Ganed Frank Emery ar 15 Mehefin 1930 yng nghartref ei rieni yn Stryd Mownt, Tre-gwyr, Sir Forgannwg. Ganed ei fam Bronwen Myfanwy (Williams gynt) ym Merthyr Tudful yn 1897. Ganed ei dad, William ('Bill') Emery (1897-1962), ym Mhentrebach, Merthyr Tudful, Sir Forgannwg.
Ar enedigaeth Frank, cricedwr proffesiynol oedd ei dad: batiwr llaw dde a bowliwr llaw dde cyflymdra cymedrol. Ym mlynyddoedd cynnar y 1920au chwaraeodd griced dosbarth cyntaf dros Forgannwg a Chymru, gan gynnwys gornestau yn erbyn siroedd Caerhirfryn, Nottingham a'r MCC yn Lord's.
Codwyd Frank yn Nhre-gwyr a chafodd ei addysg yno. Treuliodd lawr o amser yn ei febyd yn cerdded ar hyd tirwedd wledig Gwyr gan edrych tu hwnt i olion amlwg y diwydiant glo a oedd wrth law, i ddarganfod caerau o'r Oesoedd Haearn a Rhufeinig gydag arwyddion o breswylfeydd Eingl-Normanaidd a chlosdiroedd seneddol a cheisio dyfalu sut y daethant i fodolaeth. Yn ystod oriau hamdden ei wasanaeth yn y fyddin, gellid ei weld 'yn tynnu brasluniau taclus o dirwedd Gwyr, mae'n debyg fel llafur cariad', a dyfynnu geiriau'i gyfaill John Andrews. Gwyr oedd y testun arhosol y dychwelodd Emery ato o dro i dro yn ystod ei yrfa: mewn un erthygl ar ddeg yn y cylchgrawn Journal of the Gower Society (1950 , 1951 , 1952 , 1953 , 1954a, b ac c , 1969b , 1970b , 1974b a 1975c ); yn ei draethawd israddedig a enillodd wobrau gan Brifysgol Rhydychen a'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ym 1952; yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1956 , 1957 a 1958 ); yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1965 ), ac mewn pennod a gyhoeddwyd wedi'i farw yn Settlement and Society in Wales (1989).
I Emery, yr oedd tirwedd Gwyr, fel pob tirwedd arall, yn llawer mwy na golygfeydd i'w mwynhau fel profiad esthetig a'u hesbonio fel ymarfer academaidd. Gorweddai Gwyr fechan, dawel, brydferth ar draws llinyn miniog terfysg diwylliannol, lle 'roedd Ewrop Geltaidd Atlantaidd yn wynebu Ewrop Gyfandirol, y ddau yn fynych heb ddeall ei gilydd am fil o flynyddoedd'. Mae'r dystiolaeth i hyn yn weladwy i'r rhai sydd â'r medr a'r sensitifrwydd i'w gweld yn nhirwedd lonydd Gwyr. Cododd yr agwedd yma o dir Gwyr, fel ei golygfeydd prydferth, awen chwilfrydedd deallusol yn Emery a barodd drwy ei oes.
Testun ei draethawd estynedig buddugol pan oedd yn fyfyriwr oedd 'The English Settlement in Peninsular Gower' ac yr oedd ei bapur ym 1957 yn trafod y cysylltiadau rhwng De Cymru a Gorynys dde-orllewin Lloegr yn y ddeunawfed ganrif. Yn ystod y 1980au, datblygodd Emery ei gyfres o ddarlithiau a'i seminarau yn Rhydychen ar ddaearyddiaeth iaith (gyda phwyslais ar y Gymraeg, a oedd yn fyw o hyd yng ngogledd Gwyr). Pe bai wedi byw yn hwy, byddai'n siwr wedi cyhoeddi llawer mwy ar y pwnc hwn na'r rhan a welir yn ei bapur yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1965 ) a'r papur a ysgrifennodd ar y cyd â Paul White yn Area (1976a).
Galwyd ef i gyflawni gwasanaeth cenedlaethol wrth iddo adael yr ysgol ym 1947 gan gael ei hyfforddi gyda Chorfflu Addysgol Brenhinol y Fyddin yn Bodmin. Aeth ymlaen i ddysgu pynciau academaidd (gan gynnwys daearyddiaeth) fel sarsiant yn Ysgol Prentisiaeth y Fyddin, Cas-gwent (lleolwyd y sefydliad hwn yn Beachley mewn gwirionedd).
