Ganwyd 'Barney' Janner yn Lucknick, Lithuania, a oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, ar yr 20fed o Fehefin 1892, ail blentyn Joseph Vitum-Janner (c.1864-1932) a Gertrude Zwick (c.1864-1902). O fewn naw mis i'w enedigaeth aeth y tad â'r teulu i'r Barri, Morgannwg, lle daeth Joseph Janner yn werthwr dodrefn, yn gyntaf yn 31 Heol Holton ac yna'n y Stryd Fawr. Yn ogystal â'u plentyn hynaf, Rachel, a Barnett, yr oedd ganddynt dri plentyn arall: Sarah, a aned yn 1900 a gefeilliaid, Harry a Gertrude, a anwyd yn 1902. Bu farw Gertrude Janner yn fuan ar ôl geni'r efeilliaid, na oroesodd lawer mwy na'u mam; bu farw Harry yn 1902 a Gertrude yn 1903. Effeithiodd y marwolaethau yma'n fawr ar Barnett Janner, a chynyddodd ei dristwch pan ailbriododd ei dad, a'i lysfam yn profi'n ddigydymdeimlad i'w llysfab.
Addysgwyd Barnett Janner yn Ysgol Heol Holton ac yna treuliodd flwyddyn yng Nghaerdydd gyda theulu Israel Cohen tra oedd yn astudio ar gyfer ei Barmitzvah. Cafodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg y Barri yn dair ar ddeg oed, bu'r prifathro, yr Uwchgapten Edgar Jones yn ddylanwad mawr ar y Janner ieuanc. Trwy gydol ei oes, cadwai Janner ffotograff o Edgar Jones ar ei ddesg, a phan fu farw Gareth Jones, dywedodd Mrs Edgar Jones 'Barney yw ein hunig fab bellach'. Dychwelodd Janner ym Mai 1953 i dalu teyrnged teimladol yng nghynhebrwng Edgar Jones.
Ym 1911 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, lle graddiodd ym 1914 gyda gradd anrhydedd B.A. Yn y Brifysgol fe'i hetholwyd yn llywydd Cyngor Cynrychiolaidd y Myfyrwyr, a daeth yn olygydd cylchgrawn y brifysgol.
Dewisiodd Janner ddilyn y gyfraith fel gyrfa, ac fe'i herthyglwyd i Sidney, Jenkins a Howell, cwmni o gyfreithwyr yng Nghaerdydd, yn 1914. Ymunodd â'r Gwarchodlu Magnelwyr Brenhinol fel milwr cyffredin ar 2 Mawrth 1916, ond ni chafodd ei alw tan 7 Awst 1917, a gadawodd am Ffrainc ar y 24 o Dachwedd. Rai misoedd cyn diwedd y rhyfel dioddefodd effaith peleni nwy mwstard, ac achubwyd ei fywyd gan ymateb chwimwth cyd-filwr. Wedi dychwelyd i Gaerdydd, sefydlodd Janner ei gwmni cyfreithwyr ei hunan, yr oedd ganddo lais siarad coeth, ac yr oedd yn hynod o effeithiol yn y llys. Dechreuodd ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth, a safodd yn aflwyddiannus mewn etholiadau i Gyngor y Ddinas, Caerdydd, y tro cyntaf yn 1921 fel ymgeisydd dros Gymrodyr y Rhyfel Mawr, ac yna yn 1924 fel Rhyddfrydwr. Bu hefyd yn aflwyddiannus pan safodd yn ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Canol Caerdydd yn etholiad cyffredinol 1929.
Priododd Janner Elsie Sybil Cohen yn Synagog Hampstead ar 12 Gorffennaf 1927, gan ymgartrefu yn 50 Heol Tydraw, Parc y Rhath. Cyn sefyll yn etholiad cyffredinol 1929 yr oedd Janner wedi penderfynu symud i Lundain, a chafodd swydd fel cyfreithiwr ac ysgrifennydd i ddau gwmni dodrefn a oedd yn eiddo i'w dad yng nghyfraith, Joseph Cohen. Daeth ail gyfle iddo ymgeisio i'r senedd yn fuan, pan gafodd ei ddewis yn ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Whitechapel a St George yn Stepney mewn is-etholiad ar 3 Rhagfyr 1930. Cynhaliwyd yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth Harry Gosling, yr aelod Llafur, ac nid yw'n syndod i J. H. Hall, yr ymgeisydd Llafur a oedd yn ddyn lleol, ennill yr etholiad. Cafwyd canlyniad annisgwyl yn etholiad cyffredinol ym 1931 pan enillodd Janner y sedd oddi ar Hall, yn bennaf am i Harry Pollit, yr ymgeisydd Comiwnyddol, gymryd tua 2,500 pleidlais oddi wrth y Blaid Lafur.
