EVANS, DAVID (1879-1965), gwas sifil ac emynydd

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1965
Priod: Dinah Evans (née Griffiths)
Plentyn: Maria Beryl Roberts (née Evans)
Rhiant: Jane Evans (née Jones)
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwas sifil ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Alun Roberts

Ganwyd ef ym Mlaenpennal, Ceredigion 26 Medi 1879 yn un o ddeg plentyn David Evans a'i wraig Jane (gynt Jones). Yr oedd ei dad, ffermwr Caerochor, yn weithgar yn y gymdogaeth leol, yn aelod o Fwrdd Ysgol Blaenpennal a Lledrod Isaf ac yn flaenor yng nghapel MC Peniel. Addysgwyd David yn ysgol fwrdd Tanygarreg lle y daeth, yn ôl yr hanes, yn ddisgybl-athro llym yn 1895 ar gyflog o £5 y flwyddyn. Yr ysgol feistr yr adeg honno oedd John Finnemore, athro hynod effeithiol, awdur adnabyddus llyfrau i fechgyn ac yn ddiamau, fel y byddai David Evans yn cydnabod maes o law, yn ddylanwad pwysig ar ei ddatblygiad meddyliol yn ei flynyddoedd ffurfiannol. Wedi gadael yr ysgol dechreuodd ar yrfa yn athro ysgol, yn athro cynorthwyol am gyfnod byr yng Nghwmcarn ger Casnewydd, ac yna'n brifathro ysgol y cyngor yng Nghynwil Elfed, Sir Gaerfyrddin hyd 1913.

Ond erbyn hynny yr oedd wedi penderfynu newid llwybr ei yrfa oherwydd yn 1912 yr oedd wedi sefyll Arholiad y Gwasanaeth Sifil ar gyfer staff allanol Comisiwn Yswiriant Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd ef yn gyntaf ar restr yr ymgeiswyr llwyddiannus a chychwynnodd ar ei ddyletswyddau ddechrau 1914. Treuliodd y saith mlynedd nesaf yn gweithio ym Merthyr Tudful, Hwlffordd a Chaerfyrddin cyn cael ei ddyrchafu'n arolygydd rhanbarthol Caerdydd a Dwyrain Morgannwg yn 1921. Yn y swydd hon bu'n ymwneud llawer ag effeithiau'r dirwasgiad yn ne Cymru a chroesawyd yn gyffredinol ei benodi'n Brif Arolygydd Bwrdd Iechyd Cymru yn 1932 yn olynydd i'r diweddar R. Trefor Williams. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Ddirprwy Swyddog Hyn Rhanbarthol Rhanbarth Cymru o'r Weinyddiaeth Iechyd gan gyfuno'r dyletswyddau â rhai'r Prif Arolygydd. Ymddeolodd o'r Gwasanaeth Sifil yn 1944.

Yn ystod ei flynyddoedd yng Nghaerdydd yr oedd David Evans wedi ymgysylltu â llawer o gyrff cymdeithasol a chrefyddol, yn arbennig eglwys Bresbyteraidd Crwys Road lle y gwasanaethodd am nifer o flynyddoedd yn flaenor ac yn 1941 yn ysgrifennydd cyffredinol. Yr oedd hefyd yn aelod o gyngor Cymdeithas Cymmrodorion Caerdydd. Wedi ymddeol aeth ef a'i wraig i fyw yn Aberystwyth ond symudasant i Borthcawl yn 1951 gan ddal yn weithgar ym mywyd y capel.

Bu David Evans yn fardd cynhyrchiol trwy gydol ei fywyd. Ymddangosodd ei waith cynharaf, peth ohono pan oedd yn laslanc, yn Trysorfa y Plant a chyhoeddiadau Cymraeg eraill dan y ffugenwau 'Aeronian' a 'Gwylltaeron'. Yn ei ugeiniau hwyr yr oedd yn ysgrifennu dan ei enw ei hun ac er bod swm ei gynnyrch yn lleihau wrth i'w yrfa ddatblygu yr oedd yn dal i gyhoeddi barddoniaeth yn y wasg Gymraeg ymhell wedi ymddeol. Coffadwriaethol oedd llawer o'i waith, weithiau i goffáu digwyddiad cenedlaethol megis Diwygiad 1904-05 ond yn fwy cyffredin i gyferio at farw cyfaill neu berthynas. Pan fu farw ei dad-cu yn 1898 lluniodd farwnad 21 o benillion 8 llinell. Tua'r un adeg, efallai ar anogaeth John Finnemore, anfonodd 'Yn Nghôr Caersalem Lan' i Trysorfa y Plant lle y cyhoeddwyd ef fis Medi 1899 dan yr enw barddol 'Aeronian'. Cyfansoddodd Joseph Parry, na wyddai pwy oedd yr awdur, dôn fywiog a daeth dau bennill o'r gân wreiddiol ynghyd â'r gytgan, 'geiriau gan Aeronian', yn ffefryn mawr mewn cymanfaoedd canu. Pan ymddangosodd yr emyn yn llyfr emynau'r Annibynwyr, Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, yn 1921, cambriodolwyd y geirau i'r Parchg Thomas Levi (a fuasai farw yn 1916), golygydd Trysorfa y Plant pan gyhoeddwyd yr emyn gyntaf. Yr oedd yn 1940 cyn i'r Parchg. J. Seymour Rees dadlennu yn y Western Mail pwy oedd 'Aeronian' mewn gwironedd a diau fod gwyleidd-dra cynhenid David Evans wedi'i atal rhag hawlio awduraeth 'O Ganu bendigedig' yn gynt.

Priododd David Evans â Dinah, merch James a Maria Griffiths, Llety Caru, Croesyceiliog, ger Caerfyrddin, yn 1905 a bu iddynt bedwar o feibion ac un ferch. Priododd chwaer ei wraig, Kate, â T.J. Jenkin a fyddai maes o law yn Gyfarwyddwr y Fridfa Blanhigion Gymreig ac Athro Botaneg Amaethyddol Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Bu farw David Evans 20 Awst 1965 yn 85 oed a chladdwyd ef ym mynwent Porthcawl lle y claddasid ei wraig yn 1962.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-11-16

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.