Wedi'i ddadfyddino ym 1949 aeth Emery i Goleg Iesu, Rhydychen ar Ysgoloriaeth y Wladwriaeth; cafwyd diwrnod o wyliau yn Ysgol Ramadeg Tre-gwyr i ddathlu ei gamp. Ei diwtor yng Ngholeg Iesu oedd J. N. L. Baker. Dyma'r achos, i ryw raddau o reidrwydd, datblygiad ei ddiddordeb ysgolheigaidd arbennig yn ysgrifau'r parthlunwyr cynnar a gwaith y naturiaethwr, archeolegydd ac ieithydd amlwg Edward Lhuyd. Heblaw ei gariad am y dirwedd ei hun, teimlai Emery gydnawsedd gyda'r dynion hyn a oedd, fel ef ei hun, 'wedi'u cynhyrfu gan eu hymwybod o ardal a'r sêl i ddatgelu gwybodaeth i eraill'. Dyna'i ddisgrifiad o Robert Gordon a Robert Sibbald ym 1958.
Yr oedd dau gyhoeddiad dan ei enw wedi ymddangos yn barod, cyn iddo ennill gradd dosbarth cyntaf mewn daearyddiaeth ym 1952, pan ddechreuodd Emery ar ei thesis ôl-raddedig ar ranbartholdeb Prydeinig yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Dyfarnwyd iddo'r radd B.Litt ym 1955 a derbyniodd ei radd M.A. yr un pryd. (Anarferol, ar y pryd, oedd cynnig thesis am radd doethur, er i arolygwyr ei radd B.Litt fod o'r farn ei fod yn haeddu gradd uwch.) Wedi blwyddyn yn unig o waith ymchwil llawn-amser, fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Cynorthwyol mewn daearyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Dyrchafwyd ef i ddarlithyddiaeth lawn ym 1956. Yno y cyfarfu ef â Muriel P. (Pat) Male (ganwyd yng Nghasnewydd, Sir Fynwy yn 1928). Priodasant yn sir Fynwy ym 1956. Yr oedd Emery'n falch iawn o fod yn fab-yng-nghyfraith i 'Ossie' Male (Athro ysgol, ganwyd yng Nghasnewydd 1893), cefnwr rygbi i dîmau Cross Keys, Pontypwl a Chaerdydd a rhwng 1921-28 ac i dîm cenedlaethol Cymru, y bu'n gapten arno ym 1928.
Dychwelodd Emery i Rydychen fel Arddangoswr Adran a Darlithydd mewn daearyddiaeth yn Neuadd Sant Pedr ym 1957. Ym 1959 penodwyd ef i swydd newydd ei chreu, sef darlithydd mewn Daearyddiaeth Hanesyddol yn Rhydychen a theimlai'n freintiedig mai ei swydd ef oedd yr unig un yn yr Adran Ddaearyddiaeth i'w ddisgrifio'n arbennig felly. Ychydig fisoedd cyn marwolaeth ei dad ym 1962, etholwyd ef yn Gymrawd a Thiwtor Daearyddiaeth yn Sant Pedr a oedd wedi'i gydnabod ychydig ynghynt yn goleg llawn ym Mhrifysgol Rhydychen. Athrawes ysgol yn Rhydychen oedd Pat ac yno y ganed eu plant, Caroline a Susan. Treuliodd Frank weddill ei oes yn ei swyddi yn y brifysgol a'r coleg hyd at ei farwolaeth ym 1987.
