiadau meddygol, cymerodd Edwards ran weithredol dros ben ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol yr hyn a oedd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dre gynyddol lewyrchus a hunan hyderus. Roedd yn Annibynnwr ymroddgar a fynychai Gapel Annibynnol Charles Street yn gyson hyd at ei farw, ac yn gefnogwr blaenllaw i'r Gymdeithas er Rhyddhad, a oedd wedi ymrwymo i sicrhau datgysylltu oddi wrth Eglwys Loegr. Yr oedd hefyd yn aelod blaenllaw o'r Gymdeithas Ryddfrydol leol, gan wasanaethu fel is-lywydd am nifer o flynyddoedd. Yn wir, bu Edwards am flynyddoedd yn gyfaill agos i John Batchelor, maer Caerdydd ym 1853, a radical pennaf y dref yng nghanol oes Fictoria, a gaseid ac a gerid yn gyfartal gan y bobl leol. Gwasanaethodd Edwards yn ustus bwrdeistref Caerdydd a Sir Forgannwg, ac am rai blynyddoedd bu'n gynghorydd tref tan i bwysau ei ymrwymiadau amrywiol ei orfodi i sefyll lawr, 'er mawr siom y trefolion', fel yr adroddodd y Western Mail, 'gan iddynt weld ynddo wr a allai esgyn uwchlaw ystyriaethau plaid pan oedd angen ystyried buddiannau'r fwrdeistref'.
Yr achos agosaf at galon Edwards y tu allan i faes meddygaeth oedd datblygiad addysg ymhob lefel. Bu ynglyn a datblygiad addysg gynradd anenwadol yng Nghaerdydd drwy fudiad yr Ysgolion Prydeinig (British School) o ddiwedd yr 1840au, a daeth yn aelod gweithgar o Fwrdd Ysgol Caerdydd yn ystod yr 1880au a'r 1890au, gan wasanaethu yn is-gadeirydd o 1890 tan i'r Bwrdd gael ei ddiddymu ym 1904. Erbyn hynny roedd ei ymrwymiad i hybu addysg uwch i raddau'n gryfach hyd yn oed. Yr oedd Edwards yn gefnogwr cynnar o'r ymgyrch i greu coleg prifysgol yng Nghaerdydd, ac yn union wedi sefydlu Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy (a gymerodd drosodd yr hyn a oedd gynt yn hen adeilad yr Ysbyty) ym 1883, rhoddodd £500 i gronfa datblygu'r Coleg, a bu'n yn llywodraethwr am oes o'r Coleg, ac yn aelod o'r Cyngor llywodraethol, swydd a gadwodd tan 1897. Ar ôl hynny gwasanaethodd yn un o is-lywyddion y coleg tan ei farw.
O'r cychwyn yr oedd Edwards yn benderfynol y dylai'r Coleg gael ysgol feddygol, nid ysgol feddygol lawn ar y pryd - ar wahân i unrhyw ystyriaethau eraill roedd y cyfleusterau yng Nghaerdydd yn hollol annigonol - ond rhywle lle medrai darpar feddygon o Gymru hyfforddi yn ystod eu blynyddoedd cynnar pan oeddent ar eu mwyaf bregus. Yn ystod y cyfweliad papur newydd y cyfeiriwyd ato'n gynt eglurodd Edwards ei gymhelliad; 'Chi oedd arloeswr yr Ysgol Feddygol, Dr Edwards? Caeodd y meddyg ei lygaid. Roeddwn am i bob bachgen o Gymro gael y cyfle gorau i astudio meddygaeth gartref'. Sicrhaodd y llwyfan gorau i symud ei fwriad ymlaen pan gyfarfu'r pum deg a thrydydd cyfarfod blynyddol o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghaerdydd yng Ngorffennaf 1885. Fel y meddyg mwyaf blaenllaw yn ne Cymru, fe'i hetholwyd yn llywydd, ac mewn araith gynhwysfawr i'r cynadleddwyr trafododd y datblygiadau mewn gwyddoniaeth feddygol oddi ar ymweldiad blaenorol y gymdeithas a Chymru (yn Abertawe ym 1853), a'r cerrig milltir diweddaraf ym meysydd cymdeithasol, economaidd a hanes diwylliannol Caerdydd, achubodd ar y cyfle i gyfeirio at ei ddyhead i gael ysgol feddygol yng Nghaerdydd: 'Gobeithiwn yn y dyfodol agos weld ysgol feddygol ynghlwm a'n Coleg, ar hyn o bryd nid oes un yng Nghymru, er iddi anfon nifer fawr o fyfyrwyr meddygol i brifysgolion Iwerddon, yr Alban a Llundain'. Aeth ymlaen i addo £1,000 yn gyhoeddus tuag at sefydlu'r ysgol. Gwnaeth meddygon eraill, yn enwedig aelodau Cymdeithas Feddygol Caerdydd, a gwyr busnes lleol, ddilyn arweiniad Edwards, ac yng ngwanwyn 1893 yr oedd yn cadeirio'r cyfarfod o Gyngor y Coleg i benodi athrawon cadeiriol sefydlol mewn anatomi a ffisioleg i'r ysgol feddygol ar gyfer cychwyn ar y 4ydd o Hydref. Ar 14 Chwefror 1894 agorwyd Ysgol Feddygol Caerdydd yn swyddogol gan Syr Richard Quain, llywydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol, a wnaeth longyfarch 'Cymru fach wrol' ar ei gorchest, a William Edwards yn briodol yn cadeirio'r gweithgarwch. Ym 1911 cyflwynodd Prifysgol Cymru radd anrhydeddus Doctor in Legibus iddo mewn cydnabyddiaeth am ei wasanaeth aruthrol i addysg. Bu Edwards fyw'n ddigon hir i weld yr ysgol yn ffynnu, ac yn cymryd camau breision tuag at gaffael adeiladau newydd a oedd yn deilwng o ysgol feddygol Cymru. Gwaetha'r modd, bu farw ar yr 11 Ebrill 1915 yn 93 oed, ychydig wythnosau cyn gosod y garreg sylfaen ar gyfer Canolfan ffisioleg fodern ar Heol Casnewydd, a ariannwyd gan y meistr glo a'r dyngarwr, Syr William James Thomas.
Ym 1845, priododd William Edwards a Mary Elizabeth Paine, a fu farw'n 1892. Y flwyddyn ganlynol, yn 72 oed, priododd Edith Evangeline Batchelor, un o ferched ei hen ffrind John Batchelor. Bu hi byw am bedair blynedd ar ôl ei farw ef. Ni fu plant o'r un briodas. Rhoddwyd 'yr hen feddyg', fel y cyfeiriwyd ato'n gynnes, ffigwr tadol mawr ei barch ymysg ei gydweithwyr, i orffwys yng nghladdgell y teulu Edwards ym mynwent Sant Martin, Caerffili, ar y 15 Ebrill 1915, wedi cyflawni'n ddiamheuol athroniaeth ei fywyd, 'i geisio gadael y byd yn well nag y'i cafodd'.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.