Testun araith gyntaf Janner yn Nhy'r Cyffredin oedd diwygio prydlesi, a oedd yn tynnu ar ei brofiadau fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd. Wedi i'r blaid Natsïaidd ddod i rym yn yr Almaen, gwnaeth Janner ymdrech fawr i dynnu sylw at helynt yr Iddewon yn yr Almaen. Sefydlodd Bwyllgor Seneddol Palesteina, i gadw llygad ar fuddiannau'r Cartref Cenedlaethol Iddewig ym Mhalesteina, a bu'n ysgrifennydd y pwyllgor rhwng 1929 a 1945. Collodd Janner ei sedd yn etholiad cyffedinol 1935 mewn brwydr uniongyrchol rhyngddo a Hall. Cydnabu bod rhagolygon ei ddyfodol etholiadol yn llwm yn y Blaid Rhyddfrydol a bod ei ddaliadau gwleidyddol yn gwyro i'r chwith, ac ymunodd Janner â'r Blaid Lafur ym Medi 1936. Tra oedd yn mynychu Cynhadledd y Blaid Lafur yn Bournemouth ym mis Medi, bu Janner yn ddigon ffodus i gwrdd â chynrychiolwyr o etholaeth Gorllewin Caerlyr a oedd yn ystyried dewis ymgeisydd, ac a oedd yn llawn edmygedd o rinweddau Janner. Ar y 9 o Dachwedd 1936 dewisiwyd ef i sefyll yn etholaeth Gorllewin Caerlyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Yn 1937 penderfynodd Janner adael cwmnïau ei dad-yng-nghyfraith a sefydlu ei bractis ei hun fel cyfreithwr yn 200 High Holborn. Datblygodd fusnes lwyddiannus ac ymhlith ei glientau yr oedd Jack Solomons, y trefnydd gornestau paffio adnabyddus. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Janner yn warden ARP yn Llundain. Yn etholiad cyffredinol 1945 cafodd Janner fwyafrif o 7,215 o bleidleisiau dros Harold Nicholson, aelod seneddol cyfredol Gorllewin Caerlyr. Daliodd Janner sedd Gorllewin Caerlyr, a ailenwyd Gogledd-orllewin Caerlyr yn 1951, gydol ei yrfa yn Nhy'r Cyffredin. Fel aelod seneddol gwyliai'n ofalus fuddiannau tenantiaid a hyrwyddodd yn llwyddiannus Ddeddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959 a waharddodd ddefnydd cyllyll clec. Ni cheisodd Janner le, ac ni chafodd gynnig lle mewn llywodraeth; bu'n ymwneud â nifer o grwpiau seneddol, gan gynnwys y Grwp Anglo-Benelux ac yr oedd yn weithgar yn yr Undeb Rhyng-seneddol.
Oddi ar ei ddyddiau fel ysgrifennydd y gymuned Iddewig fechan yn y Barri, chwaraeodd Janner ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus Iddewon Prydain. Etholwyd ef yn aelod o Fwrdd Dirprwyaid Iddewon Prydain yn 1926 ac yn aelod o bwyllgor gwaith Cyfundeb Seionaidd Lloegr yn 1930, yn Gadeirydd yn 1940 a Llywydd o 1950 hyd 1970. Nid oedd yn hawdd cadw cydbwysedd rhwng teyrngarwch i'r Blaid Lafur a theyrngarwch i'r Gymunded Iddewig a chafodd Janner amser anodd pan gollfarnodd y Blaid Lafur ran Prydain ac Israel yn argyfwng Swes. Canlyniad anawsterau fel hyn oedd i Janner fethu â chael ei ethol yn 1964 am bedwerydd tymor yn Llywydd Bwrdd Dirprwyaid Iddewon Prydain. Yr oedd Janner bob amser yn fodlon cynorthwyo achosion Iddewig ac yr oedd yn aelod o nifer o gyrff Iddewig megis Sefydliad Seionaidd y Byd, Cyngor Ewrop o Gyngres Iddewig y Byd. Testun balchder arbennig iddo oedd cael ei wneud yn farchog yn 1961 ar gyfrif ei waith ar y Bwrdd Dirprwyaid. Ac yntau'n 78 oed penderfynodd beidio â sefyll etholiad arall i Dy'r Cyffredin ac yr oedd llawen pan ddaeth ei fab yn ymgeisydd llwyddiannus am sedd Gogledd-orllewin Caerlyr yn etholiad cyffredinol 1970.
Crewyd Barnett Janner yn arglwydd am oes ar 20 Mehefin 1970 gyda'r teitl y Barwn Janner o Ddinas Caerlyr. Mynychai Dy'r Arglwyddi'n gyson a siarad ar faterion cymdeithasol ac Iddewig hyd at ychydig cyn ei farw. Yr oedd gan yr Arglwydd Janner ddiddordeb mawr yn lles anifeiliaid a phum gwaith cyflwynodd fesur preifat i ddwyn holl swau Prydain dan oruchwyliaeth gyfreithiol. Derbyniodd y Llywodraeth ei ymgyrch o'r diwedd a chafwyd y Ddeddf Trwyddedu Swau yn 1981.
Dyn mawr, trwm oedd Janner a wisgai bob amser yn daclus, ddi-fai, yn arbennig o drawiadol yn ei siwt haf ysgafn liw hufen gyda'i garnasiwn coch arferol. Pan gyfarfyddai â rhywun newydd o Gymru, siaradai yn deimladwy iawn am ei flynyddoedd cynnar yn y Barri a Chaerdydd. Yn ei flynyddoedd olaf trigai yn 45 Morpeth Mansions, Morpeth, Llundain. Bu farw yn Ysbyty St Stephen, Fulham, Llundain 4 Mai 1982. Bu'r angladd ym Mynwent Iddewig Willesden ar 6 Mai; traddododd yr Arglwydd Hailsham a'r Arglwydd Elwyn-Jones anerchiadau mewn gwasanaeth coffa yn Synagog St John's Wood 20 Mehefin. Yr oedd yr Arglwyddes Janner hefyd yn weithgar mewn materion cymdeithasol ac Iddewig; bu hi farw 17 Gorffennaf 1994. Yr oedd gan Barnett ac Elsie Janner ddau o blant: yr oedd Greville Ewan Janner yn aelod seneddol etholaeth ei dad, a ailenwyd Gorllewin Caerlyr yn1994, o 1974 hyd 1997, a gwnaed ef yn arglwydd y flwyddyn honno gyda'r teitl yr Arglwydd Janner o Braunstone; priododd Ruth Joan Gertrude Rahle Janner â Philip Geoffrey Morris, yr Ail Barwn Morris o Kenwood, yn 1958.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-02-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.