Taflodd Emery ei hun yn llwyr i weinyddiaeth a bywyd beunyddiol ei adran a'i goleg yn ogystal. Gwasanaethodd yn ddi-gwyn mewn swyddi sefydliadol, ar bwyllgorau a byrddau arholiadol. Yr oedd ei barodrwydd yn golygu y derbyniai fwy o wahoddiadau i weithredu felly na'r cyffredin. Efallai, hefyd, yr oedd ei allu i aros y tu allan i glymau dadleuon astrus a'u gweddnewid yn destun chwerthin wedi'i werthfawrogi'n wrthrychol yn gymaint ag y'i mwynhawyd yn oddrychol. Canlyniad anochel ymrwymiad Emery i weinyddiaeth a'i allu i gael ei ddifyrru ac i ddifyrru eraill, oedd i'w gydweithwyr fethu â sylweddoli gymaint o amser a wariai ar ddysgu, ar ymchwil ac ar ysgrifennu, nac ychwaith am yr ymroddiad, yr angerdd a'r manylder a roddodd ef i'r meysydd hyn. Ei arfer oedd darlithio ac arwain seminarau a dosbarthiadau tiwtorial ar ffynonellau a dulliau a welwyd mewn daearyddiaeth hanesyddol; hynny yw, yn ymwneud â Lloegr 1650-1800; tarddiad a newidiadau yn y dirwedd Brydeinig; newidiadau diweddar yn nhirwedd ucheldiroedd Prydain a Ffrainc; daearyddiaeth iaith; daearyddiaeth hanesyddol deheubarth Affrica ac ymchwiliad daearyddol ac ymrannu tiroedd yn Affrica. Er iddo'n amlwg fwynhau dysgu mewn dosbarth, ni allai unrhyw un a aeth yn gwmni iddo ar un o'r gwibdeithiau cyrsiau maes a gyfrannodd i raglen addysg Daearyddiaeth yn Rhydychen amau nad dyma'r ffordd o ddysgu a garai'n fwyaf. Uchafbwynt profiad addysg sawl myfyriwr israddedig yn Rhydychen (er syndod iddynt yn fynych) oedd ymweliad yng nghwmni Emery â phentref anghyfannedd Hampton Gay.
Yr oedd y math o ddaearyddiaeth a ddysgid yn Rhydychen, gyda phwyslais ar dirwedd fel mynegiant synoptig o'r berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd materol, gyda chyfran helaeth o gyrsiau maes, yn dderbyniol i Emery ac yn cynnig ysbrydiaeth iddo. Cyfunodd hyn yn llyfn gydag ymchwilio brwd ysgolheictod a drwythwyd ynddo gan J. N. L. Baker a'r brwdfrydedd a ddatblygwyd yn ei febyd i gynhyrchu'r myfyrdodau a fynegodd yn ei gyhoeddiadau. Beth sydd yn nodedig am restr ei ysgrifau ydyw nid yn unig ei hyd, nac ychwaith maint y testunau a gatalyddwyd o gylch ei gariad at dirwedd a'i hanes, ond y ffaith iddo beidio erioed â rhoi'r gorau i unrhyw faes ymchwil wrth i'r diddordebau ymledu. Unwaith iddo gael ei hudo gan unrhyw bwnc, ni allai Emery ystyried ei ollwng - tystiolaeth huawdl i'r ymroddiad personol a nodweddai ei waith.
Wedi symud yn barhaol i Rydychen i fyw, datblygodd Emery y datgysylltiad a'r pellter a ychwanegodd ryw gyfaredd i dirwedd Cymru'n gyfan gwbl yn ychwanegol at y diddordebau a fagodd cyn hynny. Ei lyfr cyntaf oedd Wales, sef yr ail gyfrol yng nghyfres Longman The World's Landscapes (1969a). Mae'n arddangos i'r eithaf yr ysgolheictod trylwyr, y ddynoliaeth a'r hoender a nodweddai ysgrifau Emery ac a'u gwnaeth yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ac yn awdurdodol ymhlith academyddion. Fe ddaeth ei gyfrol Wales ar unwaith yn gyfeirlyfr ar dirwedd Cymru a chadarnhawyd ei enw fel y prif awdurdod ar y pwnc; cyfrannodd benodau ar yr un testunau i ddau lyfr a ymddangosodd yn ddiweddarach (1972 a 1989). Ymddiddorodd trwy gydol ei oes yn Edward Lhuyd a'i bethau. Gwelwyd anterth hynny yn ei lyfr Edward Lhuyd F.R.S. (1660-1709) (1971a), er iddo gyfansoddi pum erthygl arall am waith ymchwil Lhuyd.
Yn 1964 dechreuodd gyhoeddi gwaith ar dirwedd Rhydychen a'r cylch - a ysbrydolwyd, heb os, gan ei ddyletswyddau fel athro yn ogystal â'i ymatebolrwydd greddfol i'r dirwedd y trigodd ynddi. Eto, gwelwyd cyflawnder y gwaith hwn mewn llyfr sydd yn boblogaidd gyda darllenwyr, ond sydd hefyd yn awdurdodol. Dilynwyd The Oxfordshire Landscape gan erthyglau ymhellach ar yr un pwnc, yr olaf ohonynt ym 1984.
O'r dechreuad bu'r ffordd y mae tirweddau'n mynegi anghenion newidiol materol cymdeithasau yn cyfareddu Emery. Roedd ei erthyglau cyntaf mewn cylchgronau cenedlaethol yn sôn am y gyfundrefn amaethyddol a greodd tirwedd Gorllewin Morgannwg ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'n fwyaf adnabyddus i haneswyr, yn ôl pob tebyg, am ei benodau ar ffermio yng Nghymru yng nghyfrolau The Agrarian History of England and Wales (gol. H. P. R. Finberg (1967) a Joan Thirsk (1984a)). Er ei fod mewn cydymdeimlad ag ysbryd Adrannau Daearyddiaeth Aberystwyth a Rhydychen a edmygai ac a amlygai, gochelodd yn llwyr rhag ysgrifennu trefnegol; mae ei ymwybyddiaeth graff am bynciau trefnegol i'w weld yn yr erthygl, a ddyfynnir yn fynych, am wasgariad amaeth meillion yng Nghymru (1975c). Eto, parhaodd y diddordeb yma hyd ei farwolaeth. Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd treuliodd oriau hir, (bob tro wrth yr un ddesg a oedd yn ffefryn ganddo) yn Llyfrgell Duke Humphrey yn Llyfrgell Bodley, y rhan fwyaf ohonynt mewn dadansoddiad manwl o restrau profeb Swydd Rydychen yn chwilio am batrymau arloesol yn amaeth y sir yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif.
Drwy ddegawd olaf ei fywyd roedd y mwyafrif o gyhoeddiadau Emery, yn cynnwys dau lyfr a deg papur ysgolheigaidd, yn ymwneud â thirwedd De Affrica, ac yn arbennig Natal, o safbwynt y dynion gwyn cyntaf a ddaeth o hyd i'r lle. Dychwelodd yno ym 1979, 1984 a 1985 wedi peth amser fel darlithydd gwadd ym Mhrifysgol Natal yn Pietermaritzburg ym 1967/68. Fel yn Swydd Rydychen, amhosibl ydoedd i Emery beidio â chael ei swyno gan y dirwedd lle y trigai, nac i beidio ceisio dyfalu ynglyn â'i tharddiad. Heb os, ychwanegwyd siarprwydd oherwydd dieithrwch y dirwedd o'i gymharu â'r hyn oedd i'w weld ym Mhrydain. Achos arall oedd y ffaith mai Cymry oedd ymhlith y cyntaf o drigolion Ewrop i gael profiad o'r wlad: clerigwyr fel y Parchg. John David Jenkins, ond yn bennaf aelodau'r 24ain gatrawd o Filwyr Traed, a fu'n ymladd yn y rhyfel yn erbyn y Zulu (wedi cael ei hailenwi'n Gatrawd Gyntaf a'r Ail Gatrawd Cyffinwyr De Cymru ym 1881) a'r rhyfel yn erbyn y Boeriaid. Rhoddodd Emery gefnogaeth arbennig i'w hamgueddfa yn Aberhonddu. Yn llythyron y milwyr gartref o Dde Affrica dadorchuddiwyd storfa anghymharol o wybodaeth i Emery, sut yr oedd eraill o'i flaen wedi ymateb i'w profiadau cyntaf o'r dirwedd estron, a sut yr oedd oeddent wedi gweithredu i'w meistroli a gadael eu hôl ei hunain arni.
Bu farw Emery ar 6 Hydref 1987 yn agos i Hampton Gay. Corfflosgwyd ei weddillion yn Rhydychen a chynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yng ngholeg Sant Pedr ar 21 Tachwedd 1987. Fe fydd yr amrywiaeth a welir yn ei bum llyfr a mwy na hanner cant o bapurau ysgolheigaidd, ceinder a ffraethineb ei ysgrifennu, ynghyd â'i ymroddiad llwyr i astudiaeth tirwedd, sy'n disgleirio trwy ei waith ar ei hyd, yn sicrhau llu o ddarllenwyr i Emery am lawer blwyddyn i ddyfod. Cofir amdano gydag edmygedd a pharch gan y cyhoedd a chan y gymdeithas ysgolheigaidd; nid yn unig, fel y byddai wedi dewis yn wylaidd ei hun, fel un o'r bobl a oedd 'wedi'u cynhyrfu gan eu hymwybod o ardal a'r sêl i ddatgelu gwybodaeth i eraill', ond hefyd fel un o'r rheini a wnaeth fwyaf i ysbrydoli'r fath safonau mewn pobl eraill.
LLYFRYDDIAETH
Dyddiad cyhoeddi: 2011-09-21
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.